Wythnos cyn i’r elusen Chwarae Teg ddod i ben, mae gwobrau Womenspire wedi’u cynnal yng Nghaerdydd.

Nod y gwobrau yw dathlu menywod Cymru a chydnabod llwyddiannau rhai o fenywod mwyaf rhyfeddol y genedl.

Cafodd seremoni ei chynnal yn yr Atrium yng Nghaerdydd neithiwr (nos Iau, Hydref 12), gan ddathlu menywod o bob cefndir sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’w bywydau eu hunain a bywydau pobol eraill.

Prif enillydd y noson oedd Patricia Mawuli Porter o Hwlffordd – sy’n beilot, peiriannydd, entrepreneur a model rôl – wrth iddi gipio gwobr Menyw mewn STEM a Phencampwraig Womenspire 2023.

Cafodd ei gwobrwyo am ei brwdfrydedd di-ben-draw, ei phenderfyniad, ei hangerdd am ei gwaith a’i gallu i ryddhau’r potensial mewn menywod eraill.

Cafodd ei magu yn Ghana, lle byddai’n torri coed ar gyfer coed tân ar ôl iddi adael yr ysgol.

Roedd hi’n ofni’r awyrennau uwch ei phen cyn iddi benderfynu dod o hyd i’r maes awyr agosaf a gofyn am swydd, ond doedd dim swyddi yno i fenywod ar y pryd.

Aeth yn ei blaen i ddilyn prentisiaeth a chael ei rhoi ar y gyflogres, ac mae hi bellach yn arbenigwraig ar hedfan a thechnoleg sydd wedi sefydlu Metal Seagulls yn Hwlffordd, lle maen nhw’n adeiladu ac yn gwasanaethu awyrennau.


Yr enillwyr eraill

Cafodd y seremoni wobrwyo ei chyflwyno gan y gyflwynwraig deledu Andrea Byrne o ITV Cymru, a’r actor a chyflwynydd Elin Pavli-Hinde.

Yn ystod y seremoni, clywodd y gynulleidfa straeon ysbrydoledig a newyddion am holl lwyddiannau’r menywod.

Cafodd y digwyddiad ei noddi gan Bute Energy.

Gwobr Cysylltydd Cymunedol (wedi’i noddi gan Mencap Cymru): Rebecca Jones o Gonwy

Menyw hynod sydd byth yn colli’r cyfle i helpu eraill yw Rebecca Jones o Gonwy.

Mae ganddi barlys yr ymennydd ac mae’n defnyddio ffrâm gerdded o ddydd i ddydd.

Mae’n aelod gweithgar a gwerthfawr o Fforwm Conwy Connects, yn arwain grŵp cerdded hygyrch, yn gwirfoddoli i siopau elusen yn ogystal â Brownies, Guides a Rangers.

Gwobr Entrepreneur (wedi’i noddi gan Banc Datblygu Cymru): Manon Llwyd Williams o Wynedd

Yn gefnogwr cymunedol go iawn, sefydlodd Manon Llwyd Williams gwmni Angladdau Enfys, ochr yn ochr â’i ffrind yn ystod y cyfyngiadau clo, ar ôl cefnogi ffrind trwy golled a chydnabod bwlch ar gyfer angladdau modern, creadigol, gwyrdd ac ymagweddau at brofiadau o golled.

Gwobr Hyrwyddwr Cydraddoldeb Rhywedd (wedi’i noddi gan Academi Wales): Hannah Phillips o Ferthyr Tudful

Ar ôl derbyn therapi, dod yn rymus a sylweddoli ei gwerth, penderfynodd Hannah Phillips ysbrydoli a chefnogi merched eraill yn ei hardal leol i deimlo’r un peth, trwy hyfforddi fel seicotherapydd yn ogystal â sefydlu’r digwyddiadau Wonderful Women.

Pencampwraig Gymunedol: Rania Vamvaka o Gaerdydd

A hithau’n gyd-gadeirydd Glitter Cymru ac yn berson cwiar o liw, mae Rania Vamvaka yn fodel rôl anhygoel i bobol mewn cymunedau ymylol.

Mae hi wedi sefydlu canghennau ychwanegol o Glitter Cymru, gan gynnwys Glitter Sisters, gan wneud argraff enfawr o fewn cymunedau ac ysbrydoli newid cadarnhaol.

Gwobr Arweinydd (wedi’i noddi gan Business in Focus): Natasha Hirst o Gaerdydd

Wedi’i geni’n fyddar, daeth Natasha Hirst yn Llywydd anabl cyntaf Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr fis Ebrill eleni, ac mae wedi ymrwymo, trwy ei harweinyddiaeth, i wneud y mudiad undebau llafur yn fwy amrywiol, hygyrch a chynhwysol.

Mae hi hefyd yn gadeirydd Celfyddydau Anabledd Cymru.

Gwobr Dysgwr: Germaine Ngoy Kyabu o Gaerdydd

Bu Germaine Ngoy Kyabu yn gweithio fel athrawes a chyfreithiwr pan gafodd ei gorfodi i ffoi o’i gwlad o Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn 2002, gan ddod i wledydd Prydain.

Cyn hir, roedd hi’n ymgymryd ag amrywiaeth o rolau gwirfoddoli i gefnogi eraill nes iddi gael caniatâd i aros yn 2009.

Bu’n rhaid iddi ddechrau ei dysgu eto i gael lle ar gwrs sylfaen, sydd wedi arwain at gwblhau ei BSc Astudiaethau Tai ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf!

Mae ei hawydd tanbaid i ddysgu yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr eraill.

Gwobr Seren Ddisglair: Molly Fenton o Gaerdydd

Mae Molly Fenton, 21, yn ymgyrchydd ac yn sylfaenydd yr ymgyrch Love Your Period, gafodd ei sefydlu ganddi bedair blynedd yn ôl i roi terfyn ar dlodi mislif a stigma i ddisgyblion ysgol.

Er gwaethaf wynebu llawer o rwystrau a heriau parhaus, mae hi’n defnyddio ei hangerdd a’i phenderfyniad diwyro i effeithio ar gymunedau byd-eang a’u cefnogi.

Gwobr Menyw mewn Iechyd a Gofal (wedi’i noddi gan AaGIC): Kayley Hyman o Went

Gan gydnabod fod bwlch yn y gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sy’n profi problemau celcio, penderfynodd Kayley Hyman sefydlu Holistic Hoarding, a chafodd hi effaith gadarnhaol ar y canlyniadau i’r rhai sy’n cael eu heffeithio.

Drwy addysgu ymarferwyr a sefydliadau eraill a gweithio’n uniongyrchol gyda’r defnyddwyr gwasanaeth hefyd, mae hi wedi dylanwadu’n fawr ar brofiadau a chanlyniadau’r rhai sy’n cael trafferth gyda materion celcio.

Gwobr Menyw mewn Chwaraeon (wedi’i noddi gan Chwaraeon Cymru): Nicola Wheten o Gaerdydd

Ar ôl darganfod y byd bocsio trwy ddigwyddiad codi arian, mae Nicola Wheten wedi torri trwy nifer o rwystrau, nid yn unig i achub a thrawsnewid ei chlwb bocsio lleol, ond hefyd i greu gofod diogel sy’n croesawu ac yn annog merched o bob oed i gymryd rhan mewn bocsio a bod yn rhan o’r clwb.

Gwobr Cyflogwr Chwarae Teg (ar gyfer busnes neu sefydliad, wedi’i noddi gan Pia): Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i wneud bywyd yn well i’w trigolion a’u nod yw creu lle y mae pobol eisiau byw, gweithio a magu eu teuluoedd ynddo – rhywle lle mae gan bawb gyfle cyfartal i ddod ymlaen mewn bywyd.

Un o werthoedd craidd cyhoeddedig y Cyngor yw ‘Byddwn yn dathlu amrywiaeth yn ei holl ffurfiau ac yn gweithio’n ddiflino dros fwy o gydraddoldeb ym mhob un o’n cymunedau’.

Mae’r sefydliad yn sicr yn sbarduno newid ac yn cyflawni eu hymrwymiadau.


‘Gadael ar y brig’

Dywed Lucy Reynolds, Prif Weithredwr Chwarae Teg, fod “straeon ein henillwyr a’n teilyngwyr ysbrydoledig yn rhai sy’n haeddu cael eu rhannu ymhell ac agos”.

“Efallai y bydd llawer yn gwybod erbyn hyn bod Chwarae Teg yn cau yn anffodus yr wythnos nesaf, ond mae clywed am, a gallu tynnu sylw at lwyddiannau’r menywod hynod hyn, wedi sicrhau y gallwn ni mewn rhyw ffordd adael ar y brig,” meddai.

“Ni allaf ddiolch digon i’r tîm yn Chwarae Teg am eu holl waith caled yn dod â’r gwobrau ymlaen ar adeg sy’n heriol iawn iddyn nhw i gyd yn bersonol.

“Rhaid i mi hefyd longyfarch y teilyngwyr, yr enillwyr a phawb a fu’n ymwneud â gwneud Womenspire 2023 yn llwyddiant mawr.

“Mae lle Patricia fel Pencampwraig Womenspire yn adlewyrchu’r heriau aruthrol y mae hi wedi’u hwynebu a’r ffaith ei bod, trwy gryfder ei chymeriad, wedi cyflawni cymaint mewn sector sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion.

“Mae hi’n gweithio’n barhaus i godi merched eraill i fyny a’u helpu i wireddu eu potensial, model rôl go iawn – dyna yw hanfod Womenspire.

“Trwy fenywod fel Patricia, ein teilyngwyr, a phawb sydd wedi cefnogi Chwarae Teg dros y blynyddoedd, y bydd ein hetifeddiaeth a’n gwaith tuag at Gymru gyfartal ar sail rhywedd yn parhau.”