Mae Casnewydd wedi elwa ar £17m o gyllid o’r cynllun Trawsnewid Trefi.

O stondinau marchnad dan do ac arcedau siopa, i amgueddfa a chanolfan hamdden fodern, mae Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, wedi bod yng nghanol y ddinas i weld sut mae £17m o gyllid Trawsnewid Trefi wedi’i ddefnyddio yno.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi derbyn y cyllid ers 2018, trwy’r rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio (TRI) a’r rhaglen Trawsnewid Trefi (TT).

Yn ystod yr ymweliad, gwelodd Julie James sawl prosiect drosti ei hun gan gynnwys:

  • y farchnad dan do newydd (trwy fenthyciad TRI o £2m)
  • y Llyfrgell Ganolog a’r Amgueddfa, lle cafodd gwaith adnewyddu ei gwblhau fis Chwefror, diolch i £1.3m o gyllid TT
  • Canolfan Hamdden a Lles Casnewydd, gyda chymorth grant TT gwerth £7m
  • Tŵr y Siartwyr, sydd wedi ei drawsnewid yn westy pedair seren, diolch i fwy na £600,000 o gyllid TRI
  • yr Arcêd Farchnad restredig Gradd II, sydd wedi’i hailddatblygu gyda £1.2m o gyllid grant TT

‘Calon cymunedau Cymru’

Yn ôl Julie James, mae’r cyllid wedi cael “effaith gadarnhaol” ar ganol dinas Casnewydd, ac mae Llywodraeth Cymru “am i ganol trefi a dinasoedd ledled Cymru fod yn galon i gymunedau Cymru, lle gall pobol gael mynediad at wasanaethau, siopau, a gofod cymunedol a diwylliannol”.

“Mae adfywio canol ein trefi yn gymhleth a dim ond os oes gennym ddealltwriaeth ar y cyd o’r materion sy’n eu hwynebu fydd hyn yn digwydd,” meddai.

“Mae’r rhain yn cynnwys y cynnydd mewn datblygiadau y tu allan i’r trefi sy’n dibynnu ar drafnidiaeth ceir preifat, y twf mewn siopa ar-lein, a thynnu gwasanaethau hanfodol yn ôl.

“Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi wedi’i chynllunio i helpu i wrthdroi’r dirywiad hwn, gyda £125 miliwn dros dair blynedd i ailgreu trefi ledled Cymru.”