Mae hwb trafnidiaeth yn Nociau’r Barri yn wynebu beirniadaeth gan nad oes unrhyw gwmni bysiau yn galw heibio yno.
Mae’r hwb trafnidiaeth hefyd yn gartref i orsaf tacsis a chysgodfa feiciau, ac mae cynlluniau hefyd i gyflwyno mannau gwefru ar gyfer ceir trydan yn y dyfodol.
Roedd disgwyl y byddai’r gwasanaeth bws Adventure Travel yn galw heibio’r orsaf, ond cafodd y cynlluniau eu gohirio ar ôl i’r gwaith adeiladu gychwyn ym mis Ionawr.
Roedd y cwmni Bws Caerdydd hefyd wedi ystyried galw heibio yno, ond does dim un o’u gwasanaethau’n gwneud hynny ar hyn o bryd.
‘Annerbyniol ac anghyfrifol’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r penderfyniad i wario miliynau o bunnoedd ar yr hwb.
“Mae’n annerbyniol iddyn nhw wario £3m ar adeg pan fo cynghorau yn pledio tlodi, ond yn anffodus mae hefyd yn nodweddiadol iawn o Lafur yng Nghymru,” meddai Natasha Asghar.
“Fel cynlluniau trafnidiaeth gyffredinol Llafur ar gyfer Cymru, mae arian yn cael ei daflu at brosiectau heb fawr o oruchwyliaeth a diffyg pendant o ran cynllunio hirdymor.”
Dywed ei bod yn “anghyfrifol” i’r Llywodraeth wario £3m ar y ganolfan drafnidiaeth, gan nad yw’n cael digon o ddefnydd.
Mae Ian Johnston, cynghorydd lleol sy’n cynrychioli Plaid Cymru, hefyd wedi beirniadu’r penderfyniad, gan ddweud ei fod yn “wastraff arian cyhoeddus”.
“Mae swyddogion Cyngor Bro Morgannwg wedi gwneud yn dda iawn i sicrhau bod yr orsaf fysiau wedi’i hadeiladu, ond does dim pwynt mewn gorsaf fysiau heb fysiau,” meddai.
“Does dim byd newydd am y gostyngiad yn nifer y teithwyr yn dilyn Covid-19, ac roedd hynny’n hysbys ymhell cyn adeiladu’r orsaf fysiau yn gynharach eleni.
“Mae hwn yn brosiect mawr gwerth miliynau o bunnoedd na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unrhyw adeg yn fuan am y rheswm y cafodd ei adeiladu.”
‘Adeg anodd i’r diwydiant bysiau’
Yn ôl Cyngor Bro Morgannwg, bydd bysiau o wasanaeth amnewid rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn galw heibio’r hwb yn y tymor byr, ac maen nhw’n cydweithio â darparwyr bysiau lleol er mwyn ceisio cyflwyno’r hwb i ragor o’r llwybrau.
“Yn anffodus, mae’r gyfnewidfa wedi’i chwblhau ar adeg anodd iawn i’r diwydiant bysiau,” meddai llefarydd.
“Mae gostyngiadau yng nghyllid y Llywodraeth, llai o deithwyr ar ôl y pandemig, a phrinder gyrwyr i gyd wedi cyfrannu at ostyngiadau mewn gwasanaethau bysiau.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.