Mae panel ymgynghori sy’n gweithio ar ran Llywodraeth Catalwnia wedi cyflwyno pum opsiwn cyfansoddiadol ar gyfer refferendwm annibyniaeth.

Mae pob opsiwn wedi cael sêl bendith Llywodraeth Sbaen, yn wahanol i 2017 pan oedd y llywodraeth honno’n ystyried y refferendwm gafodd ei gynnal yn un anghyfansoddiadol.

Yn ogystal â’r pum opsiwn, maen nhw wedi cynnig dau fecanwaith arall er mwyn ceisio ateb i’r anghydfod hirdymor rhwng Catalwnia a Sbaen ynghylch y ffordd ymlaen.

Fis Ebrill eleni, sefydlodd Pere Aragonès, Arlywydd Catalwnia, bwyllgor yn seiliedig ar fodel Quebec gafodd ei roi ar waith yng Nghanada ddau ddegawd yn ôl.

Yr opsiynau

Mae’r opsiynau sy’n cael eu cynnig gan y panel fel a ganlyn:

  • Refferendwm yng Nghatalwnia yn unig ar gytundeb newydd i benderfynu rhwng annibyniaeth a chytundeb newydd i aros yn rhan o Sbaen.
  • Refferendwm yng Nghatalwnia yn unig ar y cytundeb blaenorol â Sbaen, gan roi dewis rhwng annibyniaeth a chytundeb newydd – byddai hyn yn cynnwys diwygio cyfansoddiad rhanbarthol Catalwnia (achosodd ymdrechion Sbaen i ddileu rhannau helaeth ohono at gynnydd yn y gefnogaeth i annibyniaeth).
  • Cynnal pleidlais ledled Sbaen ar yr hawl i gynnal refferendwm neu sefydlu cytundeb newydd gyda Chatalwnia – ond mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai hyn arwain at ganlyniadau amrywiol iawn ar draws y wlad a “gwrthdaro o ran ewyllys ddemocrataidd” fyddai’n anodd ei ddatrys.
  • Cynnal refferendwm ledled Sbaen i geisio sêl bendith i gytundeb blaenorol rhwng Catalwnia a Sbaen – yn wahanol i’r opsiwn blaenorol, byddai sêl bendith yn cael ei geisio ar ddiwedd, ac nid ar ddechrau’r trafodaethau.
  • Cynnal dau refferendwm ar yr un pryd – y naill yng Nghatalwnia a’r llall yn Sbaen – a chasglu’r canlyniadau ynghyd. Ond yn debyg i’r trydydd opsiwn, gallai arwain at ganlyniadau amrywiol iawn.

Mecanweithiau eraill

Mae’r panel hefyd yn awgrymu y gallai’r sefyllfa gael ei datrys gan ddefnyddio dau fecanwaith arall.

Un ohonyn nhw fyddai cytundeb gwleidyddol rhwng llywodraethau a seneddau Catalwnia a Sbaen, gyda’r pleidiau gwleidyddol wrth galon y cytundeb.

Yr ail fecanwaith yw cynnal etholiad yng Nghatalwnia – refferendwm i bob pwrpas.

Cafodd pleidlais debyg ei chynnal yn 2015, ond dim ond cefnogwyr annibyniaeth oedd wedi bwrw eu pleidlais, ac fe arweiniodd at ffurfio llywodrath gan Carles Puigdemont – cam gafodd ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan Sbaen.