Mae’r gorchymyn i beidio â charcharu treiswyr oherwydd bod carchardai’n orlawn yn “ganlyniad syfrdanol system gyfiawnder San Steffan sydd wedi torri”, yn ôl Plaid Cymru.

Mae’r Blaid yn galw o’r newydd am ddatganoli’r pwerau dros y system gyfiawnder i Gymru yn dilyn adroddiad yn The Times fod barnwyr wedi cael gorchymyn i ohirio gwrandawiadau dedfrydu o ddydd Llun.

Yn ôl Liz Saville Roberts, sydd wedi ymateb i’r adroddiadau, byddai datganoli’r pwerau i’r Senedd yn caniatáu integreiddio iechyd, tai a pholisi cymdeithasol, ac yn galluogi camau i gael eu cymryd tuag at “ddatrysiadau cymunedol ag adnoddau priodol ar gyfer troseddau risg isel, di-drais”.

Byddai hynny’n creu gofod mewn carchardai ar gyfer troseddau mwy difrifol lle mae’r troseddwyr yn peri risg uchel i’r gymuned, meddai.

Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd wedi beirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig am eu “rhethreg galed ar droseddau” tra eu bod nhw hefyd yn methu â “darparu’r adnoddau mae mawr eu hangen ar y system gyfiawnder”.

Adolygiad y Comisiwn Cyfiawnder yn 2019

Yn 2019, fe wnaeth Comisiwn Cyfiawnder Cymru gyhoeddi eu hadolygiad o’r system gyfiawnder yng Nghymru.

Daeth y Comisiwn i’r casgliad fod “pobol Cymru’n cael eu hesgeuluso gan y system gyfiawnder yn ei chyflwr presennol”.

Prif argymhelliad y Comisiwn oedd y dylid datganoli’r pwerau tros gyfiawnder i Gymru yn eu cyfanrwydd, ac y dylid creu deddfwrfa gyfreithiol i Gymru.

‘Argyfwng’

“Mae’r newyddion fod carchardai’n orlawn ac y bydd treiswyr sydd wedi’u cael yn euog yn rhydd i gerdded ar y strydoedd yn ganlyniad syfrdanol system gyfiawnder San Steffan sydd wedi torri,” meddai Liz Saville Roberts.

“Mae’n argyfwng ar garchardai.

“Fe wnaeth y Ceidwadwyr addo 20,000 o lefydd newydd mewn carchardai erbyn canol y 2020au, ond maen nhw wedi cyflwyno oddeutu 5,500.

“Yn y cyfamser, yn ôl adroddiadau, mae ôl-groniad yr achosion llys wedi cyrraedd 63,000.

“Mae’r amharch tuag at y staff sy’n gweithio o fewn ein carchardai’n amlwg yn y ffaith na fu ymgynghoriad â swyddogion carchardai ac Undeb Cymdeithas y Swyddogion Carchardai hyd yn oed, cyn cyhoeddi’r cam hwn.

“Mae pobol Cymru’n cael eu hesgeuluso gan y system bresennol.

“Mae gan Gymru’r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, ond mae’r Torïaid yn parhau i lenwi’n carchardai â throseddwyr risg isel â dedfrydau byr, yn hytrach na blaenoriaethu lle ar gyfer troseddwyr treisgar.

“Bydd symud tuag at ddatrysiadau cymunedol ag adnoddau priodol ar gyfer troseddau risg isel, di-drais yn helpu i ryddhau llefydd mewn carchardair ar gyfer y rhai sydd wedi cyflawni troseddau difrifol ac sy’n peri risg uwch i’n cymunedau.

“Yn hytrach, mae gwleidyddion San Steffan yn parhau â rhethreg galed ar droseddau, tra’n gwrthod darparu’r adnoddau mae mawr eu hangen ar y system gyfiawnder.

“O ystyried bod iechyd, tai a pholisi cymdeithasol wedi’u datganoli ers 25 mlynedd, mae’n hen bryd i Gymru gael pwerau dros gyfiawnder, fel y gallwn ni greu system gyfiawnder sydd wirioneddol yn ceisio adfer troseddwyr a chreu cymdeithas fwy diogel, yn hytrach na bod yn offeryn sinigaidd i wleidyddion gwan San Steffan ei ddefnyddio at ddibenion gwleidyddol.”