Mae tystiolaeth gafodd ei chasglu yn arolwg Prif Arolygydd Estyn o’r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg yn “gadarnhad pellach” o fethiant ysgolion Saesneg wrth geisio creu siaradwyr Cymraeg hyderus.

Dyna gasgliad Cymdeithas yr Iaith, wrth iddyn nhw ymateb i gasgliadau cychwynnol Owen Evans, sydd wedi’u cyhoeddi heddiw (dydd Iau, Hydref 12).

Mae’r Gymdeithas wedi galw o’r newydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau addysg Gymraeg i bob plentyn yn y wlad erbyn 2050, y flwyddyn mae’r Llywodraeth wedi’i chlustnodi er mwyn bwrw’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

Yr adroddiad

Yn ôl yr adroddiad, mae angen gwelliannau mewn 51 allan o 169 o ysgolion cyfrwng Saesneg – yn enwedig o ran sgiliau llafar y disgyblion – ac mewn naw allan o’r 50 o ysgolion Cymraeg gafodd eu harolygu.

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y cyfleoedd y dylai plant fanteisio arnyn nhw i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol er mwyn gwella’u sgiliau yn yr iaith.

O safbwynt disgyblion uwchradd, dydy disgyblion “ym mwyafrif yr ysgolion” ddim yn gwneud digon o gynnydd o ran eu sgiliau na’u dealltwriaeth “o ddiwylliant a threftadaeth Cymru”.

“Yr ateb” yn ôl Cymdeithas yr Iaith

Dywed Toni Schiavone, cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, mai’r ateb yw “symud pob ysgol yn y wlad i ddysgu cyfran o’r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg”.

Byddai modd cynyddu hynny dros gyfnod o amser, meddai, “fel bod pob plentyn yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn gadael yr ysgol yn hyderus yn eu Cymraeg”.

“Mae’n amlwg erbyn hyn bod y gyfundrefn addysg cyfrwng Saesneg yn methu sicrhau’r cyfle i’n pobol ifanc fod yn siaradwyr Cymraeg rhugl, ac mae sylwadau’r Prif Arolygydd yn gadarnhad pellach o hyn,” meddai.

“Mae cyfle i sicrhau bod hyn yn digwydd yn y Ddeddf Addysg Gymraeg sydd ar y gweill gan y Llywodraeth.”