Mae gan Brif Arolygydd Estyn “bryder” ynghylch y diffyg cynnydd sydd wedi bod yn sefyllfa’r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg yng Nghymru.

Mae Owen Evans wedi cyhoeddi’r hyn mae’n ei alw’n “fewnwelediad cynnar” cyn cyhoeddi ei adroddiad llawn ym mis Ionawr, sy’n cynnwys effaith y pandemig ar ymdrechion ysgolion i wella sgiliau Cymraeg disgylion cynradd y wlad.

Yn ôl yr adroddiad, mae angen gwelliannau mewn 51 allan o 169 o ysgolion cyfrwng Saesneg – yn enwedig o ran sgiliau llafar y disgyblion – ac mewn naw allan o’r 50 o ysgolion Cymraeg gafodd eu harolygu.

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y cyfleoedd y dylai plant fanteisio arnyn nhw i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol er mwyn gwella’u sgiliau yn yr iaith.

O safbwynt disgyblion uwchradd, dydy disgyblion “ym mwyafrif yr ysgolion” ddim yn gwneud digon o gynnydd o ran eu sgiliau na’u dealltwriaeth “o ddiwylliant a threftadaeth Cymru”.

Cwricwlwm newydd Cymru

Mae’r adroddiad hefyd yn trafod y cwricwlwm newydd i Gymru, gafodd ei gyflwyno fis Medi y llynedd.

Mae’n beirniadu athrawon cynradd am ganolbwyntio ar gynnwys yr addysg yn hytrach na’r ffordd maen nhw’n dysgu’r cynnwys, ac yn nodi nad yw’r gwaith cynllunio sy’n cael ei wneud gan ysgolion yn cael effaith gadarnhaol ar brofiadau disgyblion uwchradd chwaith.

Yn ôl yr adroddiad, dylid sicrhau bod “digon o gyfleoedd heriol, ystyrlon” ar gael i ddisgyblion allu datblygu eu sgiliau, a dylai ysgolion addasu a gwella’r cwriclwm ar sail “ystod o dystiolaeth uniongyrchol, gadarn”.

Mae Owen Evans wedi cyhoeddi fideo’n egluro’i fewnwelediadau cynnar: