Mae’r cynlluniau i ailadeiladu hen ffermdy sy’n adfeilion yn llety gwyliau wedi cael sêl bendith cynllunwyr Ceredigion, er gwaethaf pryderon mai ychydig iawn ohono sy’n weddill.

Roedd Eurig ac Eleri James wedi ceisio ailgyflwyno’r breswylfa yn Ty’n Bwlch Lledrod, ynghyd â gwaith cysylltiedig.

Dywed datganiad ategol gan JMS Planning and Development fod yr adfail unwaith yn ffermdy oedd yn sefyll ar ei ben ei hun, gafodd ei brynu gan dad-cu Eurig James yn y 1960au, ac sydd wedi’i ddefnyddio ers hynny i gartrefu gwartheg a defaid ar y fferm 400 erw, sy’n gartref i 800 o ddefaid bridio a 100 o wartheg bridio.

Dywed y datganiad mai’r bwriad yw ailgyflwyno adfeilion yr hen ffermdy fel uned wyliau er mwyn arallgyfeirio’r fferm.

Tro pedol

Roedd argymhelliad i wrthod y cais pan gafodd ei ystyried yng nghyfarfod Hydref 11 o bwyllgor rheoli datblygu Cyngor Sir Ceredigion, gyda swyddogion yn dweud y byddai’r cais gafodd ei ailgyflwyno’n gyfystyr ag adeilad newydd yn hytrach nag addasiad.

Fodd bynnag, roedd panel archwilio safleoedd y Cyngor wedi ystyried bod digon o’r adeilad yn weddill, a chlywodd aelodau fod yr ymgeisydd yn fodlon ymgymryd â chytundeb cyfreithiol Adran 106 i glymu’r ailddatblygiad i’r fferm bresennol.

“Dw i’n cefnogi’r cais hwn 100%; prosiect gwych fydd yn dod ag agwedd arall i’r busnes amaethyddol yma, fydd yn helpu’r fferm hon i symud yn ei blaen i’w bywyd newydd yn y dyfodol,” meddai’r Cynghorydd Wyn Evans, yr aelod lleol.

“Byddwn yn eich annog chi fel pwyllgor i gefnogi’r cais hwn a helpu i gadw ein pobol ifanc yn yr ardal wledig; bydd y prosiect hwn yn hybu ardal Lledrod a’r sir yn ei chyfanrwydd.”

Dywed y Cynghorydd Meirion Davies, aelod o’r panel archwilio safleoedd, ei fod yn “llwyr gefnogol” o’r cais, gan ddweud bod y panel yn teimlo bod yna ddigon o’r adeilad presennol yn weddill i’w addasu.

“Maen nhw’n deulu sy’n gweithio’n galed ac sy’n gweithio ym maes amaeth, a dw i’n meddwl y dylen ni eu cefnogi nhw; mae’n bwysig fod gan ffermydd elfennau eraill i’w busnes,” meddai.

Fe wnaeth y Cynghorydd Gareth Lloyd, oedd wedi gwneud y cynnig, gydnabod fod yna “lwfans uchel” yn nhermau’r hyn sy’n dderbyniol, gan ychwanegu, “Fyddwn i ddim yn dychmygu y byddai unrhyw effaith weledol yn fwy na’r hyn sydd wedi bod yno ers cannoedd o flynyddoedd”.

Fe wnaeth aelodau’r pwyllgor, gydag un yn ymatal, roi cymeradwyaeth yn amodol ar amod Adran 106 yn clymu’r eiddo i’r fferm.