Mae Llywodraeth Cymru wedi galw i mewn y cynlluniau ar gyfer fferm wynt yng ngogledd Powys.

Bydd gweinidogion bellach yn gwneud penderfyniad ar y datblygiad arfaethedig ar dir yn Esgair Cwmowen ger Carno.

Cafodd y cais ei gyflwyno i Gyngor Sir Powys yn 2010, ac roedd yn cynnwys unarddeg o dyrbinau gwynt gyda chapasiti o 37.95 megawat ar ôl eu gosod, mast anemomedr, is-orsaf ac adeiladu rheoli, mynedfa i’r safle, traciau mynediad newydd ac wedi’u gwella, a’r holl waith adeiladu a pheirianneg a thirlunion cysylltiedig, ynghyd â gwelliannau i’r briffordd.

Yn ôl gweinidogion yn Llywodraeth Cymru, roedd y cais yn codi materion o arwyddocâd cenedlaethol, sy’n mynd y tu hwnt i bwysigrwydd lleol.

Ymateb

Yn ôl y Cynghorydd Jake Berriman, yr Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys, cafodd y cais ei gyflwyno chwe blynedd cyn i’r broses ymgeisio Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol gaei ei sefydlu yn 2016.

“Mae’r datblygiad arfaethedig ar gyfer fferm wynt ar y tir gyda dros 10MW o gapasiti cynhyrchu ar ôl ei sefydlu, sy’n bodloni’r meini prawf penodedig yn y broses ymgeisio ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol,” meddai.

“Pe bai’r cais wedi’i gyflwyno ar ôl 2016, byddai wedi cael ei gyflwyno’n awtomatig i weinidogion Cymru.

“Gan fod y datblygiad arfaethedig yn bodloni meini prawf Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol gan ei fod yn codi materion o fwy na phwysigrwydd lleol, bydd gweinidogion Cymru bellach yn penderfynu arno.

“Mae hwn yn brosiect ynni adnewyddadwy sylweddol yr oeddem yn ei gadw’n ‘fyw’ yn y gobaith y byddai’r ymgeisydd wedi gallu datrys y problemau oedd yn dal i fodoli, ond nid yw hyn wedi digwydd hyd yma.

“Bellach, penderfyniad yr ymgeisydd fydd hi i dynnu’r cynigion yn ôl neu barhau gyda nhw.”