Bydd taliadau yn cael eu gwneud i fwy na 15,600 o ffermydd ledled Cymru o heddiw (dydd Iau, Hydref 12) o dan Gynllun Taliad Sylfaenol 2023.

Eleni, am y tro cyntaf, bydd Taliadau Gwledig Cymru yn gwneud y blaendaliadau o fewn cyfnod talu penodol, fydd yn rhedeg tan Ragfyr 15, sy’n golygu y bydd mwy o fusnesau fferm yn gallu manteisio ar y taliadau, yn ôl y Gweinidog Materion Gwledig.

“Rwy’n falch y gallwn ddarparu taliadau ymlaen llaw Cynllun y Taliad Sylfaenol i filoedd o ffermydd ledled Cymru,” meddai Lesley Griffiths.

“Mae’r newidiadau rydyn ni wedi’u gwneud hefyd yn golygu y bydd mwy o fusnesau fferm yn elwa o daliad ymlaen llaw yn ystod y cyfnod talu.

“Bydd Taliadau Gwledig Cymru yn gweithio’n galed i sicrhau bod taliadau balans llawn a gweddill yn cael eu gwneud cyn gynted â phosibl o 15 Rhagfyr.”

‘Sicrwydd i fusnesau ffermio’

Wedi cyfnod o ansicrwydd ariannol yn y diwydiant amaeth, megis colli grantiau Glastir, mae pennaeth NFU Cymru wedi croesawu’r Cynllun Taliad Sylfaenol.

“Yn ogystal â rhoi sicrwydd i fusnesau ffermio, mae’r cyhoeddiad hwn hefyd yn hwb i’n busnesau a’n cymunedau gwledig, ynghyd â’r iaith Gymraeg, wrth i ffermydd Cymru ddarparu sylfaen economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ein cymunedau gwledig,” meddai Aled Jones.

“Er bod llawer o ansicrwydd o hyd i amaethyddiaeth yng Nghymru, mae’r newyddion y bydd lefelau cyllid yn cael eu cynnal ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol 2023 a Chynllun y Taliad Sylfaenol 2024, yn amodol ar argaeledd y gyllideb, yn darparu eglurder a sefydlogrwydd y mae mawr eu hangen a bydd yn cyfrannu rhywfaint at helpu i baratoi ffermwyr ar gyfer yr heriau o’n blaenau.”

Dywed ei bod yn “hanfodol bod yna hyder bod y cynllun newydd yn darparu o leiaf yr un lefel o sefydlogrwydd i fusnesau fferm, y gadwyn gyflenwi a chymunedau gwledig cyn symud ymlaen”.