Mae Llywodraeth Iwerddon wedi “colli cyfle” ar ôl cyhoeddi “cynnydd bach mewn cyllid” ar gyfer yr iaith Wyddeleg, yn ôl mudiad Conradh na Gaeilge.

Maen nhw’n dweud bod cyfle wedi’i golli hefyd i wireddu’r “uchelgais” ar gyfer yr iaith.

Mae gwariant y llywodraeth ar yr iaith yn aros yn gyson ar 0.17%, gyda’r cynnydd lleiaf ers pedair blynedd mewn gwariant ar yr iaith a’i chadarnleoedd – neu’r Gaeltacht.

Fel rhan o’r cyhoeddiad ar y gyllideb, daeth y newyddion fod cynnydd o 9m Ewro ar gyfer yr iaith Wyddeleg a’r Gaeltacht, gyda’r arian yn cael ei rannu rhwng yr Adran Dwristiaeth, Diwylliant, Celfyddydau, Gaeltacht, Chwaraeon a Chyfryngau, a’r sianel deledu TG4.

Mae’r cyllid ar yr un lefel â’r llynedd, er bod dros 130 o fudiadau wedi bod yn galw am gynnydd graddol hyd at 0.4% o wariant y wladwriaeth.

Roedd y cyhoeddiad yn cynnwys pecyn gwerth 4.8m Ewro ar gyfer TG4, a 4.2m Ewro ychwanegol ar gyfer yr iaith Wyddeleg a’r Gaeltacht yn 2024.

‘Pryderon a disgwyliadau dilys’

“Drwy gydol y flwyddyn, mae’r cymunedau Gwyddeleg a’r Gaeltacht wedi lobïo tair plaid lywodraeth yn helaeth i gefnogi gweledigaeth newydd, uchelgeisiol ar gyfer yr iaith,” meddai Paula Melvin, Llywydd Conradh na Gaeilge.

“Fe wnaethon ni gyflwyno Cynllun Twf Iaith Wyddeleg a’r Gaeltacht iddyn nhw oedd yn amlinellu’r ymyriadau cyllidebol oedd eu hangen i fynd i’r afael â’r materion mwyaf brys yn ein cymunedau.

“Er ein bod ni’n croesawu’r cynnydd mewn cyllid ar gyfer TG4, a’r cynnydd o 4.2m Ewro ar gyfer Roinn na Gaeltachta, dydy’r cynnydd ddim yn ddigonol i gyfateb i chwyddiant hyd yn oed, ac rydym yn credu bod y Llywodraeth wedi colli cyfle mawr i wneud cymaint mwy.

“Yn y cyd-destun fod dros 4bn Ewro wedi’i neilltuo ar gyfer Cronfa Iwerddon y Dyfodol tra bod cymunedau’n amlwg wedi’u gadael yn brin, bydd y 138 o grwpiau Gaeltacht a Gwyddeleg hynny yn anochel yn pendroni pam na chafodd eu pryderon a’u disgwyliadau dilys mo’u hateb.”

‘Dim uchelgais’

Yn ôl Julian de Spáinn, Ardrúnaí (llefarydd) Conradh na Gaeilge, dydy’r swm o arian gafodd ei gyhoeddi yn y gyllideb “ddim yn agos at yr hyn sydd ei angen” ar y mudiad.

“Dydyn ni ddim yn credu bod unrhyw uchelgais yn y pecyn cyllido hwn, ac mae bron iawn yn anwybyddu nifer o’r anghenion cyllido brys gafodd eu cyflwyno gan dros 130 o grwpiau Gwyddeleg a’r Gaeltacht dros y misoedd diwethaf,” meddai.

“Yn hytrach na chynyddu, mae cyfanswm gwariant y wladwriaeth ar yr iaith Wyddeleg a’r Gaeltacht yn aros yn ei unfan ar 0.17%.

“Tra ein bod ni’n croesawu’r cynnydd bach mewn cyllid gafodd ei gyhoeddi heddi, dydy e ddim yn ddigon.

“Mae pob ceiniog yn cyfrif, ac rwy’n siŵr y bydd y cyllid newydd yn gwneud gwahaniaeth bach i TG4 ac mewn meysydd eraill, ond mae angen – ac roedden ni’n disgwyl – llawer iawn mwy.

“Mae’r pecyn cyllido hwn bron iawn yr hyn welson ni dros y blynyddoedd – diffyg uchelgais amlwg a diffyg ymrwymiad i ateb anghenion cynyddol ein cymuned.

“Byddwn ni’n parhau i gydweithio â’r 138 o grwpiau’n cefnogi’r cynllun twf dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod, wrth i ni weithio tuag at sicrhau bod y Llywodraeth yn rhoi tegwch a’r arian angenrheidiol er mwyn i’r Plean Fáis gyflawni ei botensial llawn.”