Mae angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd ar frys, wrth i’r swm o arian parod y gall busnesau ei dalu i mewn i swyddfeydd post ostwng, yn ôl Plaid Cymru.

Wrth godi’r mater yn y Senedd, fe wnaeth Mabon ap Gwynfor, sy’n cynrychioli Dwyfor Meirionnydd, ddweud y bydd y newidiadau’n effeithio’n waeth ar fusnesau bach gwledig.

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi cyfyngu ar faint o arian parod y gall busnesau ei dalu i mewn i’r banc mewn swyddfeydd post, ac yn ôl Mabon ap Gwynfor mae’r newid yn golygu bod rhaid i fusnesau bach gyfyngu ar faint o arian parod maen nhw’n ei dderbyn.

Fel arall, gallai olygu eu bod nhw’n gorfod teithio’n bellach â lot fawr o arian parod, meddai, ac mae’n dadlau bod y newid am “effeithio ar hyfywedd y swyddfeydd post gwledig”.

Mae Ffederasiwn Cenedlaethol yr Is-bostfeistri wedi cael gwybod hefyd fod cytundeb y DVLA â Swyddfa’r Post dan fygythiad o beidio â chael ei adnewyddu.

Byddai hyn yn golygu bod eu holl drafodion â’r DVLA am ddod i ben erbyn 2024.

“Rydyn ni’n gwybod fod banciau wedi bod yn cau ar raddfa frawychus dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai Mabon ap Gwynfor yn y Senedd ddoe (dydd Mercher, Hydref 11).

‘Y diweddaraf yn fy etholaeth i ydy cyhoeddiad Barclays eu bod nhw am gau cangen ym Mhwllheli.

“Ond dw i wedi bod mewn trafodaeth efo pob un o’r banciau yma, ac ar bob un achlysur, fel rydych chi’n ei ddweud, maen nhw’n dweud y gall eu cwsmeriaid fynd i’r swyddfa bost agosaf atyn nhw.

“Ond rŵan, yn dilyn argymhellion yr FCA, mae yna gyfyngiadau ar faint o bres y gall busnesau ei roi i mewn i’w cyfrifon banc drwy’r Swyddfa Bost.

“Ydych chi wedi cael trafodaethau gyda’r FCA i dynnu’r mater yma i’w sylw nhw, a pha gymorth ydych chi’n ei roi er mwyn sicrhau bod swyddfeydd post, sy’n cynnig achubiaeth i sawl cymuned, am barhau yn hyfyw?”

‘Achubiaeth i fusnesau bach’ 

Yn ei hymateb, dywedodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Partneriaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, fod Mabon ap Gwynfor yn gwneud “pwynt pwysig” am fanciau a swyddfeydd post.

“Rydyn ni’n cydnabod y rôl sydd gan swyddfeydd post yn y gymuned, yn enwedig wrth i fanciau gau, ac rydyn ni i gyd wedi gweld hyn yn ein cymunedau a’r ardaloedd rydyn ni’n eu cynrychioli, ac yn dweud, ‘Fedrwch chi wneud y gwasanaethau hyn yn Swyddfa’r Post’,” meddai.

“Dw i’n cyfarfod â Swyddfa’r Post yn aml a gyda chynrychiolwyr, ond fe wna i ymrwymiad heddiw i godi’r pwyntiau rydych chi wedi’u codi heddiw yn ein cyfarfod nesaf, dilyn fyny ac sgrifennu’n ôl atoch.”

Dywed y Dirprwy Weinidog eu bod nhw hefyd yn cydnabod fod swyddfeydd post yn “achubiaeth” i bobol a busnesau bach ledled Cymru, “yn enwedig mewn ardaloedd gwledig”.

Galw am ymyrraeth frys

Yn ôl Mabon ap Gwynfor, mae angen ymyrraeth frys gan lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â sefyllfa swyddfeydd post gwledig Cymru.

“Mae Swyddfeydd Post yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig,” meddai.

“Yn anffodus, mae llawer o ganghennau gwledig bellach wedi cau, ac rydym yn gweld dirywiad cyflym gwasanaethau dros y cownter yn y canghennau sy’n weddill.

“Mae llywodraethau olynol wedi dileu asedau rhwydwaith cynhyrchion a gwasanaethau swyddfeydd post dros nifer o flynyddoedd, gan ei gwneud yn anoddach i’r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau gael mynediad at wasanaethau hanfodol.

“Galwaf ar lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i ymyrryd ar frys i sicrhau nad yw gwasanaethau y swyddfa bost yn cael ei dorri i’r asgwrn eto, a allai olygu na fydd postfeistri ledled Cymru yn gallu darparu gwasanaethau y mae ein cymunedau dirfawr eu hangen.”