Mae Benjamin Zephaniah wedi marw’n 65 oed, ddeufis yn unig ar ôl cael gwybod fod ganddo fe diwmor ar ei ymennydd.
Roedd y bardd o Birmingham, oedd o dras Jamacaidd, yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod a’r Gymraeg, ac yn credu y dylid dysgu Cymraeg i blant mewn ysgolion ledled y Deyrnas Unedig.
Yn 2015, bu’n ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn ym Meifod i greu rhaglen ddogfen am ein hiaith a’n traddodiadau Eisteddfodol.
Yn dilyn y profiad hwnnw, dywedodd y dylai’r Gymraeg gael ei dysgu i blant mewn gwledydd eraill Prydain er mwyn iddyn nhw gael dysgu am “ddiwylliannau ac ieithoedd eraill”.
Awgrymodd hefyd y gallai Lloegr elwa’n fawr o gynnal Eisteddfod, gan ddweud bod pobol ifanc Cymraeg i’w gweld yn llawer mwy parod i ganu a pherfformio na’u cyfoedion o Loegr.
‘Ddim yn ŵyl elitaidd’
Dywedodd y bardd nad oedd yn teimlo fod yr Eisteddfod hanner mor “elitaidd” â gwyliau llenyddol a diwylliannol eraill, a’i bod hi’n “rhyfeddol i mi fod bron pawb dwi’n eu cyfarfod yn gallu canu”.
Ychwanegodd ei fod yn teimlo bod y Cymry yn gwerthfawrogi eu hiaith yn fwy na’r Saeson am ei bod dan fygythiad, gan ddweud y dylai pobol yng ngweddill Prydain fod yn fwy ymwybodol o’r Gymraeg.
“Dyna’r rheswm dwi’n dweud y dylai’r iaith Gymraeg gael ei dysgu mewn ysgolion yn Lloegr,” meddai Benjamin Zephaniah wrth BBC Cymru Fyw ar y pryd.
“Mae Hindi, Tsieinëeg a Ffrangeg yn cael eu dysgu, felly pam ddim Cymraeg? A pham ddim Cernyweg? Maen nhw’n rhan o’n diwylliant.”
‘Mynegiant gwych o ddiwylliant Cymraeg’
Mewn darn blog ar ei wefan ei hun, dywedodd fod yr Eisteddfod “yn fynegiant gwych o ddiwylliant Cymraeg”, fod “peth ohono’n rhyfedd” oherwydd “ei gwreiddiau a’i gwleidyddiaeth”.
“Roeddwn i wrth fy modd â hi,” meddai.
“Dw i’n ategu’r hyn ddywedais i am yr iaith Gymraeg.
“Mae Prydain yn lle amlddiwylliannol, ac os gallwn ni ddysgu Hindi, Almaeneg, Tsieineeg, Ffrangeg a Phwyleg yn ein hysgolion, dw i ddim yn gweld unrhyw reswm pam na allwn ni ddysgu Cymraeg, Cernyweg neu Sgots.
“Nid pob ysgol sy’n dysgu Hindi neu Tsieineeg ac ati, felly nid pob ysgol ddylai ddysgu Cymraeg, Cernyweg neu Sgots, ond nhw yw ein hieithoedd brodorol ac felly dylen nhw fod yn opsiynau hefyd.”
Wrth gyfeirio at yr ymateb gafodd y rhaglen, dywedodd iddo gael ei “gyffwrdd” gan y sylwadau positif.
‘Person rhyfeddol, llawn egni a gonestrwydd’
Ymhlith y rhai cyntaf yng Nghymru i dalu teyrnged iddo roedd Georgia Ruth, y gantores a chyflwynydd.
“Mor drist o glywed am Benjamin Zephaniah,” meddai.
“Dal i gofio’r darlleniad o farddoniaeth roddodd e yn Aber flynyddoedd yn ôl fel pe bai’n ddoe.
“Person rhyfeddol, llawn egni a gonestrwydd.
“Gorffwys mewn hedd.”
‘Rhodd’
Mae Gŵyl y Gelli hefyd wedi talu teyrnged i’r bardd.
“Yn ystod cyfnod clo gwanwyn 2021, cyfrannodd Benjamin Zephaniah y darlleniad byr hwn ar gyfer ein digwyddiad ar-lein.
“Roedd yn rhodd bryd hynny. A nawr.
“Bydd angen pobol ar bobol wastad.
“Gorffwys mewn grym. Diolch am bopeth.”
Yn ôl Izzy Morgana Rabey, colofnydd Golwg, roedd yn “fardd oedd yn arloesi ac yn gefnogwr enfawr o’r iaith a’r diwylliant Cymraeg”.
Dywed Ashok Ahir, cadeirydd yr Eisteddfod, ei fod yn “arwr, ffigwr chwedlonol a Phrydeiniwr gwirioneddol amlddiwylliannol”.
Mae’r newyddion “wedi llorio” Bethan Sayed, cyn-Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, meddai.
“Fe wnes i ei wahodd i siarad â myfyrwyr Prifysgol Aber pan oeddwn i’n Llywydd, a daeth e!
“Ac mae e hefyd wedi cefnogi’r mudiad Gweriniaethol Cymreig gymaint.
“Newyddion trist iawn. Gorwedd mewn hedd.”
‘Bardd go iawn, bod dynol hyfryd’
Dywed y bardd Patrick Jones ei fod yn torri’i galon.
“Bardd go iawn, bod dynol hyfryd,” meddai.
“Mae gan fy mab ieuengaf Zephaniah yn enw canol.”
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, roedd Benjamin Zephaniah “yn deall Cymru a’r Gymraeg”.
“Wedi’i gyflwyno â chynhesrwydd nodweddiadol, roedd ei fyfyrdodau parchus wrth ymweld â’r Eisteddfod yn crisialu ei ddealltwriaeth dwfn o ddiwylliannau amrywiol,” meddai.