Bydd nifer ohonoch chi wedi sylwi nad yw Cwmni Mega yn teithio Cymru benbaladr gyda’u pantomeim Cymraeg arferol eleni.

Mae’r cwmni wedi cymryd hoe, yn dilyn marwolaeth sylfaenydd y cwmni, yr actor adnabyddus Dafydd Hywel, neu ‘DH’ fel yr oedd yn cael ei adnabod gan ei gyfeillion, ym mis Mawrth – ac yn gobeithio ail-gydio â’r gwaith y flwyddyn nesaf.

Cafodd golwg360 gadarnhad ynglŷn â hyn oddi wrth yr actor Lisa Marged, sydd wedi cymryd yr awenau ar ran y cwmni ac sy’n rhan o griw actorion y panto ers dros ddeng mlynedd.

“Does yna ddim panto eleni, yn anffodus,” meddai.

“Mae wedi bod yn gyfnod anodd, a dim ond yn ddiweddar rydyn ni wedi cymryd drosodd y cwmni yn iawn.

“Rydyn ni’n aros i glywed ’nôl i weld a gawn ni grant ar gyfer creu panto Nadolig y flwyddyn nesaf.

“Felly rydyn ni wedi cymryd rhyw flwyddyn ma’s ers colli DH nawr i gael trefn ar bethau, a pharatoi i ddod ’nôl gyda bang y flwyddyn nesaf.

“Felly croesi bysedd y cawn ni’r grant hwnnw gan Gyngor y Celfyddydau. Mae gyda ni ryw bythefnos arall i glywed a ydyn ni’n llwyddiannus ai peidio.”

Panto olaf y diweddar Dafydd Hywel oedd Y Bachgen Bach Gwyrdd y llynedd gan Caryl Parry Jones a Non Parry.

Ymhlith yr actorion roedd Iwan Charles, Iwan John, ac Aeron Pughe.

Sioe gyntaf y cwmni erioed oedd Culhwch ac Olwen, ac maen nhw’n gobeithio ei hatgyfodi yn 2024 yn deyrnged i Dafydd Hywel, ac i ddathlu 30 mlwyddiant y cwmni.

Elfennau Cymreig

Mae sioeau Cwmni Mega yn mynd ar drywydd hanes neu chwedloniaeth Cymru, yn y gred ei fod yn ffordd dda i blant ddysgu am hanesion Cymru.

Dros y blynyddoedd, mae’r cwmni wedi cyflwyno sioeau ar y Mabinogi, Gwylliaid Cochion Mawddwy, Twm Sion Cati, Robin Sion Croeso, Macsen Wledig, boddi Tryweryn ac eraill.

Yn 2018, actiodd y darlledwr Hywel Gwynfryn yn ei bantomeim cyntaf erioed, fel Bendigeidfran yn y sioe Branwen gan Huw Garmon.

Yr actor Erfyl Ogwen Parry sy’n actio’r clown bob blwyddyn.

Dywedodd wrth gylchgrawn Golwg yn 2012, ar ôl iddo fe a’i gyd-actorion berfformio o flaen 900 o blant ym Mhafiliwn y Rhyl, mai sŵn chwerthin plant yw’r “sŵn gorau yn y byd”.

Datgelodd Dafydd Hywel yn yr un erthygl ei bod hi’n broses flinderus ymgeisio am grant.

“Rydyn ni’n gorfod ymladd bob blwyddyn, er bod y cynulleidfaoedd gyda ni,” meddai.

“Mae trafaelu dros Gymru gydag ugain o bobol yn ddrud. Dyna le mae’n arian ni’n mynd – a’r bil cyflogau, ond dw i’n meddwl eu bod nhw’n haeddu bob ceiniog.”

Roedd marwolaeth yr actor, gafodd ei eni ym mhentref y Garnant ger Rhydaman, yn ergyd drom i’r cwmni ac i Gymru.

“Dw i’n hiraethu amdano bob dydd,” meddai Lisa Marged.

“Mi oedd e’n ffrind triw ac fel ail dad i mi.”


Teyrnged bersonol i ‘DH’ ar ei ben-blwydd

Lisa Marged yn actio dihiryn yn y panto yn 2022

Ddydd Llun diwethaf, Rhagfyr 4, oedd diwrnod pen-blwydd y diweddar actor a sefydlydd Cwmni Mega, Dafydd Hywel, fu farw yn gynharach eleni.

Roedd yn enw mawr ym myd actio Cymru ers y 1960au – actiodd ar y gyfres i blant Miri Mawr fel Caleb y Twrch, ac ar sawl cyfres ddrama gofiadwy fel Y Pris a Pen Talar, a ffilmiau fel Rhosyn a Rhith a Rhag Pob Brad. Roedd hefyd yn llafar ei farn ar faterion ynglŷn â’r bywyd Cymraeg, oedd yn agos at ei galon.

Dyma ran o deyrnged iddo gan Lisa Marged, sydd wedi camu i’w esgidiau yn rheoli Cwmni Mega, ar y diwrnod. Arferai Dafydd Hywel ei galw hi’n ‘top girl’ a hithau yn ei alw fe yn ‘top man.’

Dafydd Hywel

Bydden i wedi rhannu’r wydred yma yn dy gwmni heddi dros y 15 mlynedd diwetha’. Bois bach, mae’r hiraeth yn afiach. Flwyddyn yn ôl ro’n ni ar daith ynghanol bwrlwm llwyddiannus dy waith llafur blynyddol gyda Chwmni Mega, yn joio bob eiliad yn un teulu. Mae yna wagle mawr a thwmlad o fod ‘ar goll’ ynddo ni gyd eleni.

Fi’n gweld ishe dy gwmni wythnosol yn ishte mewn tafarndai yn rhannu paced o salt and vinegar crisps. Ti ar y Malbec a fi gyda’n latte, yn hel atgofion am dy blentyndod, dy waith, dy deulu ac wrth gwrs yn diawlo’n ddi-ddiwedd.

Roeddet ti’n ddyn meddylgar a hollol anhunanol pan oedd e’n dod i’r rheini oedd yn agos at dy galon, ac mae’n fraint gallu cyfri’n hunan yn un o’r rhai lwcus hynny. Mi oeddet ti’n ffrind triw ac yn golygu shwd gymaint i fi. Fe wna i drysori pob eiliad wnes i wario yn dy gwmni dros y 15 mlynedd diwetha’ yn enwedig ein sgyrsiau yn dy ddyddiau diwetha. Roedd dy ffydd a’th hyder yndda i fel person yn un na’i drysori am byth.

‘Pen-blwydd Hapus Top Man.’