Mae prosiectau cymunedol yn cael eu hannog i geisio am gyfran o gronfa werth £60,000 i greu cymunedau mwy diogel.

Mae menter Eich Cymuned, Eich Dewis – gyda chymorth Swyddfa Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, Heddlu’r Gogledd ac Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned (PACT) – yn dychwelyd ar gyfer 2023-24.

Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn noddi prosiectau ar lawr gwlad sy’n dod â phobol a sefydliadau at ei gilydd er mwyn creu amgylchfyd mwy diogel i bawb yn y gymuned.

Eleni, mae’n dathlu degawd o ariannu prosiectau.

Dros y cyfnod hwnnw, mae cyfanswm o £547,705 wedi’i roi i 174 o brosiectau ledled y gogledd sy’n gweithio tuag at flaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd.

Bydd yr arian sydd ar gael yn rownd nesa’r fenter yn cael ei rannu rhwng 21 o brosiectau, felly gall grwpiau cymunedol ym mhob sir yn y gogledd wneud cais am hyd at £2,500 yr un, ond gall sefydliadau sy’n gweithio ledled tair sir neu fwy wneud cais am hyd at £5,000.

Mae’r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol drwy’r llysoedd yn atafaelu eiddo drwy’r Ddeddf Enillion Troseddau, a daw’r gweddill o Gronfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Gwneud cais

Mae ceisiadau ar agor ers Tachwedd 16, a’r dyddiad cau yw dydd Llun, Rhagfyr 11.

Mae manylion ynghylch sut i wneud cais ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ynghyd â gwefan PACT a Heddlu’r Gogledd.

Bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael ei chyhoeddi gan banel sy’n cynnwys y Comisiynydd Heddlu, PACT a Heddlu’r Gogledd.

Bydd yr enillwyr wedyn yn cael eu penderfynu ar sail pleidlais gyhoeddus fis Ionawr.

Cymunedau saffach

Yn ôl Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu’r Gogledd, gall prosiectau fel yr un hwn helpu i greu cymunedau mwy diogel ac mae’n dweud bod yr heddlu “wedi ymroi i feithrin cymdogaethau saffach”.

“Mae menter Eich Cymuned, Eich Dewis hefo swm sylweddol o gyllid ar gael er mwyn helpu syniadau a phrosiectau arloesol,” meddai.

“Rydyn ni’n credu, drwy weithio hefo’n gilydd, y gallwn ni gael effaith ar atal troseddau a helpu cymunedau yr un pryd.

“Rydyn ni’n annog pawb a sefydliadau sy’n angerddol dros eu cymuned i gyflwyno’u ceisiadau ac ymuno hefo ni wrth wneud gogledd Cymru’n lle saffach i bawb.”

Ton newydd o geisiadau

Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at geisiadau newydd, a’i fod e wedi gweld gwaith da yn cael ei wneud eisoes.

“Wrth i ni fynd i rownd newydd o gyllid Eich Cymuned, Eich Dewis, dw i’n edrych ymlaen at don newydd o geisiadau am brosiectau arloesol ac ysbrydoledig ledled gogledd Cymru,” meddai.

“Buaswn i’n annog unrhyw un sy’n cymryd rhan mewn menter gymunedol i ymgeisio am gyllid er mwyn buddsoddi yn eich cymdogaeth a helpu i leihau troseddau.

“Ers dechrau yn y swydd fel Comisiynydd, dw i wedi gweld llawer o brosiectau cyffrous a gwerthchweil yn derbyn cyllid.

“Mae’n bleser gwirioneddol helpu eu twf a’u heffaith parhaus.”

Ymfalchïo mewn gwaith da

Mae Ashley Rogers, cadeirydd PACT, yn ymfalchïo mewn bod yn rhan o’r fenter, gan fod y prosiectau sydd wedi cymryd rhan yn y gorffennol wedi gwneud gwaith da yn y gymuned, meddai, gan ychwanegu bod hwn yn gyfle i sefydliadau a phrosiectau gael cyllid er gwaetha’r heriau sy’n eu hwynebu.

“Wrth i ni lansio ffenest ymgeisio Eich Cymuned, Eich Dewis am eleni, fe hoffwn i fynegi fy malchder o fod yn rhan o’r fenter barhaus hon,” meddai.

“Mae’r prosiectau sydd wedi derbyn cyllid yn y gorffennol wedi dangos eu gwerth hynod i gymunedau lleol.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld hyn yn parhau eleni.

“Unwaith eto, mae cyllid sylweddol ar gael.

“Rydyn ni’n ymwybodol o’r heriau mae sefydliadau a phrosiectau cymunedol wedi’u hwynebu yn y flwyddyn ddiwethaf.

“Hefo’r cyfle hwn am gyllid sylweddol, rwy’n gobeithio gweld cymaint o fentrau â phosib yn gwneud cais.”