Mae rhaglen ar waith yng Nghonwy i helpu diwydiannau lle mae prinder gweithwyr lleol.

Bydd Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn targedu diwydiannau megis ynni a’r amgylchedd, adeiladu, gweithgynhyrchu uwch, creadigol a digidol, twristiaeth a lletygarwch, iechyd, bwyd a ffermio.

Mae’r grant yn werth £292,510 ac mae’r hyfforddiant dan arweiniad sefydliadau allweddol ym mhob sector wedi dechrau dros yr wythnosau diwethaf.

Twristiaeth a lletygarwch

Ymysg y rhai sydd wedi cofrestru ar gyfer cwrs mae Haydn Foulkes, oedd wedi mynychu sesiynau gyda Go North Wales ym Mae Colwyn, Gwesty’r Quay yn Neganwy, a Gwesty’r Hilton yn Nolgarrog, dan arweiniad Jim Jones, Prif Swyddog Gweithredol Twristiaeth Gogledd Cymru.

Ers hynny, mae Haydn Foulkes wedi cael swydd yn y maes lletygarwch, a hynny’n benodol oherwydd iddo fynychu’r rhaglen.

“Rydym wedi dysgu llawer am dwristiaeth a lletygarwch yng ngogledd Cymru trwy’r rhaglen gyfeillgar hon, sydd hefyd wedi darparu pecyn hyfforddi ac ymarferion i ni ddatblygu ein syniadau a nodau ar gyfer hyn fel gyrfa yn y dyfodol,” meddai.

“Roedd yn ddefnyddiol iawn, nid yn unig y bu i mi ddysgu llawer am dwristiaeth a lletygarwch, ond hefyd am fy agwedd at waith.

“Ers hynny, rwy’ wedi cael cyflogaeth newydd, ac er nid fel tywysydd – sef beth oeddwn â’m golygon arno yn ystod y cwrs – mae dal yn y maes lletygarwch, sef arlwyo.

“Bu i mi wir ei fwynhau, ac os nad oeddwn ar y cwrs efallai na fyddwn wedi ystyried hyn fel swydd.”

Cydweithio

Mae Jim Jones yn dweud ei bod yn falch o gael cydweithio â Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy yn Academi Twristiaeth a Lletygarwch Go North Wales.

“Mae cydweithio gyda nhw wedi bod yn amhrisiadwy, gan eu bod yn ein cyfeirio at gleientiaid sydd wedi eu gwirio’n drwyadl ac yn meddu ar wir frwdfrydedd ar gyfer cymryd rhan yn ein diwydiant,” meddai.

“Mae hyn wedi bod o fudd mawr i ni, gan y gallwn bellach arwain yr unigolion hyn trwy hyfforddiant tuag at gyfleoedd swyddi sy’n cyd-fynd â’u dyheadau.

“Gyda’n gilydd, rydym yn meithrin cysylltiad cryf rhwng gweithwyr posib a chyflogwyr, gan wneud y broses o ddod o hyd i swyddi addas yn fwy effeithlon a gwerthfawr.”

Cefnogi mwy o bobol

Yn ôl Libby Duo, Rheolwr Strategol Canolbwynt Cyflogaeth Conwy, bydd yr arian yn eu galluogi i gefnogi rhagor o bobol i gael gwaith ac addysg dros y flwyddyn nesaf.

“Yn ogystal â darparu hyfforddiant ar swyddi penodol, bydd bob cwrs yn canolbwyntio ar gynyddu hyder, gwytnwch, lles, sgiliau adeiladu tîm a chyflogadwyedd,” meddai.

“Byddan nhw hefyd yn cynnwys llenwi CV/ffurflenni cais, sgiliau cyfweliad, cymwysterau achrededig i sectorau penodol a sgiliau TG sylfaenol, gyda chyflwyniad i bob sector gan gyflogwr neu arbenigwr diwydiant.

“Bydd y rhai fydd yn bresennol yn gyffredinol yn bobol sy’n barod i weithio neu’n agos at fod yn barod i weithio, gan gynnwys y rhai mewn swyddi tymhorol neu gontractau dim oriau fydd yn elwa o gyflogaeth fwy sefydlog, ac mae ymdrechion i gynnwys pobol o gefndiroedd difreintiedig neu heriol.

“Rydym eisiau agor y cyfleoedd unigryw hyn i gynifer o bobol â phosib, ac mae hynny’n cynnwys cyflogwyr yng Nghonwy sydd ddirfawr angen gweithwyr ymroddgar, medrus.

“Yn ei dro, bydd hynny yn cael sgil effaith ar gymunedau a’r economi leol, sef ein prif flaenoriaeth.”

Hyd at £300,000

Bydd Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn cael hyd at £300,000 i ddarparu swyddi hanfodol ac academïau hyfforddiant addysg ledled y sir am y deuddeg mis nesaf.

Mae’r Prosiect Llwybrau i Gyflogaeth yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig, gaiff ei gweinyddu a’i rheoli’n rhanbarthol.