Mae un o drigolion Wrecsam sydd wedi bod yn gofyn am wersi nofio yn Gymraeg i’w ddwy ferch ers 2019, ac sy’n dal i aros i Gyngor Wrecsam wireddu hyn, wedi mynd ati i gynnig ateb i’r sefyllfa.

Mae ymchwiliad diweddar gan Gomisiynydd y Gymraeg wedi cadarnhau bod dyletswydd statudol ar Gyngor Wrecsam ers sawl blwyddyn i gynnig gwersi nofio yn Gymraeg, ond dydy hynny heb ddigwydd o hyd.

Yn gyhoeddus, i rieni ar draws y sir, i ysgolion Cymraeg sy’n cael sesiynau nofio, ac wrth adrodd wrth gynghorwyr a’r wasg, mae swyddogion ac aelodau arweiniol y Cyngor yn dweud bod y methiant o ganlyniad i anawsterau wrth recriwtio siaradwyr Cymraeg.

Ond mae Aled Powell yn feirniadol o hyn.

“Mae trydydd ymchwiliad statudol i’r mater wedi cadarnhau bod Cyngor Wrecsam mewn gwirionedd wedi methu â chydymffurfio â cham gorfodi ymchwiliad blaenorol nôl yn 2020, i ‘uwchsgilio mwy o staff i ymgymryd â gwersi nofio yn Gymraeg’, a hynny o fewn deufis,” meddai wrth golwg360.

Pryderon a rhwystredigaeth rhiant

Gyda’i ferched yn dal i ofyn pa bryd fyddan nhw’n medru cael gwersi yn y Gymraeg, mae Aled Powell yn benderfynol o symud ymlaen, ac nid yw’n fodlon derbyn rhagor o oedi.

“Dw i wedi cael llond bol o ymchwiliadau hirfaith ac aneffeithiol a gorfod gwneud esgusodion dros fethiannau’r cyngor a’r Comisiynydd,” meddai Aled Powell wedyn.

“Er bod cyfleoedd ar y pryd i fynegi sylwadau a hefyd i apelio, derbyniodd y Cyngor y cam gorfodi hwnnw heb wrthwynebiad.

“Ond o ymchwiliad nesaf y Comisiynydd a fy ymdrechion i gael eglurder trwy fy nghynghorydd a cheisiadau rhyddid gwybodaeth, does dim tystiolaeth i awgrymu bod gan y Cyngor erioed fwriad i gydymffurfio.

“Mae difaterwch Cyngor Wrecsam am y Gymraeg a’r rhai ohonom sy’n defnyddio’r iaith yn amlwg yn ymestyn i ddifaterwch am y gyfraith, a hynny gan wybod fod y Comisiynydd presennol yn rhannu’r un diffyg awydd i orfodi gofynion statudol safonau’r Gymraeg neu hyd yn oed camau gorfodi ei rhagflaenydd.”

Dirywiad y Gymraeg yn Wrecsam – taclo’r cylch dieflig

Yn ôl Aled Powell, mae Cyngor Wrecsam yn cyfyngu ar allu pobol i ddefnyddio’r Gymraeg.

“Mae’n annerbyniol yn y Gymru fodern fod awdurdod addysg yn cyfyngu defnydd o’r Gymraeg i gartrefi ac ystafelloedd dosbarth ysgolion,” meddai.

“Gyda gweithgareddau iddyn nhw ar gael dim ond yn Saesneg, does dim syndod bod pobol ifanc alluog yn colli hyder yn eu Cymraeg, gyda hynny ynddo’i hun wedyn yn broblem i sefydliadau, fel Cyngor Wrecsam, sydd angen staff i allu gweithio yn y ddwy iaith.”

Ac yntau’n methu gweld diwedd i’r cylch dieflig, mae Aled Powell wedi penderfynu ymyrryd drwy gynnig arian o’i boced ei hun fel cymhelliant i’r hyfforddwyr nofio yn y fro fyddai’n barod i gloywi eu sgiliau iaith.

“Dw i’n barod i drosglwyddo’r £2,000 i drydydd parti ei gadw, ac wedi cysylltu â fy nghynghorydd ym Mhen-y-cae i drafod manylion y cynnig a sut i’w roi ar waith,” meddai.

“Ond yn y bôn, dw i’n barod i wobrwyo athrawon nofio Wrecsam sy’n gallu cydymffurfio â’r cam gorfodi hwnnw gafodd ei osod dros dair blynedd yn ôl.

“Gobeithiaf gael ymateb positif ac i blant yr ardal gallu elwa o’r diwedd o brofiad y mae cannoedd, yn anffodus, wedi cael eu hamddifadu ohono.”

Diffyg darpariaeth er gwaetha’r galw a photensial

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi codi pryderon ynglŷn â diffyg cynnydd y Cyngor ar y mater hwn, gan gwestiynu parodrwydd Cyngor Wrecsam i gefnogi siaradwyr Cymraeg.

Mae’r Cyngor wedi bod yn cylchredeg hysbyseb Freedom Leisure ar eu gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol bob mis, ond heb lwyddo i ddod o hyd i rywun addas.

Ac mae golwg360 wedi bod yn clywed am rai o’r heriau, gan gynnwys y ffaith mai un tiwtor neu aseswr yn unig sy’n rhugl yn y Gymraeg sy’n cael ei gyflogi gan Nofio Cymru ar hyn o bryd, ac felly prin iawn yw’r cyfle i hyfforddwyr nofio gael eu hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg sydd ynddi ei hun yn arwain at broblemau ychwanegol.

Fel yr eglura Nofio Cymru, dydyn nhw ddim yn derbyn unrhyw geisiadau y tu allan i Wynedd ac Ynys Môn am gyrsiau sy’n cael eu darparu yn y Gymraeg.


Dadansoddiad golwg360:

A dyma chi’r cylch dieflig wrth wraidd y broblem. Achos mae yna alw yn ninas-sir Wrecsam am wersi nofio cyfrwng Cymraeg. A chan fod naw o ysgolion cynradd Cymraeg yn y fro, ac ysgol uwchradd Gymraeg hefo dros 800 o ddisgyblion hefyd, mae’r galw yn debygol o fyd yn uwch na’r hyn yw e ar yr arfordir gorllewinol, sydd yn fwy gwledig ac yn llai poblog, wrth gwrs.

Ac felly, mae Aled Powell wedi cynnig datrysiad er mwyn ceisio datod y cwlwm wrth wraidd y broblem, a dechrau symud pethau ymlaen. Os oes yna hyfforddwyr nofio fysa’n hapus i ymroi i wella’u Cymraeg nes eu bod nhw yn ddigon rhugl a hyderus i addysgu nofio trwy gyfrwng y Gymraeg, mae yna gymhelliant ariannol ar gael nawr i’w cefnogi nhw i fynd ati.

Dyma golwg360 agor y llawr i chi, ddarllenwyr, ac yn gofyn i chi rannu eich barn ynglŷn â’r sefyllfa – ac efallai’n wir gynnig datrysiadau a chymhellion eich hunain? Efallai eich bod chi’n hyfforddwr nofio ac yr hoffech chi daflu eich het i’r cylch? Cysylltwch!