Dydy’r ffefryn ar gyfer swydd rheolwr tîm pêl-droed Abertawe “heb benderfynu” eto a fydd e’n dychwelyd i’r clwb.
Mae Chris Davies yn aelod o dîm hyfforddi Spurs ar hyn o bryd, ond mae eu rheolwr Ange Postecoglou yn dweud mai penderfyniad i Davies ei hun fydd derbyn y swydd ai peidio pe bai’n cael ei chynnig hi.
Roedd adroddiadau bod Spurs wedi gwrthod rhoi caniatâd i Davies, fu’n aelod o dîm hyfforddwr Brendan Rodgers yn Stadiwm Liberty, siarad â’r clwb – ond dydy hynny ddim fel pe bai’n wir bellach.
Mae’r Elyrch yn chwilio am olynydd i Michael Duff, gafodd ei ddiswyddo’n ddiweddar, ar ôl ennill dim ond un gêm allan o wyth.
Cafodd Davies ei benodi gan Spurs yn yr haf pan gafodd Postecoglou ei benodi.
“Ei benderfyniad e yw beth i’w wneud,” meddai hwnnw pan gafodd ei holi am y sefyllfa.
“Dydy hi ddim yn syndod i fi y byddai Abertawe neu glybiau eraill yn edrych arno fe.
“O’m persbectif i, beth bynnag sy’n digwydd, mae e’n sicr yn nwylo Chris.”
Mannau sefyll diogel
Yn y cyfamser, bydd Clwb Pêl-droed Abertawe yn arbrofi gyda mannau sefyll diogel yn Stadiwm Swansea.com cyn dechrau tymor 2024-25.
Y nod yw gwella diogelwch cefnogwyr a’u profiad ar ddiwrnod gemau, ac fe ddaw yn dilyn ymgynghoriad ag awdurdodau diogelwch a rhanddeiliaid perthnasol.
Bydd bariau yn cael eu gosod yng nghornel gogledd-ddwyreiniol y stadiwm, ac yn y gogledd ar gyfer cefnogwyr oddi cartref.
Bydd hyn yn effeithio ar 1,431 o seddi cefnogwyr cartref, ac oddeutu 500 o seddi cefnogwyr oddi cartref.
Bydd gan gefnogwyr sydd â thocynnau yn yr ardal sefyll y dewis i eistedd yn eu sedd pe baen nhw’n dymuno gwneud hynny.
Mae Cyngor Abertawe ac Ymddiriedolaeth Cefnogwyr yr Elyrch yn cefnogi’r arbrawf.
Fydd hyn ddim yn effeithio ar weddill y stadiwm, fydd yn parhau i weithredu polisi eistedd yn unig.