Fe wnaeth Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ystod y pandemig Covid-19, feio canu a gordewdra am gyfraddau Covid-19 uchel Cymru.
Daw’r honiadau yn nyddiadur Syr Patrick Vallance, cyn-Brif Ymgynghorydd Gwyddonol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod y pandemig, sydd wedi’i weld gan yr ymchwiliad Covid-19.
Mae’r dyddiadur yn awgrymu bod Boris Johnson yn gwneud jôc am y sefyllfa pan oedd achosion mewn cartrefi gofal ar gynnydd, ar ôl i Syr Patrick Vallance godi pryderon am achosion dros y gaeaf. “Co ni off eto,” meddai.
Dywed ei nodiadau fod derbyniadau i’r ysbyty ar gynnydd yn ystod y cyfnod dan sylw, a bod achosion yn dechrau dyblu yn Lloegr.
“Cymru’n uchel iawn – PW yn dweud, “Y canu a’r gordewdra yw e… Wnes i fyth ddweud hynny’,” meddai’r dyddiadur.
Mae’r dyddiadur hefyd yn dangos fod Boris Johnson wedi lladd ar y Daily Mail – ei gyflogwyr erbyn hyn – gan ddweud bod “pawb yn dweud bod y rheol 6 mor annheg, yn cosbi’r ifainc, ond Ff**** chi, Daily Mail – mae hyn am atal marwolaethau. Mae angen i ni ddweud wrthyn nhw.’
Fe wnaeth e hefyd gwestiynu’r angen i wisgo masgiau, gan ddweud bod angen i’r Deyrnas Unedig “ddysgu marw”.
Wrth siarad yn y gwrandawiad, ymddiheurodd am ei iaith ac am ei sylwadau am y Daily Mail, a bod rhaid eu bod nhw wedi ei gorddi.
Cafodd ei benodi’n golofnydd gyda’r papur ddyddiau’n unig ar ôl iddo orfod gadael ei swydd yn aelod seneddol yn sgil helynt partïon yn Downing Street yn ystod y pandemig.