Mae cynghorydd yn galw am gau ysgolion er mwyn helpu Cyngor sy’n wynebu pwysau ariannol i osgoi mynd yn fethdal.
Dywedodd Paul Luckock, sy’n cynrychioli ward Pensarn Pentre Mawr, wrth bwyllgor craffu cyllid Cyngor Sir Conwy fod yn “rhaid mynd i’r afael â’r mater hwn”.
Daw ei gynnig wrth iddi ddod i’r amlwg fod yr awdurdod yn modelu ar gyfer cynnydd o hyd at 10% yn nhreth y cyngor o fis Ebrill, wrth iddyn nhw wynebu bwlch cyllidebol o £24.5m – hyd yn oed ar ôl awdurdodi’r cynnydd treth gyngor mwyaf (9.9%) yng Nghymru y llynedd.
Ond cafodd ei awgrymiadau “ailadroddus” i gau ysgolion eu hwfftio gan y Cynghorydd Julie Fallon, prif aelod Addysg Conwy, oedd wedi ei atgoffa am bwysigrwydd y Gymraeg a darparu ar gyfer cymunedau gwledig y sir.
‘Methu cymharu Conwy a Lerpwl’
Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon wrth gynghorydd Abergele nad oes modd cymharu “ad-drefnu” ysgolion Lerpwl yn y 1980au â darpariaeth addysg yng ngogledd Cymru wledig.
Dechreuodd y ddadl am gau ysgolion wrth i gynghorwyr drafod y tebygolrwydd o setliad llywodraeth leol is na’r cyfartaledd eto gan Lywodraeth Cymru – mae disgwyl i’r ffigwr hwnnw gael ei gyhoeddi ar Ragfyr 20.
Yn ogystal â thorri’r gyllideb addysg gan 10%, trafododd cynghorwyr gynnydd arall yn nhreth y cyngor, codi tâl ychwanegol am wasanaethau, a rhagor o doriadau i gyllidebau gwasanaethau.
Cyfaddefodd y Cynghorydd Paul Luckock, cyn-gynghorydd yn ninas Lerpwl, y byddai’n pleidleisio o blaid cynnydd yn nhreth y cyngor yng Nghonwy yn hytrach na bod y Cyngor yn cyhoeddi hysbysiad adran 114 yn datgan eu bod nhw’n fethdal.
“Bydd Charlie [McCoubrey, arweinydd y Cyngor] yn gwybod y bydda i’n pleidleisio dros gynnydd sylweddol yn nhreth y cyngor, toriadau ac arbedion sylweddol, a chynyddu tâl, a dw i’n glir fy meddwl am hynny,” meddai.
“[Ond] dw i ddim yn credu bod cael adran 114 ar eich CV yn rywbeth fyddwn i ei eisiau.”
‘Fedrwn ni ddim gohirio penderfyniadau anodd’
Roedd y Cynghorydd Paul Luckock yn un o ’47 Lerpwl’, sef cynghorwyr Llafur gafodd eu diarddel o Gyngor Lerpwl yn y 1980au, ar ôl iddyn nhw osod cyllideb anghyfreithlon.
Honnodd fod Cyngor Lerpwl wedi canfod eu hunain mewn sefyllfa anodd gan nad oedden nhw wedi gwneud newidiadau i’w system addysg yn ddigon cyflym, a dyna pam ei fod yn cefnogi cau ysgolion yng Nghonwy erbyn hyn.
“Rydyn ni mewn sefyllfa lle gwnaeth yr Archwilydd Cyffredinol adrodd wrthon ni yn 2021, gan ddweud pe bai gan ysgolion cynradd lai na 100 o ddisgyblion a bod gan ysgolion uwchradd lai na 700 o ddisgyblion, nad ydyn nhw’n ddichonadwy o ran cost a phresenoldeb,” meddai.
“Mae gennym ni 21 o ysgolion â llai na 100 o ddisgyblion, ac mae gennym ni ddwy ysgol uwchradd o dan 700.
“Pe baen ni wedi mynd i’r afael â’r sefyllfa hon, dydy’r arbedion hyn ddim yn mynd i gronni ar unwaith yn amlwg, ac fel mae Amanda [Hughes, y prif swyddog cyllid] wedi dweud yn eithaf clir, yn y blynyddoedd i ddod mae angen i ni barhau i wneud arbedion.
“Dydy’r flwyddyn nesaf ddim am fod yn haws.
“Mae’n ymddangos yn hollol amlwg i mi fod yn rhaid i ni fynd i’r afael â’r mater hwn, a bod yn rhaid i ni ddefnyddio’r gyllideb hon er mwyn dechrau’r broses honno.
“Mae pobol yn dadlau’n ôl o ran pam nad ydyn ni’n mynd i’r afael â’r materion hyn.
“Mae’r arweinwyr proffesiynol a gwleidyddol yn dadlau’n ôl yn fy erbyn i fod hyn yn gymhleth iawn; mae’n gymhleth iawn, a bydd llawer yn ddadleuol wrth wneud hyn: cau ysgolion, cyfuno ysgolion, ad-drefnu ystad ein hysgolion, eu had-drefnu, cael ysgolion dwyieithog, ysgolion dwy ffrwd.
“Yn amlwg, er fy mod i’n parchu ysgolion gwledig yn fawr, rhwydweithiau o ysgolion, parchu hynny’n fawr, fy nghwestiwn i’r arweinwyr proffesiynol a’r arweinwyr gwleidyddol: Pam eich bod chi mor gyndyn o fynd i’r afael â’r mater?
“Rhaid ei wneud yn y cyd-destun presennol.
“Fedrwn ni ddim parhau i ohirio’r mathau yma o benderfyniadau anodd.”