Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi eu rhaglen gystadlu gychwynnol ar Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf.
Daw hyn ar ôl trafodaethau ymhlith pwyllgorau a phanelau lleol a chenedlaethol, ynghyd â sylwadau gan gystadleuwyr, beirniaid a’r cyhoedd dros y misoedd diwethaf.
Yn ôl yr Eisteddfod, y bwriad yn 2024 yw cynnal rhaglen gystadlu uchelgeisiol sy’n llifo, a gweithio tuag at uchafbwynt naturiol a chlir ar ddiwedd yr wythnos.
Bydd prif gystadlaethau unigol pob adran yn cael eu cynnal ar y dydd Sadwrn olaf fel uchafbwynt i’r wythnos.
Cystadleuaeth gorawl newydd
Bydd cystadleuaeth gorawl newydd sbon yn cael ei chynnal ar lwyfan y Pafiliwn ar y dydd Sul, a honno ar gyfer corau cymunedol lleol sy’n cystadlu’n genedlaethol am y tro cyntaf.
O ganlyniad, bydd cystadleuaeth y Côr Agored yn cael ei symud i slot newydd ar y dydd Mercher.
Bydd canu corawl ar gael bob dydd ar lwyfan y Pafiliwn, gyda chystadleuaeth gorawl Eisteddfodau Cymru’n agor y cyfan ar y dydd Sadwrn, a hynny er mwyn dathlu’r berthynas rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol ac eisteddfodau lleol a rhanbarthol.
Mae’r cyfle i edrych o’r newydd ar siâp a ffurf y cystadlu wedi galluogi’r trefnwyr i sicrhau bod pawb ym mhob cystadleuaeth dorfol yn ymddangos ar lwyfan y prif bafiliwn, heb orfod cyflwyno rhagbrofion torfol yn unrhyw adran.
Y gobaith yw y bydd hyn yn denu nifer fawr o gystadleuwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt i fod yn rhan o’r ŵyl ym Mhontypridd fis Awst nesaf.
Bydd cyfleoedd arbennig ar gyfer cyn-enillwyr yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf, gydag amryw o berfformiadau a chomisiynau ar y gweill.
‘Y newid mwyaf i’r rhaglen ers blynyddoedd lawer’
Yn ôl Trystan Lewis, cadeirydd Pwyllgor Diwylliannol yr Eisteddfod, dyma’r “newid mwyaf i’r rhaglen ers blynyddoedd lawer”.
“Mae’n bleser cychwyn ar y gwaith o gyhoeddi ein rhaglen gystadlu ar ei newydd wedd heddiw,” meddai.
“Yn ddi-os, dyma’r newid mwyaf i’r rhaglen ers blynyddoedd lawer.
“Rwy’n gobeithio’n arw y bydd ein cystadleuwyr a’n cynulleidfa’n gweld hwn fel datblygiad cyffrous, sy’n sicrhau lle’r cystadlu fel rhan greiddiol o’r ŵyl am flynyddoedd i ddod.
“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cynnig cyngor a barn wrth i ni ddatblygu’r rhaglen yn fewnol i gychwyn ac yna wrth i drafod ambell syniad yn ehangach.
“Mae’r cyfle i wrando a gweithredu mewn ffordd newydd a gwahanol wedi ein galluogi ni i greu rhaglen sy’n llifo’n apelgar a deniadol, gan weithio’n well i’n cystadleuwyr yn ogystal â’r gynulleidfa yn y Pafiliwn.
“Dim ond diwrnod pob cystadleuaeth sy’n cael eu cyhoeddi heddiw.
“Byddwn yn rhannu rhagor o fanylion yn y flwyddyn newydd, ac yna’n cyhoeddi’r rhaglen gyflawn ar ôl y dyddiad cau ar Fai 1, unwaith mae niferoedd yr ymgeiswyr ym mhob cystadleuaeth wedi’u cadarnhau.”
Bydd y porth cystadlu’n agor ar Ionawr 16, fel rhan o ddathliadau 200 diwrnod i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, gyda’r wybodaeth i gyd ar gael ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru.
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal rhwng Awst 3-10 y flwyddyn nesaf.