Bu farw un o arwyr y byd barddol yn Lloegr, Benjamin Zephaniah, yn 65 oed. Roedd hefyd yn gyfaill mawr i Gymru – bu’n byw yng Nghasnewydd am gyfnod byr. Dywedodd ar goedd yn 2005 (rhywbeth a ailadroddodd yn Eisteddfod Meifod yn 2015) yr hoffai weld y Gymraeg ar y cwricwlwm addysg mewn ysgolion drwy Brydain. Dyma sgwrs a gafodd gyda Golwg ym mis Chwefror 2005, cyn iddo ddod i annerch cynhadledd yr Academi Gymreig (Llenyddiaeth Cymru fel ag yr oedd ar y pryd)…


Zephaniah a’r Gymraeg

Mae ymateb y Saeson wedi bod yn eitha’ cadarnhaol i sylwadau Benjamin Zephaniah y dylai’r Gymraeg fod ar y cwricwlwm drwy Brydain.

Yr wythnos ddiwetha’ fe ddywedodd y bardd-berfformiwr o Brimingham y sylwadau hynny wrth bapur newydd Cymreig, rai dyddiau cyn perfformio mewn cynhadledd yn Llandudno y penwythnos diwetha’.

Themâu cynhadledd yr Academi, Canu’n Rhydd, oedd gwleidyddiaeth, propaganda a rhyddid barn.

“Ar y cyfan, mae wedi bod yn eitha’ cadarnhaol,” meddai Benjamin Zephaniah, a gafodd ei fagu mewn cymuned rastafaraidd yn Birmingham.

“Dw i’n meddwl, yn rhyfedd iawn, achos ei fod wedi dod gan rastafarian du sy’ ddim yn siarad Cymraeg. Dyw e ddim fel ’tae wedi dod o Gymro gwyn Cymraeg. Felly maen nhw’n cwestiynu, ‘pam bod y boi yma’n dweud hyn?’”

Ac yntau’n lladmerydd dros wahanol ddiwylliannau Prydain (multiculturalism yw un o’i eiriau pwysig), mae’n teimlo y dylai fod yn medru rhwyfaint ar un o’r ieithoedd cynhenid.

“Dw i’n teimlo’n eitha’ annifyr, a d’eud gwir,” meddai, “a finne’n medru dim Cymraeg. Fe dd’wedais i y dylai fod ar y cwrwicwlwm ysgolion ac mae pobol yn gofyn pam ddylai’r Saeson ddysgu Cymraeg, a dw i’n dweud, ‘dewch mlaen, r’ych chi’n dysgu Bengali mewn ysgolion a phethau eraill ac mae’r Gymraeg yn rhan o’n treftadaeth ni’.

“Mae’n ddifyr, mae pobol yn Lloegr yn fy holi i o hyd am y peth nawr, felly dw i’n meddwl, wel, iawn ’te, fe wna i fanteisio ar hynny a pharhau i ddweud bod aml-ddiwylliannaeth yn un o’r pethau dw i’n poeni amdano, a bod hyn yn rhan o’n diwylliant ni.”

Bydd Benjamin Zephaniah yn perfformio yng nghanolfan newydd Galeri yng Nghaernarfon ar Ebrill 3 ar ran Canolfan Tŷ Newydd.

“Mae eleni wedi bod yn Flwyddyn Cymru i mi bron,” meddai. “Dw i wedi bod eitha’ tipyn leni. Dw i wedi treulio cryn amser dramor, yn Asia, Affrica… felly o’n i eisie treulio tipyn bach o amser adre’ a dw i wastad wedi teimlo’n eitha’ cartrefol yng Nghymru. Fe fues i yn byw yng Nghasnewydd am ychydig.

“Mae’r un peth yn wir am Iwerddon. Yn gynta’, mae’r traddodiad llafar – mae e chydig mwy byw yn Iwerddon a Chymru nag y mae yn Lloegr. Mae pobol wastad yn meddwl eich bod chi braidd yn od pan fyddwch chi’n sefyll i ddarllen cerdd. Maen nhw wastad yn gofyn yr un cwestiwn – ‘be’ yn union yw’ch rôl chi fel bardd?’

“A pheth arall yw, rydw i’n gwybod, pan fydda i yn dod i Gymru, fy mod i’n mynd i wlad arall.”

I know when I’m going to Wales, that I’m going to another country, sometimes you hear ‘oh, it’s a nice part of Britain’. But I feel that I’m in another country.

Mae wedi darllen ei waith yn gyhoeddus yng nghwmni nifer o feirdd Cymraeg, ac yn gallu clywed bod eu cerddi yn dod “o’r galon” er nad yw’n deall yr iaith, meddai.

“Pan fydda i yn gwrando ar farddoniaeth Gymreig mwy traddodiadol, mae gyda fe ryw fath o naws Dylan Thomas-aidd,” meddai. “Mae gyda chi’r llais yn eich meddwl, a phan mae’n cael ei llefaru mae gyda fe ryw rythm er mai nid rap yw e.”

Mae wedi clywed rap Cymraeg yn Patagonia, ac fe fuodd yn y Barri’n ddiweddar yn gwrando ar griw o fechgyn yn rapio. “Dy’n nhw ddim yn trio copïo rapwyr o Efrog Newydd mwyach,” meddai. “Maen nhw’n ei wneud e gydag acenion Cymreig. Mae hynna’n grêt.”

Gwrthod OBE

Fe wrthododd OBE gan y Frenhines ddwy flynedd yn ôl gan ategu yr hyn mae’n ei fynegi yn ei gerddi yn aml, mai bardd y bobol yw e ac nad oes angen gwobrau arno.

Mae’n dweud ei fod yn cael ei labelu’n fath penodol o fardd, oherwydd ei ddaliadau cry’ a’i ffordd arbennig o gyflwyno’i waith.

Bardd-brotestiwr, bardd du, bardd-ymgyrchwr, bardd rasta, bardd-protest, militant, bardd figan, yr un sy’n corddi’r dyfroedd, ymgyrchydd gwleidyddol…

Yn y gynhadledd, roedd am siarad am ei fagwraeth yn y 1970au a’r 1980au yng nghysgod Thatcher a’i chyfreithiau SUS (am suspicion) – y fersiwn cynnar o Stop-and-Search – a’r terfysgoedd a ddilynodd yn Brixton a Handsworth. Rhain yw’r pethau sy’ wedi bwydo’i waith.

“Fe fyddan nhw’n dweud ‘ti’n weithredwr hawliau dynol’, neu’n ‘weithredwr’,” meddai am y sylw mae’n ei gael. “Dyna’r ffordd dw i’n cael fy nghyflwyno. Mae pobol yn dweud ‘Benjamin Zephaniah, activist’. Mae’r bobol sy’n fy nghyfweld yn dweud ‘ti’n ymgyrchydd’. Ond dw i’n meddwl mai dinesydd ydw i.

“Dw i’n meddwl dylai pawb fod yn gweithredu. Dw i’n meddwl bod yn rhaid i ni gymryd rhan yn ein cymunedau, ac os nad ydyn ni’n delio â gwleidyddiaeth fe wnaiff hi ddelio â chi.

“Dw i wastad wedi bod yn sgwennwr gwleidyddol, achos yn rhyfedd iawn, dw i erioed wedi meddwl am fy hun yn wleidyddol. Dw i’n meddwl mai label yw e mae pobol wedi rhoi arna i.

“Os a’ i allan a dweud, ‘dw i’n poeni am hyn, dw i’n poeni am hawliau anifeiliaid, hawliau merched, hawliau lleiafrifoedd’ – ry’ch chi’n wleidyddol. Os dw i eisiau gwneud rhywbeth, maen nhw’n fy ngalw i’n filitant, ac os dw i’n dweud mod i wedi cael llond bol o ryw arweinydd Torïaidd yna dw i’n apathetig.

“Ond pan dw i’n cwyno, maen nhw’n fy ngalw i’n wleidyddol. …

“Dw i’n trio sgrifennu cerdd serch, ac maen nhw’n dweud, ‘o, rwyt ti wedi mynd yn feddal.’ Dw i’n gweld harddwch hefyd; dw i’n syrthio mewn cariad; alla’ i wrthfawrogi harddwch mynydd hefyd.”

Llu o gyfrolau

Ei nofel ddiweddara’ yw Gansta Rap, llyfr i’r ifanc am fechgyn du yn eu harddegau sy’n byrlymu â thalent ond sy’ methu â dygymod yn y dosbarth.

Mae Benjamin Zephaniah wedi cyhoeddi 14 o gyfrolau o farddoniaeth i gyd, nifer ohonyn nhw i blant.

Mae’n awdur, yn gyflwynydd teledu, yn berfformiwr a cherddor gyda’i grŵp dyb a reggae.

“Eto, mae’n ymwneud â bod yn amlddiwylliannol,” meddai. “Yn y band mae yna foi o India, un o Corea, un Gwyddel a boi du o Lerpwl. Pan ni’n dechrau gwneud miwsig, mae pethau’n dod i fewn o bob rhan o’r byd, ac mae’n creu miwsig datblygiadol.”

Mae cymunedau a ieithoedd yn bwysig iddo, yn enwedig o ystyried yr hinsawdd gyfalafol sy’n ein hamgylchynu ar hyn o bryd. Arferai dreulio tipyn o amser ynghanol cymunedau a theuluoedd y pyllau glo pan fu’n byw ym Mlaengarw ger Casnewydd. “Pan o’n i’n gyrru mewn i Flaengarw oedd pobol yn gweiddi, ‘o, ma Benjamin yma!’

“Dw i o’r farn ein bod ni wedi cyrraedd ryw gyflwr wrth i gyfalafiaeth ddatblygu – ac mae hyn yn ystrydeb bellach, ond mae e’n wir – bod nifer o bobol bellach yn gwybod pris popeth, ond gwerth dim byd.

“Mae gennym ni’r holl offer cyfathrebu, y ffonau symudol a’r rhyngrwyd, ond yn cyfathrebu llai yng ngwir ystyr y gair. Dw i wir yn credu ei fod yn bwysig achos pan fyddwch chi’n crio, allwch chi ddim crio ar ysgwydd eich cyfrifiadur. Pan fo pethau’n anodd, pan fyddwch chi wedi colli rhywun neu pan fo pethau’n mynd o chwith, all cyfrifiadur mo’ch cysuro.

“Er mor dda ydyn nhw, mae angen bodau dynol arnon ni a rhaid i ni werthfawrogi ein gilydd. Dw i ddim am fynd, ‘o, rhaid i ni fynd yn ôl at y teulu traddodiadol a dim ond un fath sy’ i gael’, achos mae yna bob math ar gael, ond rhaid i ni drysori cyfeillgarwch.”

Y bardd yn cael ei urddo â gradd anrhydedd ac yn gwenu'n llydan

Teyrngedau i’r bardd Benjamin Zephaniah, sydd wedi marw’n 65 oed

Roedd yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod a’r Gymraeg, ac yn credu y dylid dysgu Cymraeg i blant drwy’r Deyrnas Unedig