Mae cydweithrediad rhwng S4C, Channel 4 a chwmni comedi Little Wander yn anelu i ddod o hyd i dalentau comedi newydd yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae Rhaglen Datblygu Artistiaid Comedi yn cael ei lansio yng Nghymru i ddarparu cyfleoedd datblygu gyrfa ac i agor y drws i gomisiynau creadigol yn y dyfodol.

Bydd yr awduron a’r perfformwyr sy’n cael eu dewis yn cael eu paru â mentoriaid i weithio ar ddarnau comedi i’w harddangos i gomisiynwyr Channel 4 ac S4C yng Ngwyliau Comedi Machynlleth ac Aberystwyth yn 2024.

Little Wander sy’n trefnu’r ddwy ŵyl gomedi.

Bydd y rhaglen yn rhoi amser datblygu â thâl i artistiaid, mentora proffesiynol, dosbarthiadau meistr y diwydiant a chyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth a’u profiad o’r diwydiant comedi.

Bydd yr artistiaid yn gallu datblygu unrhyw waith yn fras yn y genre comedi naratif – gan greu deunydd a chymeriadau newydd sy’n gallu bod yn sail ar gyfer datblygu syniadau cyfresi teledu naratif llawn gyda’r ddau ddarlledwr.

Bydd S4C hefyd yn ystyried ceisiadau gan y rhai sy’n dymuno datblygu mathau eraill o berfformiadau comedi.

Bydd chwech o gyfranogwyr yn cael eu dewis ar gyfer y rhaglen, gydag o leiaf hanner y rheiny yn gweithio yn Gymraeg.

Mae disgwyl i’r artistiaid sydd wedi’u dewis fod ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd, a bydd y rhaglen yn cael ei theilwra ar gyfer anghenion amrywiol.

Y Gymraeg

Bydd cyfranogwyr yn gallu paratoi deunydd yn y ddwy iaith i’w gyflwyno i’r darlledwyr gwahanol, ond rhaid iddyn nhw ddewis iaith gynradd a darlledwr wrth wneud eu cais.

Mae cymorth ar gael i siaradwyr Cymraeg newydd, dysgwyr, a’r rhai sydd heb lawer o brofiad blaenorol o berfformio yn y Gymraeg.

“Mae S4C yn falch o gefnogi’r cyfle hwn i ddatblygu talentau comedi yma yng Nghymru,” meddai Guto Rhun, Comisiynydd Cynulleidfaoedd Ifanc S4C.

“Bydd yn sicrhau y gallwn ni gefnogi talentau newydd, meithrin eu syniadau a rhoi cyfle iddyn nhw ddisgleirio ar lwyfan amlwg o fewn y diwydiant.

“Mae comedi Cymraeg wedi dod yn bell iawn dros y blynyddoedd diwethaf, gyda rhaglen ar-lein gyntaf S4C, Hansh, ar y blaen o ran darparu cyfleoedd i dalentau newydd.”

Yn ôl Charlie Perkins, Pennaeth Comedi Channel 4, “mae Channel 4 Comedy yn adlewyrchu’r Deyrnas Unedig yn ôl arni’i hun mewn ffordd gyfoes, felly mae cefnogi’r diwydiant comedi byw yn allweddol i lwyddiant hynny”.

“Ar ôl bod yng Ngwyliau Comedi Machynlleth ac Aberystwyth dros y deuddeg mlynedd diwethaf, rwy’ wedi gweld talentau comedi anhygoel o Gymru yn cael eu meithrin, eu cefnogi ac yn ffynnu – nawr yn fwy nag erioed,” meddai.

“Rydym yn ddiolchgar i S4C am eu partneriaeth greadigol, ac allwn ni ddim aros i weld beth fydd yr ardderchog Little Wander yn ei ddatblygu.”

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn gweithio gyda dau ddarlledwr mawr i roi sylw i’r talentau comedi newydd sy’n dod o Gymru ar hyn o bryd,” meddai Henry Widdicombe, Cyfarwyddwr Little Wander.

“Mae hwn yn gyfle mor wych i dalentau o Gymru a rhai sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus.”

Y broses ymgeisio

Gall ceisiadau fod gan unigolion, deuawdau neu grwpiau, ond fydd ceisiadau gan gwmnïau ddim yn cael eu hystyried.

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd fod yn Gymro neu Gymraes, neu wedi’u lleoli yng Nghymru.

Rhaid i bob ymgeisydd fod yn ddeunaw oed neu’n hŷn.

Ar gyfer artistiaid sy’n gweithio yn Saesneg yn bennaf (Channel 4), dim ond ceisiadau gan artistiaid nad oes ganddyn nhw gomisiynau blaenorol gan ddarlledwr mawr fydd yn cael eu hystyried.

Ar gyfer artistiaid sy’n gweithio’n bennaf yn Gymraeg (S4C), byddan nhw’n derbyn ceisiadau gan artistiaid newydd, yn ogystal â’r rhai sydd wedi cael comisiwn blaenorol gydag S4C.

Mae gofyn i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais, a chynnwys CV creadigol ac enghreifftiau o waith yn y gorffennol.


Dyddiadau allweddol

Rhagfyr 4 – ceisiadau’n agor

Ionawr 14 – dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Chwefror 1 – y rhaglen yn dechrau

Mai 3-5 – Gŵyl Gomedi Machynlleth

Hydref 4-6 – Gŵyl Gomedi Aberystwyth