Bydd darnau celf yn cynrychioli hanes Caernarfon yn cael eu gosod mewn dau le yng nghanol y dref flwyddyn nesaf.

Artistiaid lleol sydd wedi cael eu comisiynu i wneud y gosodiadau, fydd yn cael eu rhoi yn Stryd Llyn a hen safle clwb cerddoriaeth Tal y Bont ger maes parcio Ffordd y Felin.

Ann Catrin Evans a Lois Prys fydd yn creu’r darn ar gyfer Stryd Llyn, ac mae eu gwaith wedi cael ei ysbrydoli gan gysylltiadau hanesyddol â gwneuthurwyr hetiau, dillad, esgidiau a theilwra ar y stryd, ynghyd â llif afon Cadnant drwy ganol y dref.

“Roeddem am greu rhywbeth a fyddai’n cyfuno technegau gwehyddu, gwnïo a gwneud rhaffau â llif yr afon Cadnant i greu gosodiad celf trawiadol ar hyd Stryd Llyn,” meddai Lois Prys.

“Byddwn yn gweithio gyda grwpiau cymunedol lleol i greu’r darn a bydd yn ymdrech tîm go iawn.

“Rydym yn gyffrous i arwain y gymuned i greu rhywbeth hardd – rhywbeth y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono.”

‘Gadael eu marc’

Gisda, elusen sy’n cefnogi pobol ifanc yn y gogledd, fydd yn arwain y gwaith ar y darn arall, a’u nod ydy creu celf sydd wedi’i ysbrydoli gan y caneuon, albymau a’r cerddorion berfformiodd yng nghlwb Tal y Bont.

“Fel cerddor o Gaernarfon, mae’n bwysig i mi ein bod yn cydnabod dylanwad Caernarfon ar y sin roc Gymraeg,” meddai Malan Fôn Jones, Arweinydd Tîm Creadigol Gisda.

“Mae hanes Clwb Tan y Bont yn unigryw a chyffrous, ac yn ogystal â fy niddordeb personol i, bydd hi’n anhygoel rhannu hanes y sin gerddorol yng Nghaernarfon gyda phobol ifanc Gisda – gan roi cyfle iddyn nhw fod yn greadigol a gadael eu marc eu hunain ar y dref.”

Rhys Mwyn gyda chriw Gisda

‘Rhannu straeon’

Caiff prosiect Canfas ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a rhaglen Trawsnewid Trefi Cyngor Gwynedd.

Yn ystod y cyfnod peilot, fe wnaeth yr artist Teresa Jenellen greu baner enfawr o un o arwyr morwrol y dref, Ellen Edwards, sydd nawr i’w weld ar faes parcio’r Cyngor yn Noc Fictoria.

“Roedd safon y ceisiadau a gawsom ar gyfer y gwaith yn uchel iawn, ac rydym wrth ein boddau fod artistiaid mor brofiadol yn arwain y gwaith,” meddai Alaw Llwyd, arweinydd Canfas.

“O dan eu harweiniad hwy, byddwn yn rhoi cyfle i’r gymuned leol rannu eu straeon, ond hefyd i ddysgu mwy am hanes y dref.

“Yn ogystal â’r prif ddarnau o waith, byddwn hefyd yn gweithio gydag artistiaid lleol eraill i greu elfennau sain ar gyfer y ddau leoliad.

“Bydd Hedydd Ioan a Sarah Zyborska yn arwain ar greu trac sain o seiniau hanesyddol y dref a bydd prosiect cymunedol creadigol ‘Mwy’ yn siarad â phobol leol ac yn recordio eu hatgofion o’r dref.”

Y nod ydy gosod y gweithiau celf yn eu lle erbyn diwedd mis Mawrth 2024.