Mae fideo gyntaf ail rownd cronfa sy’n cefnogi artistiaid newydd i greu fideos cerddorol ar gael heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 14).

Dros y flwyddyn nesaf, bydd cronfa fideos cerddorol Lŵp S4C a PYST yn ariannu ugain fideo newydd, wedi i’r gronfa ddyblu ym mis Hydref.

Fideo o’r gân ‘PELL’ gan Francis Rees, wedi’i chyfarwyddo gan Hedydd Ioan, ydy’r gyntaf yn yr ail rownd.

Cafodd y gronfa ei lansio y llynedd, yn wreiddiol fel ffordd o roi cyfle i artistiaid a chyfarwyddwyr newydd greu eu fideo cyntaf i hyrwyddo traciau newydd, a buon nhw’n gweithio ag artistiaid fel Talulah, Sachasom ac Achlysurol i greu ffilmiau.

“Ar ôl gwneud y rownd gyntaf yn gynharach yn y flwyddyn, roedden ni’n teimlo fod yr angen a’r galw yna i gefnogi artistiaid newydd sy’n trio hyrwyddo traciau,” meddai Owain Williams o PYST wrth golwg360.

“Roedden ni’n teimlo fod yna angen ymestyn y cynnig, cynyddu faint o artistiaid rydyn ni’n gallu eu cefnogi ac fe wnaeth yr holl beth gyda dyblu’r gronfa ddod o hynny.

“Maen fideos cerddoriaeth yn allweddol ar y funud, yn dweud y stori tu ôl i’r traciau, ac yn enwedig o’r byd ohoni heddiw, dw i’n meddwl bod rhaid i chdi gael ryw hunaniaeth weledol. Mae pobol eisiau ychydig bach mwy na thraciau bellach.”

@golwg360

Dros y flwyddyn nesaf, bydd cronfa fideos cerddorol @Lŵp a @PYST yn ariannu ugain fideo newydd, wedi i’r gronfa ddyblu ym mis Hydref 🎥 Dyma Owain Williams o PYST yn sôn mwy am y gronfa! #tiktokcymraeg #cymraeg #welshmusic

♬ original sound – golwg360

Cefnogi artistiaid a chyfarwyddwyr newydd

Gweithio gydag artistiaid newydd, neu artistiaid sydd heb gyhoeddi fideo o’r blaen, ydy pwyslais y grant.

“Mae gen ti sianelau fel Lŵp sy’n cefnogi artistiaid ychydig bach mwy, sy’n grêt. Ond bron bod hi’n bwysicach rhoi’r cynnig allan yna i artistiaid newydd, annibynnol, ifanc – bod ganddyn nhw’r arian a’r adnodd i ddod â’r fideos yma at ei gilydd,” meddai Owain Williams, gan ddweud bod yna alwad agored am artistiaid.

“Gyda’r grant yma, mae yna bwyslais hefyd ar weithio gyda chyfarwyddwyr newydd sydd eisiau artist i weithio efo nhw.

“Gobeithio bod yr holl gronfa’n helpu’r don nesaf sy’n dod drwodd, ac yn gweithio i gefnogi artistiaid a chyfarwyddwyr newydd.”

‘Hollol wych’

Wedi’i ryddhau ar label Pendrwm wythnos ddiwethaf, mae ‘PELL’ gan Francis Rees yn dilyn cyfres o senglau gan gynnwys ‘Ferchfechtan Bach’ a ‘Mwynhewch’, yn ogystal â’i halbwm gyntaf ‘Gwlad y Fiesta Glas’.

“Roedd derbyn cefnogaeth gan Lŵp a PYST i wneud y fideo yn hollol wych,” meddai Francis Rees.

“Mae cael fideo i gyd-fynd â thrac mor bwysig heddiw ac oedd cael y cyfle i ddod a’n syniadau gweledol yn fyw yn wych.”

‘Rhagor o gyfleoedd’

Dywed Elen Rhys, Pennaeth Adloniant S4C, ei bod hi’n “wych gallu cefnogi cerddorion a chyfarwyddwyr”.

“Dw i mor falch fod y gronfa yn tyfu ac yn rhoi rhagor o gyfleoedd i ni gael gweld mwy o fideos cerddorol Cymraeg.

“Mae hwn yn gyfle gwych, ac fe fyddwn ni yn galw ar unrhyw un sydd â diddordeb i wneud cais.”