Daeth y newyddion trist yn ddiweddar fod Benjamin Zephaniah – un o feirdd mwyaf disglair, arloesol, ac eofn ein cyfnod – wedi marw’n andros o ifanc yn 65 oed.
Mae teyrngedau eisoes wedi nodi ei agwedd gefnogol tuag at Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yr iaith Gymraeg, a’i waith arbennig. A dyma fi felly yn rhannu fy meddyliau innau.
Tafodiaith a balchder
Dw i’n cofio gwylio rhaglen ddogfen lle roedd Benjamin yn darllen cerdd; wnaeth o gyfeirio at y frenhines, ac yn yr un anadl wnaeth o ddefnyddio air tafodieithol. Synnais, ac i ddechrau meddyliais, “Dych chi’n ffaelu gwneud hynny… RP…” Synfyfyriais ar hyn, gan sylweddoli pa mor ddwfn oedd y syniadau elitaidd wedi’u claddu yn fy meddylfryd.
Cafodd hyn gryn effaith arnaf fel darpar fardd ifanc. Roeddwn yn barod wedi magu diddordeb mewn tafodieithoedd, gan fod teulu fy nhad o Rosllannerchrugog. Nawr, sylweddolais bwysigrwydd sgwennu mewn tafodiaith, gan gynnwys mewn cyferbyniad â iaith safonol ac iaith y sefydliad.
Dw i ddim yn gwybod enw’r gerdd ddarllenodd o, ac er i mi drafod y mater flwyddyn ddiwethaf hefo ambell i berson oedd yn wybodus iawn am ei waith yn ei gyfanrwydd, dw i ddim wedi dod o hyd iddi; mae’n debyg i mi gam-glywed rhan ohoni, ac felly ’mod i wedi creu fersiwn fy hun!
Ond hoffwn ddod o hyd i’r gerdd wreiddiol rywbryd, a gobeithio y bydd llyfr ‘collected works’ nawr yn cael ei gyhoeddi, i mi gael pori drwy ei bortffolio eang o weithiau mewn ffordd drefnus. Yn y cyfamser, yn ddiweddar, dw i wedi cyhoeddi cerdd mewn blodeugerdd dafodieithol, ac mi wnes i nodi Benjamin, yn fy bio, fel un o fy arwyr yn y maes.
Trafodaethau aml-genhedlaeth
Digwydd bod, dwi’n tybio taw rhaglen ddogfen wahanol oedd hi (gan fod fy atgof yn awgrymu fy mod yn hŷn wrth ei gwylio) pan welais y sgwrs ddiddorol wnaeth e ei gynnal am wrthod yr OBE.
Roedd y ffaith ei fod wedi gwneud hyn yn ddiddorol ynddo’i hun, ond yr hyn wnes i fwynhau oedd y ffordd roedd e wedi creu rhaglen lle roedd e wedi rhoi cyfle i bobol o’r genhedlaeth gynt yn ei gymuned fod yn rhan o’r drafodaeth.
Gwrandawodd yn barchus wrth i grŵp o ddynion o liw, rhai ohonyn nhw wedi ymfudo i’r Deyrnas Unedig, fynegi’r farn oedd i’r gwrthwyneb i’w farn o. Roedd rhai yn ei herio a’i ddwrdio, ond arhosodd ei wyneb yn glên ac yn dangnefeddus drwy gydol hyn.
Diddorol oedd clywed eu barn nhw, oherwydd mi oedd y tu hwnt i fy mhrofiadau i’n llwyr, ac mi wnes i ddeall am y tro cyntaf, i raddau, pam fysa pobol yn hapus i dderbyn y fath ‘anrhydedd’.
Roeddwn i’n hoffi’r ffordd dawel, ddiymhongar iddo fynd ati wedyn i esbonio’i deimladau ar y mater. Roedd hi’n un o’r rhaglenni hynny lle dych chi’n annisgwyl yn dysgu llawer iawn am fater doeddech chi heb sylweddoli fod yna gymaint i ddysgu amdano – nac wedi meddwl llawer amdano, yn fy achos i.
Teyrngedau a gwaddol
Mae fy nghyfrifon cymdeithasol ar hyn o bryd yn llawn teyrngedau, gan gynnwys y gerdd hyfryd hon gan y bardd Jenny Mitchell sydd, digwydd bod, wedi’i chyhoeddi ar y wefan ‘Culture matters’, sef cyhoeddwr y flodeugerdd dafodieithol soniaf amdani uchod.
Gwelaf bethau eraill am y tro cyntaf hefyd, gan gynnwys fideo o Benjamin yn esbonio mewn ffordd glir ac addfwyn arwyddocâd y pabi gwyn. Mae’r neges yn dymuno heddwch i bawb, ac nid dim ond un grŵp, yn un bwerus a hynod amserol a pherthnasol.
Mae’n anodd coelio, rywsut, ei fod e wedi marw. Roedd e mor ifanc, ac eto mae’n ryfeddol meddwl am yr holl bethau wnaeth e yn ystod ei fywyd cymharol fyr.
Y tro diwethaf es i’r ‘Storyhouse’ yng Nghaer, roedd geiriau ei gerddi yn adduro’r waliau yn y dderbynfa, a hynny’n teimlo fel y peth mwyaf naturiol yn y byd, wrth iddo rannu ei ddoethineb mewn adeilad llawn gweithgareddau cymunedol.
Gwnaeth Benjamin argraff trwy fod yn driw i’w hun, sy’n rywbeth dw i ddim ond yn eithaf diweddar wedi dysgu ei wneud.
A minnau’n nesáu at droi’n 45 fis nesaf, mae’r golled yma i’n cymuned o lenorion yn fy atgoffa o freuder iechyd a bywyd, a phwysigrwydd gweithredu yn hytrach nag oedi. Rhannu ein lleisiau a’n syniadau, yn hytrach na gwastraffu amser a deunydd yn ceisio ei fireinio nes ei fod yn ‘berffaith’.
Ymhellach, o fewn y cyd-destun ehangach presennol, mae’n gwneud i rywun bwyllo a chofio diolch am bob dydd y cawn fod yn fyw. Diolch i ti, Benjamin Zephaniah, enaid addfwyn, am bob dim roddaist i ni; heddwch i’th lwch.