Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Dave Burns, un o sylfaenwyr y bandiau The Hennessys ac Ar Log, yn dilyn ei farwolaeth.
Fe wnaeth Ar Log rannu’r newyddion ar wefan X (Twitter gynt), gan ddweud y bydd “colled enfawr ar ei ôl”.
“Rydym yn meddwl am Clare a Daniel yn eu profedigaeth,” meddai’r band.
Dywed un deyrnged iddo y bydd ei gerddoriaeth yn parhau i “siarad â chalonnau’r rhai sy’n gwrando”.
The Hennessys
Yn 1966, fe wnaeth Frank Hennessy a Dave Burns, aelodau o gymuned Wyddelig Caerdydd, ennill cystadleuaeth dalent wedi’i threfnu gan Gyngor Caerdydd, wnaeth eu perswadio nhw i ddilyn gyrfa mewn cerddoriaeth broffesiynol.
Wedi llwyddo yn ardal Caerdydd, aethon nhw yn eu blaenau gyda Paul Powell i deithio o amgylch Iwerddon yn adeiladu ar eu profiadau cerddorol.
Yn ystod y cyfnod hwn, penderfynodd y band ddatblygu hunaniaeth Gymreig gryfach, ac aethon nhw yn eu blaenau i ddechrau cyflwyno caneuon Cymraeg i’w casgliad.
Ffrwydrodd eu llwyddiant o’r adeg honno, ac mae nifer o’u caneuon fel ‘Farewell to the Rhondda’, ‘Tiger Bay’ a ‘Cardiff Born’ wedi dod yn glasuron gwerin.
Ar Log
Ddeng mlynedd ar ôl sefydlu The Hennessys, roedd Dave Burns yn rhan o sefydlu band arall, sef Ar Log.
Daeth y pedwar aelod gwreiddiol ynghyd dan arweiniad Pwyllgor Cymreig Gŵyl Lorient, oedd yn awyddus i gael band gwerin traddodiadol i gynrychioli’r genedl yng Ngŵyl Ryng-geltiadd Lorient y flwyddyn honno.
Dave Burns oedd canwr a gitarydd gwreiddiol y band, gyda Dafydd Roberts ar y delyn deires a’r ffliwt, Gwyndaf Roberts ar y delyn pen-glin a’r bas, a Iolo Jones ar y ffidil.
Pan gyrhaeddon nhw Lydaw, roedd rhaid iddyn nhw feddwl am enw, ac i adlewyrchu eu statws roedden nhw’n galw eu hunain yn Ar Log.
Yn ystod yr ŵyl, fe wnaethon nhw gyfarfod The Dubliners, oedd wedi awgrymu y dylen nhw aros gyda’i gilydd a throi’n broffesiynol.
Gadawodd Dave Burns y band yn 1979, ar ôl iddyn nhw gyhoeddi eu halbwm cyntaf, Ar Log, yn 1978.
‘Gwir arloeswr cerddoriaeth werin’
“Mae’r byd cerddoriaeth yn galaru am golli gwir arloeswr, Mr Dave Burns, un o sylfaenwyr y bandiau eiconig Ar Log a’r Hennessys,” meddai un o’r enw Eric mewn ysgrif goffa iddo.
“Gyda chalonnau trwm yr ydym yn rhannu’r newyddion am ei farwolaeth, gan adael etifeddiaeth sydd wedi dylanwadu’n fawr ar dirwedd cerddoriaeth werin.
“Nid perfformiwr yn unig oedd Dave Burns, y cerddor gweledigaethol, ond ffigwr allweddol wrth lunio’r sîn gerddoriaeth werin.
“Roedd ei ymroddiad i warchod a dathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru yn amlwg yn alawon a geiriau Ar Log – band a gydsefydlodd yn yr 1970au cynnar.
“Daeth Ar Log, gyda’i chyfuniad unigryw o alawon traddodiadol Cymreig a dylanwadau cyfoes, yn gyflym yn symbol o hunaniaeth gerddorol Cymru.
“Yn ddiweddarach yn ei yrfa ddisglair, cyfrannodd Dave Burns ei ddoniau i’r Hennessys, ensemble cerddorol arall a oedd yn enwog am eu lleisiau cytûn a’u geiriau a oedd ymwybodol o gymdeithas.
“Roedd ei allu i blethu naratif trwy gerddoriaeth yn atseinio â chynulleidfaoedd ledled y byd, gan ei wneud yn ffigwr hoffus yn y gymuned gerddoriaeth werin.”
‘Enaid cynnes’
“Y tu hwnt i’w ddawn gerddorol, roedd Dave Burns yn enaid cynnes a hael a rannodd ei angerdd dros ddiwylliant Cymru gyda chynulleidfaoedd yn fyd-eang,” meddai wedyn.
“Nid digwyddiadau cerddorol yn unig oedd ei berfformiadau, ond cyfnewidiadau diwylliannol a bontiodd gymunedau a chysylltu pobol trwy iaith gyffredinol cerddoriaeth.
“Yn y cyfnod hwn o fyfyrio, estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Dave Burns, yn enwedig ei wraig Clare a’i fab Daniel.
“Mae ei absenoldeb yn gadael gwagle yng nghalonnau’r rhai a gafodd y fraint o’i adnabod, ac mae’r gymuned gerddoriaeth werin yn unedig i alaru am golli gwir luminari.
“Wrth i ni gofio Dave Burns, gadewch i ni ddathlu’r alawon a roddodd i’r byd, y straeon a adroddodd trwy ei gerddoriaeth, a’r effaith barhaus y mae wedi’i gadael ar y tirlun cerddoriaeth werin.
“Mae ei etifeddiaeth yn parhau yn y caneuon a rannodd a’r calonnau a gyffyrddodd, gan sicrhau y bydd ei gyfraniadau i gerddoriaeth Gymraeg yn cael eu cofio am genedlaethau i ddod.
“Yng ngeiriau Victor Hugo: ‘Mae cerddoriaeth yn mynegi’r hyn na ellir ei ddweud ac y mae’n amhosibl bod yn dawel arno’.
“Bydd cerddoriaeth Dave Burns yn parhau i siarad â chalonnau’r rhai sy’n gwrando, teyrnged dragwyddol i’w ysbryd parhaol.
“Boed iddo orffwys mewn heddwch, wedi’i amgylchynu gan adleisiau yr alawon a greodd mor angerddol.”
Chwedl werin Caerdydd
Un arall sydd wedi talu teyrnged i’r cerddor yw’r Aelod Seneddol Kevin Brennan, sy’n gerddor hefyd.
“Newyddion trist iawn ein bod wedi colli’r gwych Dave Burns – ffigwr chwedlonol yng ngwerin Caerdydd yn ei hawl ei hun ond hefyd calon Ar Log a The Hennessys – ‘so fill to me the Parting Glass – goodnight and joy be with you all’ – cariad i Clare a Daniel,” meddai ar X (Twitter gynt).