Mae National Theatre Wales wedi colli apêl yn erbyn y penderfyniad i ddileu ei holl gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Daw’r cyhoeddiad wrth i Gyngor y Celfyddydau ddweud bod y broses apêl sy’n rhan o adolygiad cyllid wedi dirwyn i ben.
Roedd pymtheg o sefydliadau wedi cyflwyno apêl yn erbyn y penderfyniad i ddileu eu cyllid, ond dim ond apêl National Theatre Wales gafodd wrandawiad, ac fe wnaeth y panel eu penderfyniad yr wythnos ddiwethaf.
Yn ôl datganiad gan National Theatre Wales, maen nhw’n dweud bod y panel annibynnol wedi dod i’r casgliad, wrth gynnal asesiad “teg a thryloyw”, nad oedd y cwmni theatr “wedi dilyn eu gweithdrefnau eu hunain”.
Dywed Cyngor Celfyddydau Cymru eu bod nhw wedi dod i benderfyniad “unfrydol” nad oes cyfiawnhad dros gynnal adolygiad ac ail asesiad o’r cais nac i newid eu penderfyniad i wrthod rhoi cyllid aml-flwyddyn i’r cwmni.
Cefndir
Yn ôl Adolygiad Buddsoddi 2023 Cyngor Celfyddydau Cymru, fydd Opera Canolbarth Cymru, Trac Cymru, Canolfan Celfyddydau Taliesin, Eleni, Hafren, Celf ar y Blaen, Impelo na Rubicon Dance ddim yn cael arian aml-flwyddyn chwaith.
Dan yr Adolygiad, maen nhw wedi cynnig grantiau gwerth bron i £30m i 81 o sefydliadau, ac maen nhw’n nodi bod mwy o sefydliadau sy’n cael eu harwain drwy’r Gymraeg yn cael cyllid y tro hwn o gymharu â rowndiau blaenorol.
Mae’r sefydliadau hynny’n cynnwys Theatr Soar ym Merthyr Tudful ac Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog ym Mhen Llŷn.
Bydd 23 sefydliad yn cael cynnig cyllid aml-flwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru am y tro cyntaf, gan gynnwys FOCUS Wales yn Wrecsam a Neuadd Ogwen ym Methesda.
Adeg cyhoeddi’r penderfyniad, dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, fod y penderfyniad i beidio ariannu rhai sefydliadau’n “siŵr o arwain at drafodaeth eang, un y byddwn yn ei chroesawu”.
“Mae’r Adolygiad Buddsoddi hwn yn cynrychioli newid cadarnhaol iawn i’r celfyddydau yng Nghymru, a fydd yn arwain at gyfleoedd newydd i bobl o bob cefndir allu cymryd rhan yn y celfyddydau a mwynhau creadigrwydd o’r safon uchaf,” meddai.
“Cawsom y nifer uchaf erioed o geisiadau am gyllid, a hynny gan 139 o sefydliadau cymwys.
“Rydym yn hynod falch o allu cynnig arian i 81 sefydliad ledled Cymru, er ein bod yn cydnabod nad oes modd i ni ariannu pawb, na chyllido pob sefydliad i’r lefel y bydden nhw’n ddymuno.”
Ychwanegodd y bydd eu Hymyriadau Strategol yn “ymateb i unrhyw fylchau fydd yn cael eu creu mewn ambell faes” o ganlyniad i’w penderfyniadau.
“Un ffordd yn unig o ariannu’r celfyddydau yw’r Adolygiad Buddsoddi, a gefnogir ynghyd â’n rhaglenni Dysgu Creadigol, Celfyddydau ac Iechyd, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, a Noson Allan, yn ogystal â chyfleoedd cyllido eraill, gan gynnwys Camau Creadigol, y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol, a Creu.”