Mae Dave Danford, sy’n 39 oed ac wedi cydweithio â rhai o sêr cerddorol mwya’r byd, wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Artistig Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Bu’n Reolwr Cynhyrchu gyda’r digwyddiad ers rhai blynyddoedd, ac mae’n dweud ei fod e “wedi cyffroi’n lân”.

Cafodd ei benodiad, sydd wedi’i gyllido gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ei gadarnhau gan fwrdd ymddiriedolwyr yr Eisteddfod.

Bydd yn gyfrifol am bob agwedd ar gerddoriaeth yr ŵyl, gan gynnwys cyngherddau gyda Tom Jones a’r Manic Street Preachers, a’r Eisteddfod ei hun rhwng Gorffennaf 2-7.

Daw o Abertawe’n wreiddiol, ac fe astudiodd yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd cyn dod yn arbenigwr ar offerynnau taro a chydweithio â nifer o gerddorfeydd blaenllaw.

Mae e wedi chwarae gyda Cherddorfa Genedlaethol y BBC, y Royal Liverpool Philharmonic Orchestra a’r Royal Northern Sinfonia, gan recordio gyda Dru Masters, cyfansoddwr cerddoriaeth y rhaglen The Apprentice ar y BBC.

Bu’n teithio gyda’r sioe Bat Out of Hell: The Musical, gan gynnwys yn y West End, rhwng 2017 a 2023.

Yn 2010, fe sefydlodd ei gwmni ei hun, Absolute Music Services, yn arbenigo mewn ffurfio cerddorfeydd ar gyfer cyngherddau a theithiau ledled y Deyrnas Unedig.

Fe hefyd oedd sylfaenydd y band Adran D yn 2011, a’r rheiny wedi recordio dwy albwm o addasiadau cyfoes o alawon Cymreig traddodiadol gafodd eu chwarae ar Radio Cymru.

Bu’n cydweithio ag Eisteddfod Llangollen ers 2012, gan gynnwys perfformiad o Tangnefeddwyr/Peacemakers yn 2012 gydag Eilir Owen Griffiths, y Cyfarwyddwr Cerdd ar y pryd.

Mae e hefyd wedi helpu i drefnu cyngherddau gydag Alfie Boe, y Fonesig Evelyn Glennie a Rolando Villazón.

Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Artistig ar ei gerddorfa ei hun, y British Sinfonietta, ers 2010.

‘Y pecyn cryfaf o adloniant erioed’

Dywed Dave Danford fod Eisteddfod Llangollen am gynnig “y pecyn cryfaf o adloniant erioed” y flwyddyn nesaf, gan gynnig “sêr go iawn ag apêl eang”.

“Dw i hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at y rhan o’r swydd sy’n golygu rhoi ein cystadlaethau at ei gilydd a sicrhau eu bod nhw’n rhedeg yn esmwyth, a dw i wedi cael llawer o brofiad o hynny yn fy swydd flaenorol fel Rheolwr Cynhyrchu,” meddai.

“Rydyn ni’n gwneud pethau mewn ffordd newydd ar gyfer 2024, drwy ymgorffori rowndiau terfynol rhai o gystadlaethau’r dydd yn rhan o gyngherddau’r nos, er enghraifft drwy gael rownd derfynol y côr ieuenctid ar ddydd Mercher yr ŵyl yn ystod cyngerdd y noson honno.

“Rydyn ni wedi gwneud hyn oherwydd mae’n bosib y cawn ni rai pobol yn dod ar gyfer cyngherddau’r nos heb sylweddoli hyd yn oed fod gennym ni gystadlaethau ar y gweill yn ystod y dydd.

“Felly gobeithio y bydd hyn yn helpu i roi darlun cyflawn iddyn nhw o’r hyn rydyn ni’n ei wneud.

“Dw i wrth fy modd o gael bod yn Gyfarwyddwr Artistig, gan mai hon yw swydd fy mreuddwydion.

“Dw i hefyd wedi cyffroi’n fawr iawn o gael helpu’r Eisteddfod i oresgyn yr heriau y bu’n eu hwynebu dros y flwyddyn ddiwethaf, ac alla i ddim aros tan fis Gorffennaf nesaf.”

‘Swydd ganolog’

“Rydyn ni wrth ein boddau o gael penodi Dave Danford i’r swydd ganolog hon yn ein gŵyl,” meddai’r Athro Chris Adams, cadeirydd Eisteddfod Llangollen.

“Yn ogystal â bod yn ffigwr adnabyddus yn niwydiant cerddoriaeth y Deyrnas Unedig, a chanddo enw da am arloesi, mae Dave wedi cydweithio â’n Heisteddfod ers sawl blwyddyn, ac yn Rheolwr Cynhyrchu bu’n gyfrifol am roi nifer o nosweithiau cofiadwy i ni.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio â Dave ar rai o’i syniadau creadigol i symud ein gŵyl yn ei blaen.

“Mae e’n rywun sy’n rhannu ethos ein gŵyl, sef drwy rannu cerddoriaeth a dawns y gallwn ni hybu cytgord rhyngwladol, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â fe i gyflwyno Eisteddfod Llangollen 2024 fydd yn destun sgwrs am genedlaethau.”