Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd, rhaglen goginio Colleen Ramsey, fydd yn cychwyn rhaglenni Nadolig S4C heno (nos Fercher, Rhagfyr 20), wrth iddi baratoi gwledd ar gyfer ei theulu.

Am 9 o’r gloch, cawn weld y gogyddes yn paratoi gwledd i’w theulu – ei gŵr Aaron, capten tîm pêl-droed Cymru, ei mam a’i chwaer – ar ei hoff achlysur yn y flwyddyn.

“Pwy sydd ddim yn caru’r Nadolig? Dyma’r amser mwyaf bendigedig o’r flwyddyn,” meddai Colleen Ramsey.

“Mae dathlu’r Nadolig gartref yn golygu’r byd i mi a fy nheulu.

“O ddewis coeden i addurno’r tŷ a lapio anrhegion – mae popeth yn fy nghyffroi.

“Mae pawb yn dod i fy nhŷ ac rydw i wrth fy modd â hynny oherwydd rydw i eisiau bod yn Mrs Christmas.

“Ar y diwrnod mae’n ymgyrch filwrol, mae gan bawb swydd i’w gwneud.”

Ryseitiau

Yn y rhaglen arbennig hon, mae Colleen Ramsey yn rhannu ei ryseitiau ar gyfer corgimychiaid ac eog wedi’i fygu, danteithion Nadolig i’r plant, canapés a thro clyfar ar fins peis.

“Dw i wedi trio lot o fins peis,” meddai.

“Mae gen i syniad beth allwn ni ei wneud yn wahanol gyda nhw”.

Hefyd ar y fwydlen mae stwffin Nadolig i gystadlu yng nghystadleuaeth stwffin y teulu o dan feirniadaeth Aaron Ramsey ei hun, a threiffl tiramisu mae Colleen Ramsey yn ei wneud gyda’i chwaer Roisin.

“Rwy’n teimlo bod pob rysáit Nadolig yn dechrau gyda llwyth o fenyn. Mae’n Nadolig, come on!”

Y teulu’n dathlu

Mae’r teulu’n flaenllaw drwy gydol y rhaglen, sy’n adlewyrchu sut maen nhw bob amser yn dathlu.

“Mae Mam a Dad yn fy helpu yn y gegin – dwi’n dweud eu bod nhw’n fy helpu, bydden nhw’n dweud fy mod i’n eu helpu nhw. Mae’n anodd gwybod pwy yw bos,” meddai Colleen Ramsey.

“Mae swydd Aaron yn golygu bod rhaid i ni weithiau ddathlu penblwyddi neu hyd yn oed Dydd Nadolig ar ddiwrnod gwahanol.

“Weithiau rydyn ni’n cael y Nadolig yn hwyr neu’n hwyrach.

“Does dim ots pryd, cyn belled â’n bod ni’n ei ddathlu gyda’n gilydd a’n bod ni i gyd o amgylch y bwrdd.”