Bydd effaith toriadau Cyngor Celfyddydau Cymru i’w theimlo “ar hyd a lled y wlad”, medd Prif Weithredwr y corff.

Yn ei ddatganiad ddoe (dydd Mawrth, Rhagfyr 19) am ei gynlluniau i flaenoriaethu gwasanaethau iechyd, roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnwys toriad o 10.5% o’u cyllideb i Gyngor y Celfyddydau yng Nghymru.

Mae’r toriadau yn effeithio ar gyrff celfyddydol eraill, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, ynghyd â chyrff chwaraeon fel Chwaraeon Cymru.

Dywed Rebecca Evana, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, eu bod nhw wedi “gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn i ailgynllunio” eu cynlluniau gwariant i ganolbwyntio cyllid ar y “gwasanaethau sydd bwysicaf i bobol Cymru”.

‘Y gyllideb dros dro yw’r isaf ers 2007’

Yn ei ymateb, dywed Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, fod y gyllideb bresennol yn is nag yr oedd yn 2010, sy’n golygu eu bod nhw eisoes wedi colli traean o’u cyllid mewn termau real ers hynny.

“Bydd y toriad newydd sylweddol hwn o 10.5% yn ei gwneud yn fwy heriol fyth i sicrhau bod gweithgarwch celfyddydol o safon uchel ar gael ledled Cymru ar gyfer ein holl gymunedau,” meddai.

“Effeithir ar y gwaith amhrisiadwy a gefnogwn yn y Celfyddydau ac Iechyd, Addysg, y Gymraeg a’n gwaith i ehangu ymgysylltiad – sydd oll yn flaenoriaethau’r Llywodraeth.

“Mewn gwirionedd, y gyllideb dros dro yma o £30.429m ar gyfer 2024/25 yw’r isaf ers 2007/08.”

Effaith i’w theimlo ‘ar hyd a lled y wlad’

Yn ôl Prif Weithredwr y Cyngor Celfyddydau, mae tua 90% o’r cyllid mae’r Cyngor yn ei gael yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru i sefydliadau ac unigolion creadigol, ac felly y bydd “effaith y toriad yn effeithio ar gymunedau ar hyd a lled y wlad”.

“Mae Cymru yn genedl sydd wastad wedi gwerthfawrogi’r celfyddydau,” meddai Dafydd Rhys.

“Byddwn yn edrych ar ein holl gostau ac yn blaenoriaethu’r cyllid sydd ar gael o dan y gyllideb arfaethedig yma ar gyfer y sector ehangach a’r Adolygiad Buddsoddi.

“Mae rhywun yn derbyn bod hwn yn gyfnod cyllidol hynod o anodd i’r Llywodraeth. Fodd bynnag, mae angen i ni hefyd ystyried fel cenedl yr hyn y credwn yw’r lefel gywir o gyllid ar gyfer y celfyddydau a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ledled Cymru.”

Y Gyllideb Ddrafft: Toriadau i addysg yn peri pryder i Gymdeithas yr Iaith

“Mae angen buddsoddiad nid toriad mewn gwariant yn y maes allweddol hwn,” meddai’r mudiad

Y Gyllideb Ddrafft yn “ddigon i’ch sobri”, medd elusen

“Bydd y Gyllideb Ddrafft hon yn rhoi mwy fyth o bwysau ar bobol ledled Cymru sydd eisoes wedi’u gwthio i’r dibyn gan y cynnydd mewn costau byw”

Mwy o wariant ar iechyd, ond trethi siopau a thafarndai’n codi

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cyllideb ddrafft 2024-25 heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 19)