Mae National Theatre Wales ymysg y cwmnïau na fyddan nhw’n cael buddsoddiad sefydlog gan Gyngor y Celfyddydol o 2024/25 ymlaen.

Yn ôl Adolygiad Buddsoddi 2023 Cyngor Celfyddydau Cymru, fydd Opera Canolbarth Cymru, Trac Cymru, Canolfan Celfyddydau Taliesin, Eleni, Hafren, Celf ar y Blaen, Impelo na Rubicon Dance ddim yn cael arian aml-flwyddyn chwaith.

Dan yr Adolygiad, maen nhw wedi cynnig grantiau gwerth bron i £30m i 81 o sefydliadau, ac maen nhw’n nodi bod mwy o sefydliadau sy’n cael eu harwain drwy’r Gymraeg yn cael cyllid y tro hwn o gymharu â rowndiau blaenorol.

Mae’r sefydliadau hynny’n cynnwys Theatr Soar ym Merthyr Tudful ac Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog ym Mhen Llŷn.

Bydd 23 sefydliad yn cael cynnig cyllid aml-flwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru am y tro cyntaf, gan gynnwys FOCUS Wales yn Wrecsam a Neuadd Ogwen ym Methesda.

‘Anhygoel’

Fodd bynnag, mae hi’n “anhygoel” gweld nad ydy National Theatre Wales yn derbyn cyllid, meddai Huw Thomas, cyn-ohebydd celfyddydau’r BBC, sydd bellach yn Ohebydd Busnes gyda nhw, ar X, Twitter gynt.

Wrth gyfeirio’n benodol at y penderfyniad i beidio cynnig arian aml-flwyddyn i National Theatre Wales, dywed yr adroddiad nad yw’n adlewyrchu unrhyw amheuon sydd ganddyn nhw ynghylch potensial theatr Saesneg, a’r angen amdano, yng Nghymru.

“Yn wir, bydd yr Adolygiad Buddsoddi hwn yn gweld cynnydd yn nifer y cwmnïau sy’n cynhyrchu theatr Saesneg,” meddai.

“Fodd bynnag, rydym yn ymrwymo i gynnal adolygiad o theatr Saesneg yng Nghymru ac o’r ymyriadau a’r gefnogaeth y gallai fod eu hangen yn y dyfodol.”

‘Siomedig’

Dywed cadeirydd Opera Canolbarth Cymru eu bod nhw’n “hynod siomedig ac wedi’u syfrdanu” gyda’r newyddion na fyddan nhw’n derbyn cyllid aml-flwyddyn.

“Yn amlwg, byddan ni’n ystyried ein camau nesaf dros yr wythnosau nesaf,” meddai Gareth Williams.

“Fodd bynnag, bydd hon yn ergyd drom i artistiaid ifanc sy’n cael cyfleoedd amhrisiadwy i ddatblygu eu gyrfa drwy weithio efo ni, ynghyd â’n cynulleidfaoedd mewn trefi a chymunedau gwledig sydd ddim yn cael llawer o gyfleoedd i weld opera byw, os o gwbl.

“Fodd bynnag, nid yw’r penderfyniad yn cael effaith uniongyrchol ar ein cynlluniau cyffrous ar gyfer yr ychydig fisoedd nesaf, cynlluniau sydd wedi’u hariannu’n llawn.”

Eglura’r adroddiad mai un o’u prif ystyriaethau yn y broses benderfynu oedd gwasanaethu cymunedau ledled Cymru.

“Rydym wedi gostwng yr arian i rai sefydliadau sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, a chynyddu’r arian mewn nifer o awdurdodau lleol gan gynnwys Wrecsam, Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Sir Benfro,” medd yr adroddiad.

“Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd rhai ardaloedd yn derbyn llai o arian nag eraill gan gynnwys Blaenau Gwent, Caerffili, Conwy, Sir Ddinbych, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen.

“Rydym wedi ymrwymo i feithrin perthnasoedd â’r awdurdodau lleol hyn a rhanddeiliaid lleol eraill er mwyn edrych ar sut orau i gefnogi’r cynnig celfyddydol y mae’r cymunedau hyn yn ei haeddu.”

‘Croesawu trafodaeth’

Dywed Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, fod y penderfyniad i beidio ariannu rhai sefydliadau’n “siŵr o arwain at drafodaeth eang, un y byddwn yn ei chroesawu”.

“Mae’r Adolygiad Buddsoddi hwn yn cynrychioli newid cadarnhaol iawn i’r celfyddydau yng Nghymru, a fydd yn arwain at gyfleoedd newydd i bobl o bob cefndir allu cymryd rhan yn y celfyddydau a mwynhau creadigrwydd o’r safon uchaf,” meddai.

“Cawsom y nifer uchaf erioed o geisiadau am gyllid, a hynny gan 139 o sefydliadau cymwys.

“Rydym yn hynod falch o allu cynnig arian i 81 sefydliad ledled Cymru, er ein bod yn cydnabod nad oes modd i ni ariannu pawb, na chyllido pob sefydliad i’r lefel y bydden nhw’n ddymuno.”

Ychwanega’r Prif Weithredwr y bydd eu Hymyriadau Strategol yn “ymateb i unrhyw fylchau fydd yn cael eu creu mewn ambell faes” o ganlyniad i’w penderfyniadau.

“Un ffordd yn unig o ariannu’r celfyddydau yw’r Adolygiad Buddsoddi, a gefnogir ynghyd â’n rhaglenni Dysgu Creadigol, Celfyddydau ac Iechyd, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, a Noson Allan, yn ogystal â chyfleoedd cyllido eraill, gan gynnwys Camau Creadigol, y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol, a Creu.”