Mae Archif Ddarlledu Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ddigwyddiadau er mwyn dathlu cyfraniad Cymru i’r byd darlledu.

Bydd y gyfres yn dathlu darlledwyr Cymru, yn ogystal â sêr darlledu Cymru a’u cyfraniad at dreftadaeth sgrin a sain y wlad.

Mae’r tri digwyddiad cyntaf yn y gyfres Archif Ddarlledu Cymru’n Cyflwyno yn rhoi llwyfan i unigolion o’r byd drama, comedi, cyflwyno a newyddiaduraeth, ac yn adrodd straeon am eu bywydau, gwaith a’u gyrfaoedd gan dynnu ar glipiau prin o Archif Ddarlledu Cymru.

Y digwyddiadau

Richard Harrington, yr actor byd enwog a seren Y Gwyll / Hinterland, fydd yn cael ei holi gan y gyflwynwraig Ffion Dafis yn y digwyddiad cyntaf ar Hydref 26.

Ar Dachwedd 30, bydd Caryl Parry Jones, y gomedïwraig, cantores a chyflwynwraig, yn hel atgofion gyda Ffion Dafis.

Y trydydd digwyddiad yw noson arbennig yng nghwmni cyflwynwyr BBC Radio Wales ddoe a heddiw, a hynny o dan ofal Dot Davies, fydd yn holi’r newyddiadurwr Gilbert John, y cyflwynydd Roy Noble, a’r seren reggae a chyflwynwraig BBC Radio Wales, Aleighcia Scott.

Yn ogystal â hynny, bydd y gynulleidfa’n cael cipolwg ar hen glipiau o archif newyddion a digwyddiadau Caerfyrddin.

‘Pleser’

“Mae’n bleser o’r mwyaf cael cyhoeddi’r gyfres Archif Ddarlledu Cymru’n Cyflwyno… sydd yn dechrau rhaglen eang o weithgareddau i’w cynnal dros y flwyddyn nesaf,” meddai Dafydd Tudur, Rheolwr Prosiect Archif Ddarlledu Cymru.

“Ein bwriad trwy eu cynnal ydi agor drysau’r Llyfrgell Genedlaethol i fwy o bobol, estyn croeso i bobol o bell ac agos, ac wrth wneud hyn, annog unigolion i ddod i chwilota yn Archif Ddarlledu Cymru am raglenni sain a fideo.

“Pwrpas prosiect yr archif yw dathlu treftadaeth darlledu Cymru, ac rydan ni wir yn gyffrous am greu cyfleoedd i gynulleidfaoedd hen a newydd i ddeall mwy am yr archif a sut i gael mynediad ato.”

Mae tocynnau bellach ar werth ar gyfer y gyfres o ddigwyddiadau arbennig gan Archif Ddarlledu Cymru a’i bartneriaid BBC Cymru, S4C ac ITV Cymru.