Mae cerdd gan Benjamin Zephaniah yn galw ar bobol groenddu i ddysgu’r Gymraeg yn ymddangos mewn blodeugerdd newydd am Martin Luther King.
Cafodd ‘I Have a Scheme’ ei chyhoeddi gyntaf yn y gyfrol Proper Propaganda yn 1996, ac mae wedi’i hailgyhoeddi hanner can mlynedd ar ôl ei ymweliad hanesyddol Martin Luther King â Phrifysgol Newcastle.
Mae’n darogan sut olwg fydd ar y byd yn y dyfodol, ac mae’n cynnwys y llinell: “And all black people will speak Welsh”.
Yn 2015, galwodd y bardd am ddysgu Cymraeg a Chernyweg i holl blant gwledydd Prydain er mwyn iddyn nhw gael dysgu am ieithoedd a diwylliannau’r holl wledydd.
Mae’r gerdd yn ymddangos ochr yn ochr â gweithiau amlyca’r Unol Daleithiau, ac enillwyr Gwobr Pulitzer.
Y gyfrol
Mae’r gyfrol yn gasgliad o gerddi gan feirdd newydd a phrofiadol sy’n trafod hiliaeth, tlodi a rhyfel – themâu amlwg yn araith enwog Martin Luther King.
Cafodd y gyfrol ei chyhoeddi gan Brifysgol Newcastle mewn cydweithrediad â Bloodaxe Books, a’i golygu gan yr Athro Jackie Kay a Carolyn Forché o Brifysgol Georgetown yn Washington.
Mae’n coffáu ei ymweliad â’r brifysgol yn 1967, lle traddododd ei araith gyhoeddus olaf cyn cael ei ladd chwe mis yn ddiweddarach.
Mae’r gweithiau newydd sy’n ymddangos yn y gyfrol yn trafod Brexit ac Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.