Mae llwyth brodorol Waikato-Tainui yn dwyn achos yn erbyn Llywodraeth Seland Newydd am leihau’r defnydd o’r iaith frodorol te reo Māori gan y sector cyhoeddus, yn ôl adroddiadau’r wasg yn y wlad.
Wrth i ryw 100 o aelodau o’r llwyth gyflwyno’u hachos i’r Uchel Lys yn Wellington, maen nhw’n dadlau bod y llywodraeth wedi cefnu ar Gytundeb Raupatu, gafodd ei lofnodi yn 1995.
Dim ond “un llwybr” sydd ganddyn nhw i frwydro’u hachos, meddai’r llwyth, sef dwyn achos yn yr Uchel Lys.
Mae Llywodraeth glymblaid Seland Newydd yn gofyn bod adrannau gwasanaethau cyhoeddus yn cyfathrebu yn Saesneg yn bennaf, ac yn arddel eu henwau Saesneg – yn eu plith mae Waka Kotahi, yr asiantaeth drafnidiaeth sydd bellach yn arddel yr enw NZ Transport Agency.
Roedd Cytundeb Raupatu yn ymgais i adennill mwy na miliwn erw o dir llwythi brodorol gafodd ei feddiannu gan y Goron, ac fe gafodd hynny gryn effaith ar iaith, diwylliant a ffordd o fyw’r llwyth.
Mae’r llwyth yn dadlau bod cysylltiad annatod rhwng iaith, diwylliant a ffordd o fyw, ond fod y cytundeb wedi ceisio datod y cwlwm rhyngddyn nhw yr agweddau ar eu bywydau oedd yn eu gwneud nhw’n unigryw.
Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o achosion o’r hyn sy’n cael ei ystyried yn ymgais i ddileu hawliau pobol frodorol yn Seland Newydd.
Wrth ymateb, dywed Llywodraeth Seland Newydd eu bod nhw’n cymryd y sefyllfa o ddifri ac yn “gwerthfawrogi iaith a diwylliant y Māori sy’n greiddiol i hanes, presennol a dyfodol Seland Newydd”.