Mae disgwyl i Lywodraeth Awstralia gyhoeddi dyddiad refferendwm hanesyddol ar roi cydnabyddiaeth i bobol frodorol yng nghyfansoddiad y wlad.

Bydd gofyn i drigolion y wlad bleidleisio fis Hydref neu Dachwedd a ydyn nhw eisiau addasu’r cyfansoddiad fel ei fod yn cynnwys “Llais i’r Senedd”, sef pwyllgor brodorol i gynghori’r senedd ar faterion sy’n effeithio arnyn nhw.

Mae’r bleidlais yn cael ei hystyried yn gyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth i gydnabod pobol frodorol ac i gydnabod y gwahaniaethau positif mae pobol frodorol yn eu gwneud i’r genedl, medd y Prif Weinidog Anthony Albanese.

Ers i Awstralia ennill ei hannibyniaeth yn 1901, dim ond wyth allan o 44 o gynigion i newid y cyfansoddiad sydd wedi cael sêl bendith.

Mae polau piniwn cychwynnol yn awgrymu na fyddai’r cynnig yn cael ei basio pe bai pleidlais ar unwaith.

Er mwyn llwyddo, mae gofyn i fwyafrif o bobol bleidleisio dros gynnig mewn refferendwm, yn ogystal â mwyafrif mewn o leiaf bedair allan o chwe thalaith y wlad.

Cefndir

Mae pobol frodorol yn cyfrif am ryw 3.2% o boblogaeth Awstralia, sydd oddeutu 26m.

Cafodd pobol frodorol eu gwthio i’r cyrion gan yr Ymerodraeth Brydeinig, a does dim sôn amdanyn nhw yng nghyfansoddiad y wlad.

Doedd ganddyn nhw ddim hawliau pleidleisio tan y 1960au, ac maen nhw’n dioddef yn waeth o ran materion cymdeithasol ac economaidd o gymharu â gweddill y boblogaeth.

Yn ôl gwrthwynebwyr, byddai cynnwys hawliau brodorol yn y cyfansoddiad yn rhoi gormod o bwerau i un pwyllgor, tra bod eraill yn cwestiynu faint o rym fyddai gan y pwyllgor mewn gwirionedd.