Mae gan ffermwyr bryderon ynglŷn â faint o gyllid fydd ar gael iddyn nhw wedi i raglen amaethyddol ddod i ben.

Yn ôl undeb NFU Cymru, mae gan ffermwyr fydd yn ymweld â Sioe Sir Meirion yn Harlech heddiw (dydd Mercher, Awst 23) bryder y bydd y newid yn y cyllid yn effeithio ar eu busnesau.

Bydd rhaglen Glastir, sydd wedi bod mewn grym ers 2012 ac sy’n rhoi arian i ffermwyr sy’n trin y tir mewn ffordd gynaliadwy, yn dod i ben ym mis Rhagfyr.

Fe fydd y cynllun cael ei ddisodli gan raglen dros dro yn 2024, ond mae ffermwyr yn poeni ynghylch a fydd hi’n gallu darparu’r un lefel o incwm iddyn nhw.

Dydy’r cyllidebau a chyfraddau’r taliadau ar gyfer y rhaglen dros dro heb gael eu cyhoeddi eto.

Bydd y cynllun amaeth-amgylcheddol i ddiogelu cynefinoedd ar dir ffermio’n dod i rym ar Ionawr 1 y flwyddyn nesaf, ac fe fydd yn ei le tan ddechrau’r Cynllun Ffermio cynaliadwy yn 2025.

‘Peri pryder’

Dywed cadeirydd Sir Feirionnydd NFU Cymru fod hynny’n peri pryder i ffermwyr sydd â chytundebau Glastir yn barod.

“Mewn sawl sefyllfa, ochr yn ochr â thaliadau uniongyrchol, mae taliadau Glastir yn ffurfio rhan hollbwysig o incwm busnesau ffermydd ac yn cynnal hyfywedd y busnes, ynghyd â chefnogi ffarmio organig yng Nghymru,” meddai Rhodri Jones.

“Mae pryderon ffermwyr yn waeth yn sgil pwysau sylweddol chwyddiant a chostau cynyddol sy’n effeithio ar ffermio ar hyn o bryd.

“Mae’n peri pryder bod y penderfyniad i beidio ymestyn cytundebau Glastir drwy’r cyfnod sy’n arwain at y Cynllun Ffermio Gynaliadwy, sydd i fod i ddechrau yn 2025, wedi cael ei wneud heb ymgynghori na dadansoddiad cynhwysol mwyn deall yr effaith ar fusnesau perthnasol.”

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y cynllun dros dro yn cynnig cymorth i ffermwyr cymwys, gan gynnwys ffermwyr Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig pan ddaw eu cytundebau i ben ym mis Rhagfyr.

Ychwanega Rhodri Jones fod ganddo fe bryderon a fydd pawb sydd â chytundeb drwy raglen Glastir yn gymwys ar gyfer y cynllun dros dro, megis ffermwyr sydd â chytundebau Glastir Organig sydd efallai heb ddigon o dir addas ar gyfer y rhaglen.

“Rydyn ni’n credu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynnig ymestyn cytundebau Glastir ar gyfer 2024, a chynnig y rhaglen dros dro amaeth-amgylcheddol newydd i ffermydd sydd heb gytundebau Glastir,” meddai Rhodri Jones.

‘Math arall o gymorth’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Gan y bydd contractau Glastir yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2023, byddwn yn cynnig math arall o gymorth i bob ffermwr cymwys, gan gynnwys ffermwyr Glastir Uwch, Glastir Tir Comin a Glastir Organig.

“Bydd ein cynllun amaeth-amgylcheddol interim yn anelu at gynnal a chynyddu’r arwynebedd o dir cynefin a reolir ar draws Cymru.

“Rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, wrth i’r cynllun ddatblygu. Bydd rhagor o fanylion am y cynllun amaeth-amgylcheddol interim a’r gyllideb sydd ar gael yn cael eu cyhoeddi cyn y bydd y cyfnod ymgeisio’n agor.”