Dim ond teuluoedd fydd yn cael eu cartrefu ar y safle ac nid ceiswyr lloches sy’n sengl, yn ôl perchnogion Gwesty Parc y Strade yn Llanelli.

Daeth eu sylwadau mewn sesiwn holi ac ateb gyda thua 300 o bobol neithiwr (nos Fawrth, Awst 22), lle’r oedd cyfle i bobol leol ofyn cwestiynau am y cynlluniau.

Roedd y sesiwn holi ac ateb ar-lein yn cynnwys swyddogion o’r Swyddfa Gartref a’r cwmni Clearsprings sy’n gyfrifol am weithredu’r cynlluniau.

“Ein bwriad ar gyfer y gwesty hwn yw rhoi llety fwy neu lai’n gyfan gwbl i deuluoedd,” meddai Steve Lakey ar ran Clearsprings.

“Ni fydd unrhyw un sengl yn cael ei letya yno, ac fel sydd wedi cael ei grybwyll bydd hyd at 241 o bobol yn derbyn llety, ond fe fyddan nhw’n cyrraedd fesul cam dros gyfnod o amser.”

Dywed ei fod yn “cydnabod fod effaith sylweddol ar y gymuned” a’u bod yn “gweithio’n galed” i ddatrys y materion lle bo modd.

Yn ôl Tim Rymer o’r Swyddfa Gartref, mae’n cydnabod fod defnyddio’r llety ar gyfer ceiswyr lloches “ymhell iawn o fod yn ddelfrydol”.

“Ond ar hyn o bryd, mae’n parhau i fod yn anghenraid gweithredol, o ystyried bod angen i ni fodloni ein rhwymedigaeth statudol sy’n parhau i roi gwestai ar waith,” meddai.

“Gallaf ddweud wrthych yn sicr nawr nad ydym ar fin dechrau symud pobol i mewn – byddwn yn gwneud y gwaith pellach sydd ei angen yn gyntaf, ac yna’n gweithio drwy unrhyw gynlluniau gyda phartneriaid cyn i ni ddod â phobl i’r safle.”

‘Enw drwg i Lanelli’

Ddoe (dydd Mawrth, Awst 23), fe fu galwadau newydd i dawelu’r sefyllfa yn dilyn wythnos o ymddygiad gwael y tu allan i’r gwesty.

Mae’r gwesty wedi dod yn safle amlwg ar gyfer protestwyr ers cryn amser bellach, gyda nifer o arestiadau yn cael eu gwneud ar y safle, yn ôl yr heddlu.

Mae rhai trigolion lleol hefyd wedi bod yn cwyno am sŵn tu allan i’r gwesty yn eu cadw ar ddihun.

Dywed Nia Griffith, Aelod Seneddol Llanelli, fod rhai o’r protestwyr yn rhoi enw drwg i’r ardal.

“Mae’n annioddefol byw gyda sŵn cyson, ac mae’r aflonyddwch diweddar wedi bod yn ddychrynllyd i bobl sy’n byw gerllaw,” meddai.

“Wrth gwrs, mae gan bobol yr hawl i brotestio’n heddychlon, ond nid yw’r math hwn o anghyfraith yn gwneud dim i hybu’r achos, dim ond rhoi enw drwg i Lanelli ac mae’n hunllef i drigolion lleol.

“Y perchnogion a’r Swyddfa Gartref sy’n gwneud y penderfyniadau, sydd angen dylanwadu, a hoffwn apelio ar bawb yn y gwesty i fod yn ystyriol o’r rhai sy’n byw gerllaw.”

Mae’r gwesty’n dal i aros i’r ceiswyr lloches cyntaf gyrraedd y safle.