Gallai capel Cymraeg gwag gael ei droi’n ganolfan crasu coffi, caffi a llety gwyliau.
Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cais cynllunio llawn i newid defnydd safle hanesyddol Capel Bryn Rodyn.
Mae’r ardal yn gyfuniad o hen adeilad capel ger eiddo preswyl i’r dwyrain.
Mae sôn am yr hen gapel yn Nolydd ger y Groeslon yn nogfennau’r Cyngor, wedi’i sillafu’n ‘Bryn Rhodyn’ a ‘Brynrodyn’.
Mae’r safle crefyddol oedd unwaith yn llawn bwrlwm wedi’i leoli ar yr hen ffordd wledig rhwng Penygroes a Chaernarfon.
Er ei fod yn ei ddyddiau cynnar o hyd, y gobaith yw y gallai’r cynllun diweddaraf roi ail wynt i’r hen adeilad.
Y cais
Cafodd y cais ei gyflwyno gan Steffan Huws o gwmni coffi Poblado drwy law’r asiant Geraint Efans, Pensaer.
Mae’r ymgeisydd eisoes ynghlwm wrth redeg lle rhostio coffi llwyddiannus a phoblogaidd yn Y Barics yn Nantlle.
Mae’r cynlluniau ar gyfer yr hen gapel yn galw am newid defnydd fel ei fod yn dod yn gaffi ac yn siop goffi a lle rhostio.
Byddai’r cynlluniau hefyd yn gweld llety gwyliau tymor byr yn cael ei ddatblygu ar lawr cynta’r adeilad presennol.
Mae’r cais cynllunio hefyd yn disgrifio defnydd arfaethedig y safle ar gyfer rhostio coffi, canolfan groeso a hyfforddi barista.
Yr hen gapel
Yn ôl y wefan Coflein, cafodd Capel Methodistaidd Bryn Rodyn ei adeiladu yn 1773.
Roedd canolfan addoli’r Calfiniaid Cymreig unwaith yn adeilad llawer mwy o faint.
Dros y blynyddoedd, cafodd nifer o newidiadau ac addasiadau eu gwneud i’r safle, gan gynnwys dymchwel adeilad rai blynyddoedd yn ôl.
Cafodd addasiadau eu gwneud hefyd yn 1798 ac yn 1830, a chafodd y capel ei ailadeiladu yn 1869 yn yr hyn mae gwefan yr adeilad hanesyddol yn ei alw’n “arddull Rufeinig dull mynedfa dalcen”.
Cafodd y capel ei adeiladu’n wreiddiol gan y pensaer Richard Owen o Lerpwl, yn ôl y wefan.
Dywedodd archwiliad o’r adeilad gwag ei fod wedi dod o hyd i adar y to yn nythu ar wyneb ar ochr ddeheuol yr adeilad.
Mae archwiliad ystlumod hefyd yn disgrifio rhai “rannau o’r adeiladau sydd wedi’u cynnig i’w datblygu sy’n cael eu defnyddio gan ystlumod sy’n clwydo”.
Cafwyd hyd i dri math gwahanol o ystlumod, a chafodd yr adeilad ei adnabod fel un sy’n cael ei ddefnyddio’n “achlysurol ar gyfer clwydo ddydd a nos”.
Byddai angen gwneud cais am drwydded datblygu ar gyfer ystlumod sy’n rywogaeth warchodedig yn Ewrop cyn gwneud unrhyw waith, medd yr adroddiad.
Er bod carthion ystlumod wedi’u canfod, “ni chafwyd hyd i groniad enfawr o garthion ystlumod yn ymwneud â chlwydo ar gyfer mamolaeth o fewn yr un o’r adeiladau yng Nghapel Brynrodyn” yn ôl yr archwiliad.
Cynigiodd yr adroddiad fod angen gwaith rhagofal er mwyn gwarchod unrhyw ystlumod all fod yno, gan gynnwys gadael yr atig i’r de yn rywle penodedig i ystlumod gael clwydo.