Bydd R Alun Evans, sydd wedi marw’n 86 oed, yn cael ei gofio fel “ffrind i bawb”, fel “gŵr o weledigaeth” ac fel “cwmnïwr da”, yn ôl y Parchedig Beti Wyn James.
Wedi’i fagu yn Llanbrynmair ar aelwyd o weinidogion, gan gynnwys ei ddiweddar frawd Ifan Wyn Evans, cafodd yntau ei ordeinio yn 1961 yn Eglwys Seion, Llandysul.
Ond fe aeth i weithio i Adran Grefydd y BBC ar ôl sawl blwyddyn yn y weinidogaeth fugeiliol, a fe oedd cyflwynydd y rhaglen deledu Heddiw rhwng 1969 a 1979.
Cafodd ei ddyrchafu wedyn yn un o reolwyr y BBC ac yn bennaeth ar ganolfan y BBC ym Mangor.
Dychwelodd maes o law i ofalu am Eglwys Bethel, Caerffili a Gwaelod y Garth ac ar ôl gadael y byd darlledu yn 1996, astudiodd am radd Doethuriaeth yn y brifysgol ac ennill PhD yn 1999 am ei waith ym maes ‘Dechrau a datblygu darlledu yng ngogledd Cymru’.
Ymddeolodd yn y pen draw yn 2014.
Roedd hefyd yn wyneb a llais cyfarwydd ym myd yr Eisteddfod, ac yn arweinydd llwyfan uchel ei barch, gan gynnwys arwain seremoni’r Fedal Ryddiaith bob blwyddyn.
Daeth yn aelod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn y 1970au, ac yn gadeirydd rhwng 1999 a 2001, ac wedyn yn Llywydd y Llys o 2002 i 2005 ac yn Gymrawd yn y pen draw.
‘Cymaint i’w gyfrannu o hyd’
“Mi roedd e’n ŵr o weledigaeth ac yn gwmnïwr da,” meddai’r Parchedig Beti Wyn James wrth golwg360.
“Dyna falch oedden ni i gyd ei fod e wedi camu’n ôl i’r weinidogaeth fugeiliol, a dyna falch oedden ni i gael ei gwmni fe unwaith eto achos, yn sicr, roedd ganddo fe gymaint i’w gyfrannu o hyd.
“Mi oedd e’n gyfathrebwr heb ei ail, wrth gwrs, nid yn unig dros donfeddi’r awyr ac o flaen y camera, ond mi roedd e’n gyfathrebwr arbennig iawn hefyd o’r pulpud – yn bregethwr egnïol, pob gair yn ei le, dim un gair yn wastraff gyda fe, a phopeth wedi’i saernïo i’r oedfa gyfan, a’r bregeth wedi’i saernïo’n berffaith ac ôl paratoi ym mhob peth roedd e’n ei gyflwyno.
“Mi roedd Alun hefyd yn heddychwr o argyhoeddiad, a nifer ohonon ni’n llawn edmygedd ohono fe.
“Yn wir, roedd e’n batrwm i nifer o bobol eraill yn ei safiad dros heddychiaeth.
“Pan gafodd ei ddyrchafu’n Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ’nôl yn y flwyddyn 2014, fe gofiwn ni o hyd ei anerchiad egnïol a phwerus ar Iesu’r Cymod.
“Mi roedd e’n gyfaill da i bawb, yn sicr roedd e’n gyfaill da i’w gyd-weinidogion ac yn arbennig o garedig a chefnogol hefyd i weinidogion newydd.
“Pan oeddech chi yng nghwmni Alun, byddech chi’n cael eich dyrchafu ac roeddech chi wastad yn teimlo’n well o fod yn ei gwmni fe.
“Fel’na fydda i, fel nifer, yn ei gofio fe – fel ffrind da a thriw, ac yn diolch am y fraint o gael ei adnabod e.”