Mae llyfr newydd yn archwilio’r cysylltiadau rhwng caethwasiaeth a’r diwydiant gwlân yng Nghymru yn ceisio tynnu sylw at ddarn o hanes sydd heb “gael llawer o gydnabyddiaeth”.
Myfyrwyr celf Coleg Menai ym Mangor sydd wedi darlunio Hanesion Plethedig Gwlân Cymru a Chaethwasiaeth, ac mae’n rhan o brosiect ymchwil ehangach.
Bu’r myfyrwyr yn ymchwilio cysylltiadau hanesyddol rhwng y fasnach gaethwasiaeth a chynhyrchu gwlân yng Nghymru yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar by then fel rhan o’r gwaith.
Mae’r llyfr yn dangos sut roedd gwlân oedd yn cael ei alw’n ‘Welsh Plains’ yn cael ei ddefnyddio gan fasnachwyr o wledydd Prydain i brynu a masnachu caethweision Affricanaidd, a gan berchnogion planhigfeydd i’w rhoi fel dillad i gaethweision.
Mae’r llyfr hefyd yn taflu goleuni ar yr amodau roedd gweithwyr gwlân yng Nghymru yn eu dioddef dan dirfeddianwyr a masnachwyr.
‘Bwrw goleuni’
Mae ymatebion Chloe Buckless, Anne Butler, Jessica Chun, Seren Haf Williams-Davies, Elin Roberts a Kimberley Sanchez i’w gweld rhwng cloriau’r gyfrol ddwyieithog, sydd ar gael yn rhad ac am ddim.
“Roedd yn hynod ddiddorol darganfod y cysylltiad rhwng yr hen felinau anghofiedig hyn, y mae llawer ohonynt bellach wedi cael eu hadennill gan natur, a’u rhan mewn cynhyrchu gwlân a ddefnyddiwyd i ddilladu caethweision ochr arall i’r Iwerydd,” meddai Anne Butler.
“Rydw i’n credu ei bod yn bwysig bwrw goleuni ar yr hanes hwn.
“Cododd y prosiect rai teimladau cryf a gafodd eu sianelu i’n celf.”
O Ddolgellau i’r Caribî
Roedd ‘Welsh Plains’ yn frethyn gwlân oedd yn cael ei wehyddu yng nghanolbarth Cymru rhwng 1650 a 1850, ac roedd galw arbennig amdano gan berchnogion planhigfeydd.
Ysgrifennodd un perchennog o Dde Carolina, Robert Maxwell, yn 1823 fod cynhyrchwyr lleol wedi ceisio efelychu’r ‘Welsh Plains’ ond wedi canfod nad oedd cystal, felly roedd yn well ganddo brynu brethyn “a wnaed gan ffermwyr Cymru”.
Mae’r gyfrol yn rhan o brosiect sy’n cael ei arwain gan Dr Charlotte Hammond o Brifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr cymunedol, Liz Millman o Learning Links International a Marcia Dunkley o’r Black Heritage Walks Network.
Eglura Dr Charlotte Hammond fod y prosiect yn ceisio tynnu sylw at ddarn o hanes sydd heb “gael llawer o gydnabyddiaeth hyd yn hyn”.
“Archwiliodd y myfyrwyr olion o’r naratif hanesyddol hwn sy’n cysylltu ecsbloetio gwehyddion yng nghefn gwlad Cymru ag anghyfiawnder hiliol caethwasiaeth yr Iwerydd, a’i ddibyniaeth ar gylchrediad tecstilau Cymreig,” meddai.
“Mae ein gwaith wedi mynd â ni o adfeilion melinau pandy yn Nolgellau, Meirionnydd, ar hyd llwybrau’r ceffylau pwn oedd yn cludo brethyn ‘Welsh Plains’ i Loegr.
“Yno, byddai’n cael ei liwio a’i orffen yn Amwythig, ei anfon i Lundain a Lerpwl i’w fasnachu ac yna ei allforio i America.
“Rydyn ni wedi olrhain cysylltiadau trefedigaethol y lliain i’r Caribî a thaleithiau de’r Unol Daleithiau, lle defnyddiwyd ‘Welsh Plains’ i ddilladu caethweision a weithiai ar y planhigfeydd.
“Daw ymateb weledol i’r hanes hwn i’r amlwg yng ngwaith celf y grŵp o artistiaid a dylunwyr newydd hyn.”
Mae Hanes Plethedig Gwlân Cymru a Chaethwasiaeth ar gael ar-lein, a bydd yn cael ei gyhoeddi mewn print yn ddiweddarach eleni.