Mae Clwb Ifor Bach yn bwriadu cynyddu maint y safle er mwyn gallu cynnal perfformiadau ar raddfa fwy.

Y bwriad ydy trawsnewid y gofod yn safle aml-ystafell “cwbl hygyrch”, medd Clwb Ifor Bach, sy’n gartref i’r diwydiant cerddoriaeth ers deugain mlynedd.

Mae gan y lleoliad ddeunaw mis i godi arian er mwyn gwireddu’r bwriad, a bydd ganddyn nhw syniad cliriach o’r gost yn ddiweddarach yr hydref hwn.

Byddai’r cynigion, gafodd eu cyflwyno i Gyngor Sir Caerdydd yr wythnos hon, yn golygu bod Clwb Ifor Bach yn cymryd yr adeilad adfeiliedig drws nesaf a’i uno â’r safle presennol ar Stryd Womanby.

Datblygiadau

Fe fyddai’r ailddatblygu’n creu gofod newydd â lle i 500 o bobol, a byddai’n cynnwys ystafell arall â lle i 200 o bobol.

Yn ôl y safle, bydd dyluniad y lleoliad newydd yn cadw cymeriad, swyn a threftadaeth Clwb Ifor Bach, gan ei foderneiddio a’i ddiogelu ar gyfer y dyfodol a chenedlaethau i ddod.

Nissen Richards, stiwdio ddylunio yn Llundain sy’n gweithio ar draws pensaernïaeth, arddangosfeydd, dylunio graffeg, theatr, adrodd straeon, ffilm ac animeiddio, sydd wedi creu’r cynllun newydd.

“Mae cryn dipyn o amser wedi bod ers i ni ryddhau’r dyluniadau cysyniadol ar gyfer yr ailddatblygiad yn ôl ar ddechrau 2019, ac mae gallu cyflwyno’r cais cynllunio o’r diwedd yn teimlo fel cam mawr ymlaen,” meddai Guto Brychan, Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach.

“Rydyn ni’n dathlu pen-blwydd Clwb Ifor yn ddeugain eleni, ac rydyn ni eisiau atgoffa pobol ers pryd rydyn ni wedi bod yma, a pha mor bwysig ydyn ni i’r gymuned ac i fywyd diwylliannol Caerdydd.”

Darlun yn dangos sut fyddai teras to’r adeilad yn edrych

‘Ffordd hir o’n blaenau’

Ers agor yn 1983, mae’r safle wedi helpu artistiaid o Gymru fel Stereophonics, Boy Azooga, Gwenno a Super Furry Animals yn ystod camau cynnar eu gyrfaoedd.

Mae wedi cynnig cyfleoedd i filoedd o artistiaid newydd ddatblygu eu crefft o flaen cynulleidfaoedd llai hefyd, gan gynnwys artistiaid byd-enwog fel Coldplay.

Tu allan Clwb Ifor Bach dan y cynlluniau newydd

Ers 2019, mae Clwb Ifor Bach yn elusen, a byddai’r cynlluniau’n golygu bod modd iddyn nhw ehangu cyrhaeddiad ac effaith eu hamcanion elusennol wrth gefnogi gweithwyr yn y diwydiant cerddoriaeth sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd.

“Hoffen ni ddiolch i Gyngor Caerdydd am eu cymorth yn sicrhau’r safle drws nesaf, oedd yn ffactor allweddol wrth symud y cynlluniau yn eu blaen,” meddai Guto Brychan wedyn.

“Mae ffordd hir o’n blaenau ni’n dal i fod, yn enwedig o ran sicrhau digon o gyllid, ond rydyn ni’n hyderus y bydd ein cynlluniau i wella Clwb Ifor Bach ar gyfer artistiaid a chynulleidfaoedd y dyfodol yn gonglfaen i isadeiledd cerddoriaeth fyw y brifddinas am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Guto Brychan wrth golwg360 eu bod nhw’n chwilio am fuddsoddiad “sylweddol” i wireddu’r uchelgais.

“Bydd gennym syniad cliriach o’r gost amcangyfrifedig derfynol ar ôl cwblhau’r cam dylunio technegol (RIBA 4A) yn ddiweddarach yr hydref hwn,” meddai.

“Fodd bynnag, mae’n amlwg y bydd angen buddsoddiad sylweddol, yn enwedig yn wyneb y cynnydd mewn chwyddiant dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”

Dywed hefyd y bydd y safle’n “adeiladu ar ein treftadaeth”, yn cyfrannu at y gymuned, economi Cymru, ac at hanfod bywyd yng Nghymru.

“A bydd yn chwarae rôl hollbwysig wrth wneud Caerdydd yn ddinas gerddoriaeth a gaiff ei chydnabod yn rhyngwladol, yn brifddinas i wlad y gân,” meddai.

“Mae’n bryd rhoi cartref newydd i gerddoriaeth Cymru.”