Dylid ystyried rhoi mynediad rhatach i Eisteddfod Genedlaethol 2024 i bobol sy’n teithio yno ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn ôl ymgyrchwyr amgylcheddol.
Yn ôl grwpiau amgylcheddol lleol yn Rhondda Cynon Taf, dylai’r amgylchedd fod yn flaenoriaeth wrth drefnu Eisteddfod Genedlaethol 2024.
Bydd y brifwyl yn ymweld â Phontypridd y flwyddyn nesaf, ac er eu bod nhw’n rhoi croeso mawr iddi mae’r ymgyrchwyr yn dweud bod “rhaid rhoi’r blaned gyntaf”.
Parc Ynysangharad yn y dref fydd lleoliad y Maes, a dywed Catrin Doyle, sy’n aelod o grŵp lleol Cyfeilion y Ddaear y dref, ei bod hi’n teimlo fel mai Eisteddfod 2024 fydd “yr Eisteddfod fwyaf werdd erioed”.
“O ran allyriadau carbon a newid hinsawdd, mae llwyth o waith yn cael ei wneud ar hyn o bryd gyda’r trenau yn cael eu trydaneiddio, a bydd hyn yn rhoi cyfle i leihau allyriadau carbon y daith i’r maes,” meddai.
“Efallai bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried noddi gostyngiad ar docyn i’r Maes i’r rhai sydd wedi teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, fel rhan o ymrwymo at dargedau cynaladwyedd a datgarboneiddio’r cenedl?”
Y metro?
Mewn sgwrs yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan ddechrau’r mis, bu Helen Prosser, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2024, yn sôn am sut y bydd pobol yn cyrraedd y maes flwyddyn nesaf.
“Mae’r metro i fod yn barod, a bydd y metro yn gyfle mor wych nid yn unig i ddod â phobol o Gaerdydd ond i gysylltu cymunedau o fewn Rhondda Cynon Taf,” meddai.
“Bydd pedwar trên bob awr lan i dop y cwm yn Nhreorci, ac i’r cwm arall yn Aberdâr, a byddwn ni’n apelio ar bobol i ddefnyddio’r trenau yna fel ein bod ni mor wyrdd â phosib yn cyrraedd yr Eisteddfod.”
‘Gostwng effeithiau newid hinsawdd’
Dywed Angela Karadog, cynghorydd lleol gyda’r Blaid Werdd, fod yna lawer i’w ddathlu, ond rhybuddia yn erbyn rhai datblygiadau.
Mae Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cymeradwyo cais i greu mwy o le gwyrdd i gynnal digwyddiadau mawr ym Mharc Ynysangharad.
“Mae angen sicrhau bod unrhyw ddatblygiadau isadeiledd neu waith tir yn y parc yn natur-bositif ac yn helpu i ostwng effeithiau newid hinsawdd,” meddai Angela Karadog, sydd yn erbyn unrhyw weithgaredd torri coed ym Mharc Ynysangharad.
“Torcalonnus fyddai pe bai digwyddiad anhygoel fel yr Eisteddfod, digwyddiad i hybu a diogelu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant am genedlaethau’r dyfodol, yn golygu torri coed sy’n dwyn gan ein treftadaeth naturiol ni.”
Roedd yr ardal dan sylw yn arfer bod yn gwrs golff troed, a byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i wneud y mwyaf o fannau gwyrdd, a rhagor o goed yn cael eu plannu mewn mannau priodol, yn ôl y Cyngor.
“Yn ganolog i’r hyn sy’n cael ei gynnig yw deall pwysigrwydd cynnal yr ardal fel man gwyrdd, ac i warchod ecoleg yr ardal, gan gadw ein cyfrifoldeb i ymladd yn erbyn y newid yn yr hinsawdd mewn cof,” meddai’r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf sydd â chyfrifoldeb dros Ffyniant a Datblygu.
“Byddai’r cam dylunio manwl yn rhoi ystyriaeth drylwyr i warchod yr amgylchedd ble mae modd, ac yn nodi mesurau lliniaru addas megis plannu coed ychwanegol os does dim modd gwneud hynny.”
Mae’r Cyngor hefyd yn dweud mai dim ond coed bach ar y cwrs golff fyddai’n cael eu torri, os o gwbl.
‘Cynaliadwyedd yn greiddiol i bopeth’
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod eu bod nhw am weithio gyda’r Cyngor a phartneriaid amrywiol dros y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau bod cynaliadwyedd yn “greiddiol i bopeth”.
“Mae gennym ni bolisi amgylcheddol a chynaliadwyedd uchelgeisiol ac mae sicrhau ein bod ni’n gweithredu yn y modd ‘gwyrddaf’ posibl yn flaenoriaeth i’r Eisteddfod.”