Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r Parchedig Ddr. R. Alun Evans, sydd wedi marw’n 86 oed.

Yn awdur a darlledwr, roedd yn hanu o Lanbrynmair ym Mhowys.

Aeth yn ei flaen i astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru Bangor, cyn mynd i’r weinidogaeth gyda’r Annibynwyr yng nghapel Seion yn Llandysul.

Ymunodd ag Adran Grefydd BBC Cymru yn 1964.

Fe oedd cyflwynydd y rhaglen gylchgrawn Heddiw rhwng 1969 ac 1979, ac roedd yn sylwebydd ar seremonïau’r Eisteddfod Genedlaethol, a gemau pêl-droed fel y sylwebydd Cymraeg cyntaf ar y radio ar gyfer y gêm rhwng Cymru a’r Alban yn 1977.

Roedd yn gadeirydd ar yr Eisteddfod rhwng 1999 a 2001, ac yn Llywydd y Llys o 2002 i 2005.

Daeth yn Gymrawd yr Eisteddfod am ei gyfraniad a’i wasanaeth hefyd.

Enillodd radd PhD o Brifysgol Bangor am ei astudiaeth, ‘Dechrau a datblygu darlledu yng ngogledd Cymru’ yn 1999.

Aeth yn ei ôl i fod yn weinidog, gan wasanaethu’r Annibynwyr yng Nghaerffili a Gwaelod-y-Garth, gan ymddeol yn 2014 ac fe fu’n Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

Mae’n gadael ei wraig, Rhiannon, a’u plant, Rhys Powys a Betsan Powys.

‘Modern ei weledigaeth’

“Roedd R Alun Evans yn un o gefnogwyr mawr yr Eisteddfod,” meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.

“Bu’n rhan o lywodraethiant y Brifwyl am flynyddoedd lawer, ac roedd ei ffyniant a’i datblygiad yn agos iawn at ei galon.

“Roedd yn arweinydd naturiol a gofalus yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, ac roedd ein perthynas gydag R Alun yr un mor gryf ac agos heddiw ag y bu erioed.

“Cwta dair wythnos yn ôl roedden ni’n cydweithio er mwyn cwblhau’r argraffiad newydd o’i gyfrol ar hanes Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn, ac rydyn ni mor falch o fod wedi cael y cyfle i gwblhau’r prosiect hwn a oedd mor agos at ei galon.

“Roedd cyngor R Alun wastad yn werth ei gael. Roedd yn fodern ei weledigaeth, yn gweld dyfodol yr Eisteddfod yn glir, ac yn rhannu o’i brofiad a’i syniadau gyda ni tan y diwedd.

“Ac roedden ni bob amser yn ddiolchgar am ei sylwadau a’i farn adeiladol; roedd sgwrs gydag R Alun yn gyfle i gamu’n ôl ac ystyried pethau, a’r cyfan oll er budd yr Eisteddfod, y Gymraeg a Chymru.

“Byddwn yn colli hyn yn arw, a byddwn hefyd yn colli’i anwyldeb hyfryd a’r agosatrwydd a oedd yn rhan mor bwysig o’i bersonoliaeth.

“Roedd yn gefnogol o’r Eisteddfod, ac roedd yn gefnogol o bawb a oedd yn ymwneud â’r ŵyl.

“Rydyn ni’n anfon ein cydymdeimladau dwysaf at Rhiannon, Rhys a Betsan heddiw, ac yn diolch am y gyfeillgarwch a’r gefnogaeth drwy’r blynyddoedd.”

‘Darlledwr crefftus a chraff, yn gawr ac yn arloeswr’

“Roedd R Alun Evans yn ddarlledwr crefftus a chraff; yn gawr ac yn arloeswr ymhlith darlledwyr Cymru dros sawl degawd a chanddo’r gallu unigryw hwnnw i greu agosatrwydd arbennig gyda’i gynulleidfa,” meddai Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru.

“Fe dorrodd dir newydd mewn sawl maes yn y byd darlledu.

“Roedd yn gyflwynydd newyddion ar y rhaglen Heddiw, yn gyfrifol am sylwebaethau pêl-droed cofiadwy, yn dywysydd drwy seremonïau Eisteddfodol dirifedi ac ar raglenni addysg a chrefydd y BBC.

“Y llinyn arian trwy hyn i gyd oedd ei wybodaeth ddofn o Gymru, ei barch at y gynulleidfa Gymraeg a llais y gellir ymddiried yn llwyr ynddo.

“Byddwn ni yn y BBC yn ei gofio fel lladmerydd cadarn dros ddarlledu yn y Gogledd hefyd, ac am ei gyfraniad amhrisiadwy tuag at ddatblygiad BBC Radio Cymru.

“Roeddwn i bob amser yn gwerthfawrogi pob nodyn neu alwad ganddo yn cynnig gair o gyngor doeth, her hyd yn oed, neu anogaeth.

“Wrth i ni gydnabod ei gyfraniad helaeth, rydym hefyd yn meddwl ac yn cofio am ei deulu yn eu colled.

“Estynnwn ein cydymdeimladau dwysaf at Rhiannon ei wraig, Rhys a Betsan a’u teuluoedd a’i lu o ffrindiau.”