Mae bron i 150 o gyfranwyr i gylchgronau yng Nghymru’n galw am achub cylchgronau a gwefannau Cymreig.
Heddiw (dydd Llun, Awst 21), mae llythyr agored wedi cael ei anfon at Lywodraeth Cymru, Cymru Greadigol a Chyngor Llyfrau Cymru yn galw am gynyddu cyllid craidd cyhoeddiadau Cymraeg a Saesneg.
Yn ôl yr ymgyrch, sydd wedi derbyn cefnogaeth Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) a Chymdeithas yr Awduron yng Nghymru, mae lefelau grantiau, “sy’n gwaethygu’n gyson”, wedi arwain at waeth amodau gwaith a chyflogaeth, a ffïoedd isel i gyfranwyr.
Mae’r sefyllfa yn “fater o frys”, medd y llythyr, a bydden nhw’n hoffi gweld buddsoddiad ychwanegol i ddatblygu mentrau presennol a newydd sy’n ceisio gwella newyddiaduraeth yng Nghymru.
‘Cefnogi rhyddid mynegiant’
Dywed y llythyr ei bod hi’n bwysig fod arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi mewn cyhoeddiadau ar-lein, yn ogystal â rhai print traddodiadol.
“Bwriad y llythyr yw ymgais i gefnogi rhyddid mynegiant er mwyn creu democratiaeth hyfyw yng Nghymru heddiw,” meddai Menna Elfyn, llywydd PEN Cymru ac un o’r 143 sydd wedi llofnodi’r llythyr, wrth golwg360.
“Mae sefyllfa gyffredinol Cymru o safbwynt newyddiaduraeth yn un eithaf gwan, a dyna pam mae eisiau mwy o ffynonellau i hyrwyddo’r print fel bod hwn yn para – bod eisiau print yn ogystal â’r digidol.
“Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru, Cymru Greadigol a Chyngor Llyfrau Cymru i ddod ynghyd â gwella nawdd craidd, a bod e’n fater o frys.
“Mae gymaint o lwyddiant y cylchgronau yma’n dibynnu ar gael grantiau teg i alluogi staff i barhau ac i fod yn llawrydd.
“Yn gyffredinol mae eisiau eu cynnal er mwyn rhyddid mynegiant, er mwyn yr holl bethau yma sy’n perthyn i genedl iach – bod yna amrediad o gylchgronau.
“Rydyn ni’n dibynnu llawer hefyd ar bobol yn gwneud gwaith gwirfoddol, sy’n amhosib pan mae mater o sgrifennu yn y cwestiwn.”
Setliad ‘anghynaladwy’
Cyfeiria’r llythyr yn benodol at Planet: The Welsh Internationalist, cyfnodolyn gafodd ei sefydlu yn 1970.
Mae cyllid craidd y cylchgrawn yn llai na hanner yr hyn oedd hyn datganoli, ac mae golygydd a chyfarwyddwr bwrdd Planet yn egluro sut ei bod hi’n cael ei thalu i weithio 27 awr yr wythnos ond yn aml yn gweithio rhwng 40 a 70 awr.
“Mae’r sefyllfa a amlinellwyd gan Emily Trahair yn debyg i’r hyn y mae llawer o gyhoeddiadau eraill a ariennir yn ei wynebu,” medd y llythyr.
“Nodir ganddi fod holl staff cylchgrawn Planet wedi derbyn yr un cyflog yr awr (£12) ers 2012; ond ar ben hynny, heb gynnydd sylweddol iawn yn y grant, mae’n amhosib darparu pensiynau llawn, taliadau salwch statudol, neu yn y rhan fwyaf o achosion, oriau gwaith addas ar gyfer rhiant, gofalwr neu rywun sy’n gwella yn sgil salwch.
“Er bod ymdrechion Cyngor Llyfrau Cymru i lobïo Llywodraeth Cymru am well cyllid i’w croesawu’n fawr, megis y cyllid brys yn 2023 i fynd i’r afael, yn y tymor byr, yn rhannol a’r argyfwng costau byw, mae’n rhaid i bob corff sy’n gyfrifol am ddarparu grantiau gydnabod nad yw’r setliad presennol yn gynaliadwy.”
Galwadau
Mae galwadau’r llofnodwyr, sydd oll yn bobol sy’n cyfrannu at wefannau neu gylchgronau sy’n cael eu hariannu gan Gyngor Llyfrau Cymru, yn cynnwys:
- Galw ar bob corff sy’n gyfrifol am gyllido cylchgronau a gwefannau – Llywodraeth Cymru, Cymru Greadigol a Chyngor Llyfrau Cymru – i ddod ynghyd i gydlynu ymdrechion i wella cyllid craidd ar frys.
- Cynyddu’r cyllid craidd ar gyfer pob cylchgrawn a gwefan sy’n llwyddiannus yng ngalwad nesaf y grantiau ar gyfer cylchgronau Saesneg, a hynny fesul cyhoeddwr hyd at lefel sy’n caniatáu amodau gwaith moesegol ar gyfer gweithwyr a chyfranwyr llawrydd.
- Rhoi hwb i gyllid craidd cylchgronau a gwefannau Cymraeg eu hiaith, gan nodi y dylai pob targed ac amod ariannu gynnwys yr oriau â thâl sydd eu hangen i gyflawni’r gwaith.
‘Ymwybodol iawn o’r pwysau’
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Llyfrau Cymru eu bod nhw’n “ymwybodol iawn” o’r pwysau sydd ar gyfnodolion Cymreig.
“Rydym yn lobio Llywodraeth Cymru yn gyson am fwy o gyllid i’r diwydiant yn gyffredinol ac i’r cylchgronau’n benodol.
“Rydym newydd hysbysebu proses dendro ar gyfer y cyfnodolion Cymreig, ac fe fydd y materion hyn yn cael sylw manwl yn ystod trafodaethau’r Panel.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae ein cyllid blynyddol i Gyngor Llyfrau Cymru yn helpu i gefnogi’r sector cyhoeddi, gan gynnwys cylchgronau.
“Trwy ein Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, mae £135,000 ychwanegol wedi bod ar gael i’r Cyngor Llyfrau yn y flwyddyn ddiwethaf i gefnogi cylchgronau Cymraeg.
“Rydym hefyd yn darparu £200,000 i ariannu mentrau cyfryngau Cymreig a gwella newyddiaduraeth yn y Gymraeg, a fydd hefyd yn cyfrannu at fynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu’r sector.”