Mae dynes o Dalysarn yn credu bod prisiau trên yn rhy uchel o lawer, ac y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod prisiau’n gostwng er mwyn i bobol beidio defnyddio’u ceir fel bod modd gwarchod yr amgylchedd.

Mae Madeleinne Beattie, sydd â merch 17 oed sy’n byw yn Basingstoke yn Hampshire, wedi gorfod talu £115 am docyn trên i Fangor gyda cherdyn rheilffordd.

Yn ogystal â hyn, bu’n rhaid i’w merch newid trenau dair gwaith, gan gymryd amser hir i ddychwelyd i Fangor – sefyllfa sydd ddim digon da, yn ôl y ddynes.

“Am dren o Basingstoke i Fangor, roedd yn £115 y ddwy ffordd,” meddai wrth golwg360.

“Mae hynny gyda cherdyn rheilffordd.

“Byddai wedi bod yn llawer drutach heb gerdyn rheilffordd.

“Petai hi wedi dod yn y car, byddai’r petrol yr un fath â’r trên.

“Gall pump o bobol deithio mewn car; pe bai pump o bobol wedi dod ar y trên, byddai’n £575.

“Os oes gennych chi gar yn llawn o bobol, mae’n fwy na chwarter y pris.”

Dod yn ôl i Gymru

Mae Madeleinne Beattie yn teimlo ei bod yn hollbwysig fod ei merch, Amelia Grace, yn dod adref ac yn cael perthynas â’i theulu, ond dydy’r daith adref ddim yn gyflym, yn rhad nac yn hawdd.

“Rydych chi eisiau i bobol aros yng Nghymru a dod yn ôl i Gymru a chael perthynas â’u teulu,” meddai.

“Er mwyn gwneud hynny’n bosibl, mae angen cymorth ar bobol i allu fforddio a gallu mynd adref yn rhwydd.

“Mae Amelia wedi dod yn ôl o Basingstoke, ac mae hi wedi gorfod newid trenau deirgwaith.

“Does dim llwybrau uniongyrchol o rywle y byddech chi’n meddwl sy’n eithaf canolog.

“Mae’n rhaid i bobol dalu mwy a newid trenau, ac mae’n cymryd mwy o amser i gyrraedd lle rydych eisiau mynd.

“Mae angen iddynt ei wella.”

Yr amgylchedd

Gyda Madeleine Beattie yn danbaid dros yr amgylchedd, mae hi am weld llai o geir ar y lôn.

Gyda’r Llywodraeth yn buddsoddi yn yr amgylchedd mewn meysydd eraill, meddai, dylen nhw fuddsoddi mewn gwneud teithio ar y trên yn fwy fforddiadwy i bobol ddefnyddio’u ceir llai.

“Rwy’n meddwl bod pobol yn cael eu gorfodi i ddefnyddio’u ceir os yw prisiau trafnidiaeth gyhoeddus yn mynd i fod mor uchel,” meddai wedyn.

“Does dim unrhyw anogaeth i ddefnyddio’ch car.

“Mae’n well i’r amgylchedd os yw pobol yn teithio ar y trên, felly dylid annog teithio ar drenau. Ac mae’n rhatach.

“Mae’r Llywodraeth yn ymwneud â gwneud newidiadau i’r amgylchedd, ond dydyn nhw ddim yn helpu gan fod prisiau trafnidiaeth gyhoeddus mor uchel.

“Rwy’n meddwl y dylai’r Llywodraeth roi cymhorthdal i wneud tocynnau trên yn rhatach, a buddsoddi.

“Os ydyn nhw’n buddsoddi mewn ceir trydan a phaneli solar a beth bynnag arall, yna fe ddylen nhw feddwl am drafnidiaeth gyhoeddus fel prif flaenoriaeth.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’n debygol mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fyddai’n gyfrifol am y daith dan sylw.

Ond wrth ymateb i’r mater yn ehangach, dywed eu bod nhw’n “cydnabod effaith yr argyfwng costau byw”.

“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i annog rhagor o bobol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer eu teithiau,” meddai.

“Rydym wedi galw’n gyson am ddatganoli isadeiledd y rheilffyrdd, ochr yn ochr â setliad ariannu teg.

“Yn barhaus, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod buddsoddi’n llawn mewn isadeiledd rheilffyrdd yng Nghymru.”