Mae’r doctor oedd wedi cadarnhau bod y babanod gafodd eu llofruddio gan y nyrs Lucy Letby yn ddioddefwyr trosedd wedi dweud wrth golwg360 fod angen erlyn rhai o weinyddwyr yr ysbyty am ddynladdiad corfforaethol.
Dr Dewi Evans, y cyn-bediatrydd ymgynghorol o Gaerfyrddin, oedd un o ddau arbenigwr clinigol roddodd dystiolaeth feddygol i Heddlu Swydd Gaer arweiniodd at gael Lucy Letby yn euog.
Ddydd Gwener (Awst 18), cafwyd y nyrs 33 oed yn euog o lofruddio saith o fabanod a cheisio lladd chwech arall o fewn blwyddyn yn Ysbyty Countess of Chester yng Nghaer.
Mae hi wedi’i dedfrydu i oes gyfan o garchar, a fydd hi ddim yn cael ei rhyddhau – y drydedd fenyw i dderbyn y fath ddedfryd.
Letby yn gwrthod ymddangos yn y llys ar gyfer y dedfrydu
Mae Dr Dewi Evans wedi bod yn gweithio yn y maes cyfraith feddygol ers 35 o flynyddoedd, ac mae’n dweud bod achos Lucy Letby yn sefyll allan fel y fwyaf trychinebus iddo’i weld.
Fe wnaeth gweinyddwyr yr ysbyty “wrthod gwrando ar ofidion meddygon” a “methu â rhoi’r flaenoriaeth i’r bobol mewn angen”, meddai wrth golwg360.
“Dyma’r achos fwyaf trychinebus yn y gwasanaeth iechyd yn y 75 mlynedd o’i fodolaeth.
“I feddwl bod nyrs yn fwriadol yn anafu a lladd babanod – mae’r peth yn arswydus.”
Mae Lucy Letby wedi gwrthod mynd gerbron y llys ar gyfer ei dedfrydu a datganiadau teuluoedd y dioddefwyr.
Mae Llywodraeth San Steffan eisoes wedi wynebu galwadau i newid y gyfraith i orfodi troseddwyr i ymddangos gerbron gwrandawiadau o’r fath, ac mae Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi cadarnhau y bydd y llywodraeth yn ystyried gorfodi troseddwyr i fynychu gwrandawiadau o’r fath yn y dyfodol.
Mae Dr Dewi Evans ymhlith y rhai sy’n galw am y newid.
“Maen nhw wedi cael digon o amser, a gallen nhw newid y gyfraith dros nos pe baen nhw’n dymuno,” meddai.
“Dyw gwasanaeth troseddol Lloegr, sy’n cynnwys Cymru yn anffodus, ddim yn wasanaeth rhyfeddol o dda.”
‘Buddiannau a hawliau babanod a’u teuluoedd’
Mae Dr Dewi Evans bellach ymysg y rhai sy’n galw am erlyn gweinyddwyr yr ysbyty a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol am anwybyddu pryderon staff yr ysbyty am y cynnydd mewn cyfraddau marwolaethau.
Mae honiadau bod penaethiaid yr ysbyty wedi methu ag ymchwilio i honiadau blaenorol yn erbyn Lucy Letby, ac wedi methu tawelu ofnau amdani.
Mae honiadau bod yr ysbyty wedi oedi cyn ffonio’r heddlu, er gwaethaf misoedd o rybuddion y gallai’r nyrs fod wedi bod yn lladd babanod.
Cododd ymgynghorydd arweiniol yr uned, Dr Stephen Brearey, bryderon am Lucy Letby am y tro cyntaf fis Hydref 2015.
Doedd dim camau wedi’u cymryd, ac aeth yn ei blaen i ymosod ar bump o fabanod eraill, gan ladd dau.
“Mae’r penderfyniad hwn i’w herlyn yn dibynnu ar yr heddlu ac ar y gwasanaeth yr erlyniad,” meddai Dr Dewi Evans.
“Mae fyny iddyn nhw i holi’r holl reolwyr sydd yn amlwg wedi bod yn esgeulus tu hwnt o ran gwrthod gwrando ar ofidion y meddygon.
“Dydy hyn ddim yn beth sydd yn anodd credu o fy mhrofiad i.
“Roedden nhw’n ystyried ei fod yn fwy pwysig i edrych ar ôl eu buddiannau nhw na hawliau babanod a’u teuluoedd.
“Wnaethon nhw fethu â rhoi’r flaenoriaeth i’r bobol mewn angen.
“Ond nid yn unig yn methu derbyn cyfrifoldeb am y cleifion mwyaf bregus mewn unrhyw ysbyty, ond hefyd yn methu cymryd unrhyw sylw o ofidion meddygon proffesiynol a phrofiadol.
“Mae mor syml â hynny.”
“Record ddiflas” wrth ofalu am y Gwasanaeth Iechyd
Gydag achosion o’r Gwasanaeth Iechyd yn peidio â “chymryd unrhyw sylw” mewn achosion tebyg yn y gorffennol, dydy Dr Dewi Evans ddim yn ffyddiog y bydd unrhyw beth y newid yn fuan.
“Mae hyn wedi digwydd o’r blaen, mewn ysbytai yn Lloegr yn arbennig, lle mae cleifion wedi colli eu bywydau oherwydd gofal esgeulus, ond nid fel rhywbeth bwriadol, ond oherwydd bod neb yn cymryd unrhyw sylw o’r peth,” meddai wedyn.
“Mae mor ddifrifol â hynny, ac ar hyn o bryd dw i ddim yn credu y bydd unrhyw beth yn newid.
“Bydd pawb yn anghofio amdano fe gyda llywodraeth sydd â record ddiflas o edrych ar ôl y Gwasanaeth Iechyd.
“Mae’n fater ofnadwy i’r teuluoedd hyn, ac mae’r achos wedi mynd ymlaen dros gyfnod o chwe blynedd.
“Dw i’n credu y dylai’r heddlu arolygu.”