Bydd angen mwy na 400,000 o raddedigion ychwanegol yng Nghymru erbyn 2035, er mwyn ymateb i fylchau sgiliau a heriau gweithluoedd y dyfodol, yn ôl Jobs of the Future, adroddiad newydd gan Universities UK.

Yn y cyfamser, mae arolwg o gwmnïau FTSE 350 gafodd ei gynnal ochr yn ochr â’r adroddiad yn dangos bod busnesau yn gosod eu golygon yn bendant ar y gronfa dalent yng Nghymru, gydag un ym mhob pump yn bwriadu recriwtio talent o ardal Caerdydd dros y pump i ddeng mlynedd nesaf.

Ar draws y Deyrnas Unedig, bydd angen mwy nag unarddeg miliwn o raddedigion ychwanegol i lenwi swyddi erbyn 2035, gyda’r twf cyflymaf yn y galw am raddedigion ym meysydd STEM, iechyd, addysg a gwasanaethau busnes.

Ar hyn o bryd, mae 15.3m o raddedigion yng ngweithlu’r Deyrnas Unedig, felly mae hynny’n golygu cynnydd sylweddol yn y galw.

Mae disgwyl y bydd datblygiad AI yn benodol yn cael effaith sylweddol ar dueddiadau cyflogi, gyda graddedigion yn debygol o elwa o’r maes hwn sy’n tyfu’n gyflym.

O ganlyniad i AI, bydd cynnydd net o 10% yn y swyddi yn y Deyrnas Unedig y bydd angen gradd ar eu cyfer dros yr ugain mlynedd nesaf, gan gynnwys bron i 500,000 yn rhagor o swyddi proffesiynol a gwyddonol.

Mae’r newidiadau arwyddocaol hyn i’r tirlun cyflogaeth yn tanlinellu pwysigrwydd cynyddol dysgu gydol oes hefyd.

Dywedodd dros hanner (54%) yr ymatebwyr i arolwg y FTSE350 eu bod yn disgwyl y bydd angen i weithlu’r dyfodol ailhyfforddi o leiaf unwaith yn ystod eu gyrfa o ganlyniad i gyflymder aruthrol newidiadau technolegol.

Prinder sgiliau’n achosi pryder

“Mae mwy na chwarter gweithlu presennol y Deyrnas Unedig heb ddigon o gymwysterau ar gyfer y swydd y maen nhw ynddi – ac mae’r blynyddoedd lawer o dwf di-baid yn y galw am raddedigion yn golygu ein bod yn ceisio dal i fyny er mwyn arfogi ein cyflogwyr â’r hyn sydd ei angen arnynt i lwyddo,” meddai Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru.

“O iechyd a thechnoleg i sgiliau digidol ac addysg, mae graddedigion prifysgol yn elfen hanfodol ar gyfer llwyddiant yr economi, ond mae’n bwysig ein bod ni’n cael ein harfogi i allu parhau i ddiwallu’r angen hwn – a’n bod yn sicrhau bod addysg uwch yn fforddiadwy ac yn hygyrch a bod lefel uchel yr addysg a ddarperir gan ein sefydliadau ar hyn o bryd yn cael ei chynnal.”

Yn ôl Alex Hall-Chen, Prif Ymgynghorydd Polisi ar gyfer Cynaliadwyedd, Sgiliau a Chyflogaeth yn Sefydliad y Cyfarwyddwyr, “mae prinder parhaus a dybryd o ran sgiliau yn un o’r pryderon sy’n pwyso fwyaf ar fusnesau’r Deyrnas Unedig”.

“Mae’r galw am sgiliau trosglwyddadwy – fel meddwl yn feirniadol a chyfathrebu – yn parhau’n gryf ar draws pob sector, a bydd sector addysg uwch y Deyrnas Unedig yn chwarae rôl allweddol yn datblygu llif o dalent gyda’r sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau er mwyn ffynnu.”