Does dim digon o blant yn ymddiddori mewn pysgota, medd pysgotwr sy’n bencampwr byd.
Bydd Hywel Morgan yn rhedeg Pentref Pysgota Ffair Gêm Cymru, sy’n cael ei chynnal ar Stad y Faenol ger Bangor ddechrau mis nesaf.
Mae’r digwyddiad yn gyfle i glybiau pysgota arddangos eu gwaith, a cheisio annog mwy o blant i gymryd rhan, meddai’r pysgotwr o Geredigion.
Bydd y sioe yn cynnwys gwahanol elfennau, popeth o fwyeill i gadwraeth, saethu a bywyd gwyllt, ac mae disgwyl iddi ddenu 20,000 o bobol ar Fedi 9 a 10.
Ynghyd â hynny, mae Hywel Morgan yn pwysleisio pwysigrwydd pysgota er budd afonydd.
“Does dim digon o blant yn dod mewn i’r byd pysgota ac ar ddiwedd y dydd pysgotwyr ydy’r bobol sy’n edrych ar ôl afonydd Cymru,” meddai Hywel Morgan, sy’n bencampwr byd mewn castio plu, wrth golwg360.
“Os na bod pysgotwyr y dyfodol yn dod lan, pwy fydd yn edrych ar ôl yr afonydd a’r clybiau ffantastig yma sydd gyda ni yn y dyfodol?”
Bydd yr ardal Bysgota hefyd yn cynnwys cyfleoedd hyfforddi i oedolion a phlant, a bydd Pencampwriaeth Castio Prydain Fawr y Ffair Gêm yn cael ei chynnal yno, a’r goreuon o Gymru, yr Alban a Lloegr yn mynd benben.
“Fydd yna dair arddangosfa castio pluen drwy’r dydd, mae yna hefyd arddangosfa cwryglau – sut oedden nhw’n arfer defnyddio cwryglau a bydd cyfle i bawb fynd allan ar y cwrwgl hefyd,” meddai Hywel Morgan wedyn.
“Mae bois lan o lawr ar y Teifi, maen nhw’n dod â chwryglau wedyn fydd hawl gan bobol i fynd allan ar y llyn mewn cwrwgl hefyd.”
‘Manteision therapiwtig’
Yn ôl y pysgotwr, dylai meddygon yng Nghymru allu rhoi pysgota ar bresgripsiwn i bobol sy’n dioddef ag iselder.
“Mae manteision therapiwtig pysgota yn enfawr ac yn Lloegr mae sawl awdurdod iechyd bellach yn rhoi cyrsiau pysgota yn lle cyffuriau gwrth-iselder ar bresgripsiwn ar gyfer materion iechyd meddwl,” meddai.
“Mae pobol sy’n dioddef o iselder yn cael sesiynau pysgota ac mae pob pysgotwr yn gwybod bod y byd yn stopio pan fyddwch chi’n mynd i bysgota.
“Yr unig reswm rydych chi’n mynd â ffôn symudol gyda chi i bysgota yw i dynnu llun o’r pysgodyn rydych wedi’i ddal.
“Rydych chi’n anghofio am straen bywyd ac mae’n ffordd wych o ymlacio.
“Mae’n ardderchog bod byrddau iechyd yn Lloegr bellach yn cydnabod hyn ac mae angen i ni weld hyn yn digwydd yma yng Nghymru hefyd.
“Mae yna sefydliad dros y ffin o’r enw Tackling Minds ac maen nhw’n gwneud gwaith gwych ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn, iawn wrth helpu pobol ag iselder.”
‘Gofalu am ddyfroedd’
Dywed James Gower, prif weithredwr Stable Events sy’n trefnu’r digwyddiad ochr yn ochr â’r Game Fair a’r Scottish Game Fair, ei fod yn cefnogi galwadau Hywel Morgan.
“Cafodd llawer o bobol eu denu i bysgota yn ystod cyfnod clo Covid oherwydd dyma un o’r chwaraeon cyntaf i ailagor a’ch galluogi chi i fynd allan i’r awyr agored a mwynhau cefn gwlad,” meddai.
“Mae hynny’n bwysig iawn i iechyd ein hafonydd hefyd gan mai pysgotwyr yw llygaid a chlustiau ein dyfroedd – nhw sy’n dod i wybod am lygredd yn gyntaf ac yn seinio’r rhybudd.
“Dyna pam mae’n bwysig cael plant i gymryd rhan o gyfnod cynnar oherwydd nhw fydd y rhai fydd yn gofalu am ein hafonydd, llynnoedd a’n nentydd yn y dyfodol.”