Mae ymgyrch ar droed i roi terfyn ar lygredd yn afon Teifi.
Nod yr ymgyrch yw monitro ansawdd afonydd drwy annog rheoleiddwyr a phleidiau gwleidyddol i weithredu a gweithio mewn partneriaeth â nifer o fudiadau.
Mae afon Teifi’n ffurfio’r rhan fwyaf o’r ffin rhwng Ceredigion a Chaerfyrddin a thair milltir ola’r ffin rhwng Ceredigion a Sir Benfro.
“Prif nodau ac amcanion yr ymgyrch yw rhoi terfyn ar lygredd carthion, lleihau lefelau cemegau niweidiol, er enghraifft, Nitradau a Ffosffadau, a dod â byd natur yn ôl o’r dibyn,” meddai Bobby Kelly, Swyddog Ymgyrchoedd y Wasg ymgyrch Achub y Teifi.
“Ar hyd Afon Teifi, mae cryn broblem gyda rhywogaethau ymledol fel Canclwm Japan.
“Nod arall yw monitro ansawdd afonydd, gan ddwyn llygrwyr i gyfrif ac annog rheoleiddwyr a phleidiau gwleidyddol i weithredu a gweithio mewn partneriaeth â chymunedau, ffermwyr, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr ymddiriedolaeth afonydd a Dŵr Cymru i adfer yr afon a’i nodweddion.”
Taith ar hyd afon Teifi
Roedd taith gerdded lwyddiannus gyda niferoedd uchel a llawer i ddiddanu.
“Cawsom daith yr afon Teifi, a fu’n llwyddiannus,” meddai Bobby Kelly.
“Roedd hynny ar Awst 11, a wnaethon ni gychwyn o Lechryd.
“Roedd 70 o bobol, ond roedd yn cynnwys 100 o bobol unwaith roeddem yng Nghilgerran.
“Yn ystod y daith, cafwyd sgwrs gan yr Athro Callum Firth.
“Wrth gerdded, roedden ni’n canu gyda chôr Llandrindod – cân a benodwyd gan Piers Partridge ar gyfer mudiad Achub y Teifi.
“Perfformiodd Côr Llandudoch sawl cân, gan gynnwys cân arbennig ‘Leave us a river’ a ysgrifennwyd gan Piers Partridge, sydd hefyd yn mynd â’i ganeuon i ysgolion.
“Roedd caneuon eraill yn cynnwys geiriau wedi’u haddasu i ‘Save the Teifi’.
“Cawsom straeon wedi’u hadrodd.
“Perfformiad gan grŵp Teifi Ukelele, barddoniaeth, bwyd gan y Welsh Rebel Kitchen, cerddoriaeth gan Reel Rebels, perfformiad gair llafar, a drymio gan Saint Dogmaels.”
Ymgyrch dorfol
Mae’r ymgyrchwyr wedi sefydlu cronfa Crowdfunder “lwyddiannus iawn” i gynnal y daith gerdded, meddai wedyn.
“Mae wedi pasio ei derfyn targed o £1,000.
“Mae ganddon dri diwrnod ar ôl, ac mae wedi cyrraedd £1,355.”
Mae ganddyn nhw ddeiseb ‘Gweithredu i gynyddu effeithiolrwydd Cyfoeth Naturiol Cymru o ran atal llygredd ar Afon Teifi’ hefyd, sydd efo 643 o lofnodion ar wefan Senedd Cymru.
“Mae’r afon Teifi yn marw oherwydd lefelau llygredd,” meddai’r ddeiseb.
“Rydym yn galw ar y Senedd i gynyddu’r cyllid a roddir i Gyfoeth Naturiol Cymru i’w alluogi i gyflawni ei rwymedigaethau mewn perthynas â monitro iechyd yr afon a gorfodi gofynion cyfreithiol.
“Rydym hefyd yn galw ar y Senedd i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei ddwyn i gyfrif am ei berfformiad. Byddai hyn yn helpu i ddiogelu’r Teifi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, fel y cynigir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.”
Gorlifo
Mae’r wefan https://top-of-the-poops.org yn dangos yr holl Orlifoedd Storm Cyfun yng Nghymru a Lloegr orlifodd y llynedd, gan ddympio carthion amrwd neu garthion wedi’u trin cyn lleied â phosibl i nentydd sialc bregus, afonydd, traethau ac ardaloedd pysgod cregyn.
Yn ôl Bobby Kelly, mae lefelau gorlifiadau uchel yng Nghymru.
“Fel mae’n digwydd, mae chwech o’r deg etholaeth wedi’u lleoli yng Nghymru,” meddai am yr ardaloedd lle mae’r lefelau uchaf o orlifiadau.
“Mae’n adroddiad sy’n seiliedig ar y Deyrnas Unedig.”